Dirgelwch stafell goll Castell Gwydir

  • Cyhoeddwyd
Castell GwydirFfynhonnell y llun, Castell Gwydir
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Parlwr Derw ar goll ers yr 1930au

Mae perchnogion tŷ o gyfnod oes y Tuduriaid yn Nyffryn Conwy yn apelio ar y cyhoedd i'w cynorthwyo i ddod o hyd i ddarnau o ystafell yn eu cartref sydd ar goll... ac nid am y tro cynta'.

Yn ôl neges o gyfrif Facebook Castell Gwydir, dolen allanol ger Llanrwst, maen nhw'n gwneud apêl 'yn flynyddol' i geisio dod o hyd i rannau o barlwr derw'r castell, sy'n dyddio i tua'r 16eg ganrif, a gafodd ei brynu gan y gŵr busnes o Unol Daleithiau America, William Randolph Hearst yn 1921.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Castell Gwydir

Adfer adfail

Chwilio am fwthyn oedd Judy Corbett a Peter Welford, pan y daethon nhw ar draws Castell Gwydir yn 1994, a syrthio mewn cariad efo fo.

Wedi ei leoli rhyw filltir o dref Llanrwst, mae'r castell ei hun yn dyddio i tua 1490, gyda rhannau ohono hyd yn oed yn hŷn.

Roedd Catrin o Ferain yn byw yno yn yr 1570au, ac mae'n debyg fod gan y castell gysylltiad â'r Archesgob William Morgan, a hyd yn oed y Cynllwyn Powdr Gwn. Bu hefyd yn eiddo i deulu'r Wynn yn yr 16eg ganrif, teulu blaenllaw yn y cyfnod, a honnai fod yn ddisgynyddion i dywysogion Gwynedd.

Roedd wedi cyfnewid dwylo ddegau o weithiau dros y canrifoedd, ac erbyn yr 1990au, roedd wedi mynd â'i ben iddo, felly aeth Judy a Peter ati i geisio'i adfer - gwaith sydd yn ddiddiwedd, eglurodd Judy.

"Roedd yn adfail; roedd yna geffylau a ieir yn byw tu mewn!" cofiai.

Ffynhonnell y llun, Castell Gwydir
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Castell Gwydir ddim yn edrych yn union fel castell pan brynodd Judy a Peter y safle yn 1994

"Mae'r gwaith yn parhau, ond 'dan ni wedi dod ymlaen yn anhygoel o lle ddechreuon ni, pan oedden ni'n campio yn y tŷ, a heb lawer o do, a dim trydan. Roedd bryd hynny'n anodd, ac mae'r gaeafau dal i fod yn anodd; dydi o ddim i bawb.

"Mae hi wedi bod yn her a hanner, ond mae'n agos at ein calonnau. Mae'n alwedigaeth. 'Dan ni wedi ymrwymo i adfer y tŷ."

Gwerthu Gwydir

Ac un o'r heriau mwyaf, o bosib, yw ceisio dod o hyd i rannau o'r castell a gafodd eu gwerthu mor bell yn ôl ag 1921, gan un o'r cyn-berchnogion.

"Cafodd arwerthiant ei gynnal yn 1921, ac fe gafodd yr ystâd ei leihau i'r tŷ a 10 acer o ardd, sef beth sydd gennym ni heddiw," meddai Judy.

Ffynhonnell y llun, Castell Gwydir
Disgrifiad o’r llun,

Roedd arwerthiant o dir ac eiddo Castell Gwydir yn 1921

"'Naethon nhw hefyd fynd gam ymhellach a gwerthu'r casgliad o ddodrefn cynnar oedd wedi eu creu ar gyfer Syr John Wynn yn y 16eg ganrif, ynghyd â phaneli dwy ystafell.

"Daeth cymydog draw efo llyfryn yr arwerthiant, oherwydd roedd ei daid wedi bod yn bresennol yno yn 1921. Roedd o'n anhygoel, gyda llun o bob eitem oedd ar werth. Roedd hwn yn gasgliad pwysig o ddodrefn a oedd yn gysylltiedig â theulu Wynn - a oedd yn deulu Cymreig blaenllaw - ac wedi eu haddurno ag arfbeisi'r tywysogion Cymreig."

A dyna fynd ati i geisio dod o hyd i rannau coll o'u cartref newydd, taith a aeth â nhw i Efrog Newydd.

Ffynhonnell y llun, ilbusca
Disgrifiad o’r llun,

Prynodd William Randolph Hearst - yr ysbrydoliaeth am Citizen Kane - rannau o'r parlwr derw a'r ystafell fwyta yn 1921

Eiddo Citizen Kane

Roedd gan gwmni'r arwerthwyr ryw syniad fod y dyn busnes William Randolph Hearst - yr ysbrydoliaeth tu ôl i'r cymeriad Citizen Kane - rhywbeth i'w wneud â'r arwerthiant, ac yn wir, roedd wedi prynu dwy ystafell o Gastell Gwydir; y Parlwr Derw a'r Ystafell Fwyta.

Sut felly oedd mynd ati i gael y stafelloedd yma yn ôl? Bu'n rhaid i Judy a Peter wneud ychydig o waith ditectif, eglurodd Judy.

"Cysyllton ni ag Amgueddfa Getty, sydd â'r holl ddogfennau sy'n ymwneud â theulu Hearst, wedyn San Simeon, lle mae Hearst Castle, un o dai William Randolph Hearst... ac yn y diwedd, cysyllton ni â'r Metropolitan Museum of Art yn Efrog Newydd.

"Ac roedd ganddyn nhw'r ystafell fwyta."

Ffynhonnell y llun, Castell Gwydir
Disgrifiad o’r llun,

Cratiau yn cynnwys rhannau o Ystafell Fwyta Castell Gwydir wedi cyrraedd adref ar ôl bod yn Efrog Newydd ers 1921

Cytunodd yr amgueddfa i werthu'r ystafell yn ôl i Judy a Peter, ac aeth y ddau allan i Efrog Newydd i weld rhai o'r paneli coll roedden nhw wedi bod yn chwilio amdanyn nhw.

"Aethon ni i'w gweld mewn warws, ac roedd o'n foment anhygoel, fel gweld beddrod Tutankhamun, achos roedd y lle yn llawn trysorau, a dyna lle oedd cratiau yn llawn o'n paneli ni.

"Doedden nhw ddim wedi cael eu tynnu allan ers iddyn nhw adael Gwydir yn 1921, felly roedd hi'n fythgofiadwy eu hagor a'u gweld nhw. Wrth i ni agor y cratiau, roedden nhw dal i ogleuo fel Gwydir - lludw pren a chŵyr gwenyn."

Mae'r Ystafell Fwyta nawr yn ôl yn ei chartref gwreiddiol ers 1996.

Ffynhonnell y llun, Castell Gwydir
Disgrifiad o’r llun,

Yr Ystafell Fwyta - cynt a wedyn

Dal i chwilio

Fodd bynnag, mae paneli y Parlwr Derw dal ar goll.

"Mae'r ail ystafell yn llawer anoddach i'w ffeindio," eglura Judy, "oherwydd roedd Hearst wedi ei arddangos yn ei fflat, y Clarendon yn Efrog Newydd. Mae yna ffotograffau ohono yn ei lyfrgell yn 1929.

"Ond aeth yn fethdalwr, ac fe gafodd y Clarendon ei werthu, a phopeth eu tynnu allan, a dyna lle rydym yn colli trywydd y paneli.

"Lle aeth yr ystafell o'r Clarendon?"

Ffynhonnell y llun, Library of Congress
Disgrifiad o’r llun,

Llun o'r lle tân mawreddog o Gastell Gwydir yn llyfrgell William Randolph Hearst yn ei fflat yn Efrog Newydd yn 1929

Maen nhw wedi treulio blynyddoedd yn cysylltu â swyddfeydd cofnodion draw yn America, ac hyd yn oed yn agosach at adref, meddai Judy. Prynodd William Randolph Hearst Gastell Sain Dunwyd, ger Llanilltud Fawr, yn 1925, ond yn anffodus, does dim sôn am y paneli derw yno 'chwaith.

Dyna pam felly, fod Judy a Peter yn gobeithio y bydd pŵer y cyfryngau cymdeithasol yn eu helpu i ddod o hyd iddyn nhw. Maen nhw eisoes wedi derbyn cannoedd o sylwadau ar y neges Facebook, gydag awgrymiadau ynglŷn â lle gallan nhw chwilio amdanyn nhw, a nifer yn rhannu'r apêl er mwyn cyrraedd gymaint o bobl â phosib.

"Mae'n dal yn nychymyg y cyhoedd rhywsut," meddai Judy. "Mae mor bwysig i amddiffyn ein hanes ni.

"Mae'n lle tân hawdd i'w adnabod, oherwydd holl symbolau'r Wynniaid arno, felly ar ddiwedd y dydd, dwi'n meddwl ella mai beth fydd yn digwydd yw bydd rhywun yn dweud 'dwi wedi gweld y lle tân 'na... mae o mewn Country Club yn Ohio' neu rywbeth! Dwi'n gobeithio mai dyna ddigwyddith!

Croesi bysedd felly y daw'r darnau i'r fei un dydd, ac y bydd Parlwr Derw alltud Castell Gwydir yn cael dod nôl adref i Gymru unwaith eto.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig