Lluniau: Adeiladau anghofiedig Cymru
- Cyhoeddwyd
![Capel yn ardal Abertawe](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/E156/production/_131068675_swansea_chapel.jpg)
Capel mawreddog, Abertawe
Dim ond ers cwta bum mlynedd mae Steve Liddiard yn tynnu lluniau, ond mae'r ffotograffydd o Abertawe wedi curo ffotograffwyr ledled y byd i ennill gwobr Ffotograffydd Hanesyddol y Flwyddyn am y ddwy flynedd ddiwetha'.
Mae'n crwydro Cymru yn dogfennu rhai o'n hadeiladau amddifad, anghofiedig, er mwyn eu rhoi ar gof a chadw, cyn iddyn nhw fynd ar goll am byth. Yma, mae'n egluro mwy:
![line](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/4B4C/production/_128867291_81307acf-d061-46d8-9bb3-0424542fc2e8.jpg)
![Capel mawreddog, Abertawe.](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/16A63/production/_131117729_20230508_110151-1.jpg)
Capel, Abertawe. Mae natur yn ceisio adennill y llecyn yma lle cafodd y capel ei adeiladu - a'i adael - flynyddoedd yn ôl
'Nes i ddechrau tynnu lluniau rhyw bum mlynedd yn ôl. Ro'n i'n diodde' llawer gyda gor-bryder a ges i fy nghynghori i fynd am dro i helpu.
Dyna pryd 'nes i ddechrau tynnu lluniau gyda fy ffôn, ac ar ôl eu rhannu gyda ffrindiau ac ar y cyfryngau cymdeithasol a chael ymateb da, 'nes i gael mwy o offer fel camera DLSR a drôns drud i fynd â'r peth i'r lefel nesa'.
![Capel yn ardal Abertawe](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/12F76/production/_131068677_swansea_chapel3.jpg)
Capel, Abertawe. Mae'r addoldy gwag mewn cyflwr gwael, ond mae'r ffenestri lliw hardd dal ar ôl
Mae rhai o'r lleoliadau hanesyddol rwy' wedi tynnu eu llun bellach wedi diflannu, felly mae 'na hefyd ochr bwysig i'r prosiect o ran cadwraeth gweledol.
Fy mwriad yw i ddogfennu a dal y lleoliadau yma cyn iddyn nhw gael eu colli am byth.
![Bwthyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/F91B/production/_131117736_manor-2.jpg)
Bwthyn yn dechrau mynd â'i ben iddo, de Cymru
![Dorothea](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/133C2/production/_131068787_dinorwig.jpg)
Chwarel Dorothea, gogledd Cymru
Rydw i'n gwneud llawer o ymchwil i mewn i'r lleoedd yma. Rwy' fel arfer yn defnyddio mapiau OS, sydd yn dangos mapiau hŷn y gallwch chi eu gosod dros fapiau mwy modern. Mae'r hen fapiau yn dangos beth oedd yn arfer bod, yn gapel neu'n blasdy...
Rwy'n gweithio o fewn tîm bach iawn o ffotograffwyr; fel arfer, ry'n ni'n mynd i'r llefydd yma gyda'n gilydd, ac yn ein sgyrsiau ar-lein, yn rhannu lleoliadau a mannau o ddiddordeb, ac yn gweithio gyda'n gilydd i gasglu cliwiau er mwyn gweithio mas lleoliad. Mae'r we, wrth gwrs, wedi helpu'n aruthrol gyda'r ymchwil.
![Maenoffren](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/263A/production/_131068790_dji_0613.jpg)
Adfeilion o Chwarel Maenofferen, gogledd Cymru
![Plasty yn dyddio i 1777](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/4516/production/_131068671_manor3.jpg)
Plasty yn dyddio i 1777, de orllewin Cymru. Cafodd ei droi yn ysgol fonedd yn yr 1950au
Rwy'n teimlo fod angen amddiffyn union leoliadau'r safleoedd yma. Er fod y rhan fwyaf mewn stad ofnadwy, mae 'na beryg y byddai pobl yn mynd i'r lleoliadau 'ma am resymau sinistr.
Os oes gennych chi'r diddordeb a'r amser, gallech chi ddod o hyd i'r llefydd yma ar eich pen eich hun, neu'n 'nabod rhywun sydd yn gwybod amdano. Ond mae e i gyd am geisio diogelu a chofnodi'r llefydd yma, fel y gallen nhw oroesi cyn hired â phosib.
![Capel hardd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/E841/production/_131075495_capel_gogledd.jpg)
Capel hardd diarffordd, gogledd Cymru. Mae beiblau wedi eu gadael ar y seddau, wedi eu gadael ers y gwasanaeth ddiwethaf
![Y 'Capel Glas', gogledd Cymru](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/83EB/production/_131117733_20230710_145602.jpg)
Y 'Capel Glas', gogledd Cymru. Mae modd gweld olion y paent glas ar y waliau
Gallai fod yn beryglus. Y rhan fwyaf o'r amser, dydw i ddim yn mynd fy hun, neu os yw'n safle diogel, rwy' dal yn gadael i'n nheulu a ffrindiau wybod lle ydw i. Wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o'r llefydd yma yn anghysbell ac yn guddiedig, felly os gewch chi ddamwain, mae cael help am fod yn anodd iawn.
Gallwch weld fod strwythurau rhai o'r adeiladau ddim yn ddiogel, felly bydden i wastad yn tynnu lluniau o'r tu fas. Peidiwch byth â rhoi eich hun mewn perygl ar gyfer llun!
![Manor House, Ynys Môn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/18481/production/_131075499_dji_0324.jpg)
Manor House, Ynys Môn. Ymwelodd y Brenin Edward VII yno unwaith, gyda'i deulu
![car](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/13A49/production/_131075408_dji_0022-2.jpg)
1953 Daimler Conquest Saloon mewn hen adfail, ger Wrecsam
O'n i'n ddigon lwcus yn 2021 i ennill Ffotograffydd Hanesyddol y Flwyddyn 2021 am fy llun o Oleudy Whiteford ar y Gŵyr. Cafodd y llun yma ei rannu ledled y byd, o Asia i CNN America.
![Goleudy Whiteford, y Gŵyr](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/D20B/production/_131117735__121779724_1-overallwinner-steveliddiard-whitefordlighthousegowerwales.jpg)
Goleudy Whiteford, y Gŵyr
![Olwyn ddŵr](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/79DC/production/_131069113_waterwheel.jpg)
Olwyn ddŵr danddaearol, canolbarth Cymru. Roedd yr olwyn, sy'n 160 oed, yn rhan o system ddraenio mewn mwyngloddfa, ac yn codi'r mwyn i lefel nesaf y gloddfa, cyn iddo gyrraedd y brif siafft
Ges i sioc eleni, mod i wedi ennill Ffotograffydd Hanesyddol y Flwyddyn eto yn 2022 am fy llun o felin wlân anghofiedig, lle mae natur yn dechrau cymryd drosodd. Roedd 'na tua 1300 o ymgeisiadau eleni, gan ffotograffwyr proffesiynol ac amatur o bedwar ban byd.
![Melin wlân yng nghanolbarth Cymru](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/17D96/production/_131068679_melinwlan.jpg)
Melin wlân, canolbarth Cymru. Mae'r gwlân lliwgar dal ar y silffoedd ers i'r adeilad gael ei adael 50 mlynedd yn ôl, ond mae gwyrddni byd natur yn dechrau cymryd gafael bellach