S4C: Mwy o ddiswyddiadau 'ddim yn help symud ymlaen'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

"Mae galw am bobl newydd, fel petai nhw ar gael... braidd yn naïf," meddai cadeirydd Tinopolis, Ron Jones

Mae cadeirydd un o gwmnïau cynhyrchu mwyaf Cymru wedi dweud na fyddai cael gwared ar fwy o arweinyddiaeth S4C yn helpu'r sianel i symud ymlaen o'i thrafferthion.

Dydd Mercher fe ysgrifennodd aelodau'r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan at yr Ysgrifennydd Diwylliant yn galw am benodi cadeirydd newydd i arwain S4C.

Fe ddaeth hynny wedi i'r cadeirydd Rhodri Williams roi tystiolaeth iddynt, ble dywedodd y byddai'n "hapus iawn" i barhau yn ei swydd.

Ond dywedodd cadeirydd y pwyllgor, AS Preseli Penfro Stephen Crabb, eu bod "yn anfodlon" gyda thystiolaeth Mr Williams, a'u bod yn "argymell i'r llywodraeth benodi cadeirydd newydd".

Doedd S4C na Llywodraeth y DU am wneud sylw ddydd Mercher am alwadau'r pwyllgor.

Fe roddodd Rhodri Williams dystiolaeth hefyd i bwyllgor diwylliant y Senedd ddydd Iau, gan gydnabod mai dyma'r cyfnod anoddaf yn hanes y sianel.

Disgrifiad,

Rhodri Williams yn gwrthod ateb a fyddai'n ymddiswyddo

Ond dywedodd Ron Jones, cadeirydd cwmni cynhyrchu Tinopolis, ei fod yn credu bod angen bod yn "fwy aeddfed" na chael gwared ar yr holl arweinyddiaeth.

Dywedodd y dylai'r Pwyllgor Materion Cymreig fod wedi "gwybod yn well" na galw ar yr Ysgrifennydd Diwylliant i gael gwared â Rhodri Williams.

"Beth sydd yn gofidio fi fan hyn yw'r niwed i S4C ac i'r gwasanaeth, yn fwy nac i'r cwmni," meddai ar Dros Frecwast fore Iau.

"Ond dwi ddim yn meddwl bod rhyw gut reaction o symud y bwrdd i gyd o flaen y guillotine yn mynd i fod yn help yn symud ymlaen.

"Fi'n credu bod ishe rhywbeth mwy aeddfed na hynny, a dyle'r gwleidyddion wybod yn well.

"Dwi'n gobeithio gawn ni broses lot mwy adeiladol ac aeddfed gan y pwyllgor yng Nghaerdydd heddiw pan maen nhw yn cyfweld Rhodri a rhai eraill o S4C."

'Mater i'r bwrdd i gyd'

Llywodraeth y DU sydd â rheolaeth dros ddarlledu yng Nghymru, ac mae'r cadeirydd yn cael ei benodi gan yr Ysgrifennydd Diwylliant, sef Lucy Frazer ar hyn o bryd.

Mae tymor y cadeirydd yn dod i ben ym mis Mawrth, ond nid yw galwad y Pwyllgor Materion Cymreig yn manylu os ydyn nhw'n awyddus i weld Mr Williams yn gadael yn syth ynteu ar ddiwedd ei dymor.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Ysgrifennydd Diwylliant y Deyrnas Unedig, Lucy Frazer, sy'n gyfrifol am reoli darlledu yng Nghymru

Ond dywedodd Ron Jones fod symud ymlaen yn "fater i'r bwrdd i gyd" - nid i unigolyn yn unig.

Awgrymodd hefyd na ddylai'r Pwyllgor Materion Cymreig ymyrryd ym mhenderfyniad yr Ysgrifennydd Diwylliant.

"Nid mater i Rhodri Williams yw e i roi trefniadau newydd yn eu lle - mae'n fater i'r bwrdd i gyd," meddai Mr Jones.

"A mater i'r ysgrifennydd gwladol yw e ydyn nhw moyn cadw Rhodri Williams i fod yn gadeirydd.

"Mae'n rhaid tynnu nôl o'r syniad 'ma bod rhaid ni feio unigolyn, ac edrych ar ydy'r bwrdd yn gymwys i neud y newidiadau."

'Methiannau sylfaenol'

Roedd y pwyllgor wedi dweud ddydd Mercher nad oedden nhw'n fodlon fod "y gwahanol gwynion yn erbyn unigolion penodol wedi cael eu trin yn deg".

Dywedodd Ben Lake, aelod seneddol Plaid Cymru dros Geredigion ac aelod o'r Pwyllgor Materion Cymreig, fore Iau ei bod yn amlwg o'r sesiwn fod "methiannau sylfaenol" wedi bod o ran gweithdrefnau S4C dros y misoedd diwethaf.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ben Lake fod y pwyllgor yn teimlo bod rhaid iddynt leisio eu barn i'r Ysgrifennydd Diwylliant

"Yn anffodus doedd yr atebion gafon ni ddim wedi darbwyllo yr un ohonon ni bod y prosesau yma wedi eu dilyn mewn ffordd gyson na theg, a dyna oedd sail ein pryderon ni," meddai ar Dros Frecwast.

Ychwanegodd fod aelodau'r pwyllgor "i gyd o'r un farn" bod rhaid iddynt leisio eu barn i'r Ysgrifennydd Diwylliant.

"Dyw o ddim yn rhywbeth fi yn bersonol yn hoffi 'neud, ond roedd rhaid i ni rannu a chyfleu y pryderon hynny gan ei bod hi yn gyfrifoldeb sydd yn cael ei roi ar y pwyllgor yma yn San Steffan," meddai.

"Yr hyn sydd yn bwysig nawr er mwyn ailgydio yn y broses a sicrhau rhywfaint o enw da i'r sianel yw 'neud yn siŵr bod y gweithdrefnau a llywodraethiant yn eu lle a bod hygrededd i'r ddau."

Beth yw cefndir yr helynt?

Ffynhonnell y llun, Huw John/S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Siân Doyle a Llinos Griffin-Williams eu diswyddo gan S4C ym misoedd olaf 2023

Ym mis Mai 2023 fe gafodd cwmni cyfreithiol annibynnol, Capital Law, ei benodi i ymchwilio i honiadau o fwlio a "diwylliant o ofn" o fewn S4C.

Cafodd y prif weithredwr, Siân Doyle, ei diswyddo gan awdurdod y sianel ym mis Tachwedd oherwydd "natur a difrifoldeb y dystiolaeth" yn ei herbyn - cyhuddiadau mae hi'n eu gwadu.

Cyn hynny, cafodd Llinos Griffin-Williams ei diswyddo o'i rôl fel prif swyddog cynnwys y sianel hefyd wedi honiadau o "gamymddwyn difrifol" mewn bariau yn Ffrainc yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.

Mae Ms Griffin-Williams wedi gwadu camymddwyn ac yn dweud bod ei diswyddiad yn annheg.

Pynciau cysylltiedig