Helynt S4C: 'Galw am bobl newydd braidd yn naïf'

Mae cadeirydd un o gwmnïau cynhyrchu mwyaf Cymru wedi dweud na fyddai cael gwared ar fwy o arweinyddiaeth S4C yn helpu'r sianel i symud ymlaen o'i thrafferthion.

Dydd Mercher fe wnaeth aelodau'r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Diwylliant yn galw am benodi cadeirydd newydd i arwain S4C.

Fe ddaeth hynny wedi i'r cadeirydd presennol Rhodri Williams roi tystiolaeth iddynt, ble dywedodd y byddai'n "hapus iawn" i barhau yn ei swydd.

Dywedodd Ron Jones, cadeirydd cwmni cynhyrchu Tinopolis, ei fod yn credu bod angen bod yn "fwy aeddfed" na chael gwared ar yr holl arweinyddiaeth.

"Ond dwi ddim yn meddwl bod rhyw gut reaction o symud y bwrdd i gyd o flaen y guillotine yn mynd i fod yn help yn symud ymlaen," meddai ar Dros Frecwast fore Iau.

"Mae galw am bobl newydd, fel petai nhw ar gael... braidd yn naïf. Beth sydd angen ar hyn o bryd yw cyfnod o sefydlogrwydd."