Golwg ar rai o eglwysi digyfaill Cymru
- Cyhoeddwyd
Ar 3 Gorffennaf 1957, sefydlodd Cymro o Gwmbrân, Ivor Bulmer-Thomas, sefydliad er mwyn gwarchod addoldai nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio bellach - ond sydd o ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol - rhag dirywiad neu gael eu dymchwel.
Torrodd calon Ivor o weld yr eglwys ganoloesol St Pete the Less yn Chichester yn cael ei dymchwel, ac roedd yn benderfynol o atal hyn rhag digwydd eto. Sefydlodd Gyfeillion Eglwysi Digyfaill er mwyn diogelu eglwysi a chapeli yn y Deyrnas Unedig i'r gymuned.
Bellach mae'r sefydliad yn gofalu am dros 64 eglwys yn Lloegr a Chymru. Yma mae Rachel Morley, ei gyfarwyddwr, wedi dewis ei hoff eglwysi hi yng Nghymru o blith y 32 sydd o dan eu gofal.
Eglwys y Santes Fair, Tal-y-Llyn, Ynys Môn
Eglwys y Santes Fair yw'r cyfan sydd ar ôl o dref ym Môn a gafodd ei dileu gan y pla. Mae'r eglwys yn sefyll ar dwmpath uchel yng nghanol mynwent gron neu 'llan', sy'n awgrymu safle cynhanesyddol.
Mae enw'r dref, Tal-y-Llyn yn golygu 'uwchben y llyn' - ac yn wir, mae'r eglwys yn edrych dros Lyn Padrig, llyn bach o ddŵr croyw.
Adeiladwyd yr eglwys hon fel capel anwes i Lanbeulan, sydd ychydig filltiroedd i ffwrdd a sydd hefyd yn ein gofal.
Credwn fod y gangell yn dyddio o'r 16eg ganrif. Mae'r cysegr wedi'i leinio â phaneli glas gydag addurniad chevron-esque braidd yn jazzy, ac wedi'i warchod gan reilen isel, drwchus wedi'i harysgrifio ag 'OP 1764'.
Yn Eglwys y Santes Fair cewch grefydd diymhongar, syml. Mae pawb yn eistedd ar fainc heb gefn. Dyma ofod lle nad oes unrhyw wahaniaeth yn ôl cyfoeth, statws, oedran na rhyw. Mae pawb yn eistedd gyda'i gilydd.
Eglwys Sant Ellyw, Llanelieu, Powys
Yn ddwfn yn y Mynyddoedd Duon mae mynwent hirgrwn hynafol yn amgylchynu eglwys sydd wedi dal gafael ar ochr y mynydd ers dros 800 mlynedd. Tu mewn, mae croglen sydd wedi goroesi er gwaethaf popeth.
Cafodd y llen ei gerfio yn y 15fed ganrif. Mae'r cefndir coch wedi ei addurno gyda stensiliau o rosod gwyn. Yn y canol, mae croes wedi ei naddu yn y pren, yn atgof o'r groes a gafodd ei gymryd oddi yma yn ystod y Diwygiad.
Chwe choes wedi eu mowldio sydd yn cynnal y llen; yn wreiddiol byddai rhain wedi eu hamgáu gan baneli i greu dwy allor fach bob ochr.
Cyflwynwyd rheilen dderw'r allor yn y 17eg ganrif yn unol â gorchymyn yr Archesgob Laud a oedd yn ceisio stopio cŵn rhag crwydro i mewn i'r gysegrfan. Daw golau i mewn drwy'r ddwy ffenestr lansed o'r 13eg ganrif ar y wal ogleddol.
Mae'r waliau'n gybolfa o blastr canoloesol trwchus, stensilio, addurniadau wedi eu gwneud â llaw, a chofebau o lechen a marmor. Mae rhai paentiadau wedi eu dadorchuddio yn ddiweddar, gan gynnwys Adda ac Efa a'r Goeden Bywyd gyda phen y sarff.
Mae paneli o destun o'r 17eg ganrif yn torri drwy'r wyneb ac mae llew aur ar ei draed ôl yn aros yn amyneddgar y tu draw i'r drws deheuol.
Eglwys Sant Mihangel, Castellmartin, Sir Benfro
Mae safle'r eglwys yng Nghastellmartin wedi ei dorri i mewn i graig serth. Mae'n bosib fod y ffaith ei fod yn agos at nant a dwy ffynnon sanctaidd wedi rhoi arwyddocâd ysbrydol i'r safle hwn.
Mae'r safle wedi ei amgylchynu gan gloddiau pridd hen wersylloedd, rhai cynhanesyddol o bosib, tomen gladdu hynafol a chyn ficerdy, tra bod nifer o lwybrau pererindod yn arwain tuag at yr eglwys.
Yn bensaernïol, gallwn osod yr eglwys ar ddiwedd y 12fed ganrif pan oedd y plwyf yn mwynhau cyfoeth a statws oherwydd ei ddigonedd o bridd ffrwythlon, llawn calch a oedd yn ffafriol ar gyfer ffermio cnydau.
Y bedyddfaen sgolpiog enfawr a'r arcêd ogleddol yw gweddillion gweledol hynaf yr eglwys gynnar.
Mae'r wynebau cerfiedig bach ar yr arcedau wedi eu disgrifio fel rhai sydd ag "ymddangosiad tebyg i farwolaeth, gyda llygaid caeedig a thrwynau a gwefusau wedi crebachu". Mae hi'n ddiddorol nodi fod y mygydau yma yn wynebu'r gogledd, sef yn draddodiadol ochr dywyll neu 'ddiafolaidd' yr eglwys, a'u bod, o bosib, yn ffigyrau amddiffyn.
Comisiynodd ail Iarll Cawdor waith i adfer yr eglwys ar ddiwedd yr 1850au. Cafodd yr eglwys do, ffenestri a llawr newydd, ychwanegwyd y festri ac ailadeiladwyd y drysau. Mae teils lliwgar, sydd wedi'u haddurno ag arfbais Iarllaeth Cawdor, yn addurno llawr y gangell.
Eglwys y Santes Fair, Llanfair Cilgedin, Sir Fynwy
Eglwys y Santes Fair yw un o'r eglwysi y brwydron ni galetaf i'w mabwysiadu. Yn 1982, ar ôl i ambell i grac ymddangos, cyhoeddodd yr awdurdodau fod yr eglwys restredig Gradd I ddim yn ddiogel, ac y dylai gael ei dymchwel. Yn dilyn blynyddoedd o ymgyrchu, cafodd yr eglwys ei rhoi i'n gofal ni yn 1989.
Tu mewn i'r eglwys mae enghraifft ryfeddol o'r symudiad Celf a Chrefft, gyda seintiau a thymhorau, planedau a phomgranadau, morfilod a walrysod wedi eu sgathru i blastr y wal.
Mae'r paneli yn portreadu'r Benedicite; emyn o fawl i greadigaeth Duw. Maen nhw'n adlewyrchu cynhesrwydd y tri haf (1888-1890) pan gawsant eu creu gan yr artist, Heywood Sumner.
Yn O Ye Children of Men, câi pob cyfnod bywyd ei gynrychioli, o'r fam yn syllu'n gariadus ar ei babi, i gorff mewn amdo; merch ifanc yn chwarae gyda phili-pala, ar goll yn niniweidrwydd ei phlentyndod; gerllaw, bachgen ysgol yn cerdded tuag at ei henaint, sydd i'w weld drwy'r cylch yn ei law; o'i flaen mae gweithwyr y tir a'r môr yn cymryd hoe o'u gwaith.
Yn O Ye Mountains and Hills, tynnodd Sumner ar y tirwedd o'i amgylch, ble mae afon Wysg yn cerfio'i ffordd drwy'r cwm, a'r bryniau, gan gynnwys Mynydd Pen-y-Fâl, yn cwrdd â'r awyr o dan enfys lachar.
Eglwys Sant Baglan, Llanfaglan, Gwynedd
Mae eglwys Sant Baglan yn sefyll ar ei phen ei hun mewn lleoliad hynod ramantus yn edrych dros Fae Caernarfon.
Roedd muriau cynharaf yr eglwys yn dyddio o'r 13eg ganrif ond cymerodd bedair canrif arall i gyrraedd ei ffurf presennol.
Wrth i chi ddod i mewn i'r eglwys edrychwch ar silff a lintel wal ddwyreiniol y porth. Yma mae dwy groes-slab yn dyddio o tua'r 14eg ganrif. Mae'r ddwy garreg wedi'u cerfio â chroesau, ond mae'r slab isaf hefyd yn cario delwedd llong.
Y tu mewn, uwchben y drws, mae carreg gerfiedig gynnar iawn, o'r bumed neu'r chweched ganrif, sydd wedi'i hailddefnyddio fel lintel. Mae hwn wedi'i arysgrifio â Fili Lovernii Anatemori, sef ffurfiau Lladinaidd o'r enwau Brythoneg Lovernius ac Anatemorus. Yn ei safle unionsyth cywir, byddai'n darllen Anatemori Fili Lovernii.
Mae tu mewn yr eglwys yn ein hatgoffa o fywyd cymdeithasol y 18fed ganrif, gyda chymysgedd o seddi cefn agored a seddau bocs mwy crand i'r pentrefwyr cyfoethocach, gan gynnwys un o Ynys Môn, a fyddai yn aml yn ychwanegu eu dyddiad a'u llofnod eu hunain.
Hefyd o ddiddordeb: