Cadeirydd S4C, Rhodri Williams yn 'hapus iawn' i barhau yn ei swydd

  • Cyhoeddwyd
Roedd cadeirydd S4C Rhodri Williams yn rhoi tystiolaeth yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd MercherFfynhonnell y llun, parliamentlive.tv
Disgrifiad o’r llun,

Roedd cadeirydd S4C Rhodri Williams yn rhoi tystiolaeth yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher

Mae cadeirydd S4C wedi dweud y byddai'n "hapus iawn" i barhau yn ei swydd ac wedi awgrymu nad oes bwriad ganddo i gamu o'r neilltu.

Bu Rhodri Williams yn ateb cwestiynau aelodau seneddol fore Mercher am y trafferthion sydd wedi wynebu'r sianel dros y misoedd diwethaf.

Mewn gwrandawiad cyhoeddus a barodd dros awr a hanner, dywedodd Mr Williams fod yr amgylchedd gwaith o fewn y sefydliad yn "dipyn gwell nawr nag yr oedd rai misoedd yn ôl".

Fe ddyfynnodd lythyr mae'n dweud iddo dderbyn gan undeb Bectu ddydd Gwener diwethaf yn dweud bod eu haelodau yn dweud bod eu hamodau gwaith wedi gwella ar ôl "cyfnod caled".

Fe wnaeth Mr Williams hefyd amddiffyn y penderfyniadau i ddiswyddo dau o uwch swyddogion y sianel y llynedd.

Beth ydy'r cefndir?

Ym mis Mai 2023 fe gafodd cwmni cyfreithiol annibynnol, Capital Law, ei benodi i ymchwilio i honiadau o fwlio a "diwylliant o ofn" o fewn S4C.

Cafodd y prif weithredwr, Siân Doyle, ei diswyddo gan awdurdod y sianel ym mis Tachwedd oherwydd "natur a difrifoldeb y dystiolaeth" yn ei herbyn - cyhuddiadau mae hi'n eu gwadu.

Cyn hynny, cafodd Llinos Griffin-Williams ei diswyddo o'i rôl fel prif swyddog cynnwys y sianel hefyd wedi honiadau o "gamymddwyn difrifol" mewn bariau yn Ffrainc yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.

Mae Ms Griffin-Williams wedi gwadu camymddwyn ac yn dweud bod ei diswyddiad yn annheg.

Ffynhonnell y llun, Huw John/S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Siân Doyle a Llinos Griffin-Williams eu diswyddo gan S4C ym misoedd olaf 2023

Dywedodd Rhodri Williams wrth Bwyllgor Dethol Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin fore Mercher nad oes prosesau apêl ffurfiol yn erbyn y diswyddiadau.

Roedd wedi diswyddo Ms Griffin-Williams ei hun, meddai, am fod yr hyn ddigwyddodd yn Nantes wedi "creu effaith andwyol i enw da S4C ar unwaith".

Er nad oedd y pwyllgor yn awyddus i glywed manylion achosion unigol, ychwanegodd Mr Williams ei bod hi'n "gwbl glir" fod y digwyddiad yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol.

Clywodd y pwyllgor fod Mr Williams wedi ymddiheuro i Ms Griffin-Williams am godi ei lais mewn cyfarfod yr haf diwethaf.

Ond roedd wedi gwneud hynny, meddai wrth aelodau'r pwyllgor, i sicrhau nad oedd gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei rannu gan Ms Griffin-Williams.

Fe wnaeth Mr Williams amddiffyn penderfyniad y bwrdd i beidio dangos adroddiad Capital Law i Ms Doyle a Ms Griffin-Williams cyn ei wneud yn gyhoeddus ar 6 Rhagfyr.

Roedd yr adroddiad - a glywodd dystiolaeth gan 92 o unigolion - yn cynnwys honiadau bod Ms Doyle wedi ymddwyn mewn modd "unbenaethol" ac yn creu diwylliant o ofn.

Cadarnhaodd Mr Williams na chafodd Ms Doyle na Ms Griffin-Williams weld yr adroddiad cyn ei gyhoeddi - yn rhannol, meddai, am nad oedden nhw'n cael eu cyflogi gan S4C ar y pryd.

Gan gyfeirio at "ymgyrch gyhoeddus" Ms Doyle a Ms Griffin-Williams, ychwanegodd Mr Williams: "Ar sail yr hyn oedd ar gael yn y wasg am yr holl broses... y teimlad oedd nad oedd hynny [dangos yr adroddiad i'r ddwy] yn angenrheidiol."

Awgrymodd Mr Williams y bydd proses i benodi prif weithredwr parhaol yn dechrau yn fuan.

'Rhyfeddol'

O ran ei swydd ei hun, dywedodd Mr Williams y byddai'n "hapus iawn i wneud hynny [parhau yn ei swydd am dymor arall] pe byddai'r cyfle yn codi".

Mae tymor y cadeirydd yn dod i ben ym mis Mawrth, ond fe wrthododd Rhodri Williams awgrym y byddai hi o fudd i S4C iddo adael.

"Mae angen proses o ailadeiladu, boed hynny gyda fi yn gadeirydd ai peidio," meddai.

"Fe wna'i gynnig fy nghefnogaeth i S4C fel sefydliad p'run ai ydw i'n gadeirydd neu beidio."

Pan ofynnodd Stephen Crabb, cadeirydd y pwyllgor, iddo a oedd wedi cyfarfod gydag Ysgrifennydd Diwylliant y Deyrnas Unedig, Lucy Frazer, yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, dywedodd Mr Williams nad oedd.

"Dwi'n gweld hynny'n rhyfeddol," meddai Mr Crabb.

Llywodraeth y DU sydd â rheolaeth dros ddarlledu yng Nghymru, ac mae'r cadeirydd yn cael ei benodi gan yr Ysgrifennydd Diwylliant.

Dyma'r tro cyntaf i ni glywed gan Rhodri Williams ers i Siân Doyle a Llinos Griffin-Williams gael eu diswyddo, ac mae'n glir ei fod o'n credu iddo wneud y peth iawn.

Ond a oedd o wedi mynd trwy'r prosesau cywir? Roedd yna amheuaeth ymysg aelodau'r pwyllgor, gyda'r cadeirydd Stephen Crabb yn ei gyhuddo o ymddwyn fel "judge, jury and executioner".

Mi fynegwyd pryder hefyd gan AS Plaid Cymru, Ben Lake nad oedd o'n briodol bod Ms Doyle na Ms Griffin-Williams heb weld yr adroddiad oedd yn eu beirniadu, cyn iddo gael ei gyhoeddi.

Mae Rhodri Williams yn awyddus i barhau yn ei swydd pan ddaw ei gyfnod i ben ddechrau fis Ebrill, ond dwi'n cael y teimlad nad oedd yr aelodau heddiw wedi cael eu darbwyllo yn llwyr mai dyna fyddai'r peth gorau i'r sianel.

Pynciau cysylltiedig

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol