Trelái: Galw am gyfathrebu clir yn dilyn yr anhrefn

Mae gwleidyddion wedi galw am "gyfnod o lonyddwch" ar ôl i anhrefn ddigwydd yng Nghaerdydd nos Lun, yn dilyn gwrthdrawiad ble bu farw dau fachgen.

Cafodd heddlu terfysg a'r gwasanaethau brys eu galw ar ôl i tua 100 i 150 o bobl ymgasglu yn ardal Trelái wedi'r gwrthdrawiad am tua 18:00.

Mae BBC Cymru'n deall mai Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, yw'r ddau berson ifanc fu farw.

Fe gafodd ceir eu rhoi ar dân a gwrthrychau - gan gynnwys tân gwyllt - eu taflu at yr heddlu, a chafodd rhai eu gweld yn torri darnau o bafin a'u taflu.

Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan, wedi galw am ymchwiliad i'r hyn ddigwyddodd.

Ychwanegodd ar Dros Ginio fod angen cyfathrebu clir a chefnogaeth ar y gymuned.