Chwilota trefol: Cofnodi hanes hen adfeilion ysbyty Dinbych

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Gogledd CymruFfynhonnell y llun, Lynne Illidge/@l.i.photography
Disgrifiad o’r llun,

Mae chwilota hen adeiladau fel Ysbyty Gogledd Cymru bellach yn weithgaredd hynod o boblogaidd

Mae'n ddiddordeb sydd ar gynnydd gyda nifer o bobl yn heidio i adeiladau gwag yn ysu i weld hen bensaernïaeth ac weithiau, chwilio am ysbrydion.

Mae'r rhai sy'n ymddiddori mewn chwilota trefol yn ymweld ag adeiladau a strwythurau sydd ddim yn cael eu defnyddio bellach.

Er bod hynny yn gallu golygu hen ffatrïoedd a hyd yn oed systemau carthffosiaeth, mae 'na nifer o adeiladau sydd wedi eu hesgeuluso sy'n llawn hanes a harddwch.

Mae'r Deyrnas Unedig yn llawn cyfoeth o safbwynt mathau o bensaerniaeth amrywiol.

Ond cyn i chi fynd allan eich hunain i chwilio am safleoedd diffaith, maen nhw, fel y gallwch chi weld yn rhai o'r lluniau yma yn gallu bod yn lefydd peryglus iawn.

Mae'n rhaid cael caniatád y perchennog tir hefyd cyn archwilio safleoedd sydd wedi eu hesgeuluso.

Ffynhonnell y llun, Lynne Illidge/@l.i.photography
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adeilad bellach mewn cyflwr truenus

Ymhlith yr enghreifftiau amlycaf yng Nghymru o safloedd sy'n boblogaidd gyda ffotograffwyr sy'n ymddiddori mewn safleoedd diffaith, mae hen safle Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych.

Daeth oes yr ysbyty seiciatryddol i ben yn 1995 ar ôl 147 o flynyddoedd. Ers hynny mae'r adeilad rhestredig Gradd II wedi bod yn dadfeilio.

Yn ogystal ag ymweliadau gan ffotograffwyr sy'n awyddus i gadw ar gof a chadw rhai o elfennau pensaerniol yr adeilad, mae rhai yn cael eu denu yno i chwilio am ysbrydion.

Fe gafodd rhifyn o'r gyfres deledu Most Haunted ei darlledu oddi yno yn 2008 yn y gobaith y byddai modd cofnodi tystiolaeth o ysbrydion yn cerdded y wardiau liw nos.

Ffynhonnell y llun, Lynne Illidge/@l.i.photography
Disgrifiad o’r llun,

Mae toeau rhai adeiladau wedi syrthio

Mae 'na gynlluniau uchelgeisiol erbyn hyn i ail-ddatblygu'r safle a oedd ar un adeg yn gartref i 1,500 o gleifion.

Y bwriad ydy adfer y prif adeilad gafodd ei godi yn yr 1840au a'i droi yn fflatiau. Bydd 300 o dai hefyd yn cael eu codi ar y safle.

Mae'r adeilad yn boblogaidd hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol gyda nifer o chwilotwyr trefol yn rhannu fideos a lluniau.

Ffynhonnell y llun, Lynne Illidge/@l.i.photography
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n anodd credu y byddai'r coridor wedi bod yn llawn prysurdeb lai na thri degawd yn ôl

Roedd Lynne Illidge, ffotograffydd o Widnes yn Sir Caer yno yn tynnu lluniau'n ddiweddar ac mae hi wedi cofnodi ei hymweliad ar ei chyfrif Instagram.

"Dwi yn ei ffeindio hi yn ddiddorol i chwilota a thynnu lluniau adeiladau a safleoedd sydd wedi eu hesgeuluso neu eu hanghofio.

"Llawer o'r amser does 'na neb wedi bod ar gyfyl y llefydd yma ers degawdau felly mae o bron 'run fath a chamu nôl mewn amser."

Ffynhonnell y llun, Lynne Illidge/@l.i.photography
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y safle enfawr yn rhan bwysig o gymuned Dinbych a'r ardal

Mae Lynne a'i theulu yn ymweld â safleoedd tebyg yn gyson.

"Mae fy mab yn mwynhau gwylio fideos YouTube o chwilota trefol yn enwedig os oes 'na awgrym bod yna ysbryd yno, felly mae hon wedi dod yn weithgaredd deuluol i ni ei gwneud."

Roedd yr ysbyty yn chwarae rhan ganolog ym mywyd tre' Dinbych, ac roedd yna gyfnod pan roedd plant lleol yn cael dod yno i bartïon.

Dyma atgofion y diweddar Bobi Owen mewn cyfweliad a wnaeth o gyda Cymru Fyw yn 2014:

"Atgofion eithaf melys sydd gen i am y lle."

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Hanes Ysbyty Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y wardiau yn brysur iawn nôl yn y 1930au

"Roedd hi'n fôr o garedigrwydd yno er bod y cleifion yn dioddef salwch meddyliol. Roedd y staff yn annwyl iawn 'efo nhw o ystyried bod chi'n mynd 'nôl tipyn o amser.

"Fel hogyn ifanc un o'r pethe mawr oedd dawns y seilam - y seilam roedden ni'n galw'r lle. Roedd cystadleuaeth frwd am docynnau.

"Dyma ddigwyddiad cymdeithasol y flwyddyn ac roedd y staff yn treulio wythnosau yn addurno'r neuadd. O'n i'n mynd yn rheolaidd."

Ffynhonnell y llun, Lynne Illidge/@l.i.photography
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa tu mewn i'r brif adeilad

Ffynhonnell y llun, Lynne Illinge/@l.i.photography
Disgrifiad o’r llun,

Mae olion pensaerniaeth gywrain yr oes Fictoraidd i'w weld o hyd er gwaetha diffeithwch y safle

Mae prysurdeb y wardiau a rhialtwch y partïon y cyfeiriodd Bobi Owen atyn nhw wedi hen fynd.

Ond mae yna gyfaredd i'r hen adeiladau o hyd yn ôl Lynne Illidge.

"Roedd yr holl le yn annaearol o fendigedig. Roedd pensaerniaeth yr oes Fictoraidd a maint yr adeilad yn hynod o drawiadol, ond mae blynyddoedd o esgeulusdod yn bendant wedi chwarae ei ran wrth greu diffeithwch.

"Mae'n wir yn siomedig i weld adeilad mor hanesyddol i bob pwrpas yn syrthio yn ddarnau."

Mae yna gynlluniau erbyn hyn i ddatblygu'r safle. Dydy hi ddim yn glir eto faint o'r bensaerniaeth Fictoraidd fydd yn rhan o'r cynlluniau.

Ond diolch i'r chwilotwyr trefol mae yna gofnod parhaol erbyn hyn o bennod olaf un o ysbytai amlycaf Cymru.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Hanes Ysbyty Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr ysbyty yn trin cannoedd o gleifion ar ei anterth. Cafodd y llun hwn ei dynnu tua 1965