S4C: Pwyllgor Seneddol yn galw am gael cadeirydd newydd
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp o Aelodau Seneddol yn San Steffan wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Diwylliant yn galw am benodi cadeirydd newydd i arwain S4C.
Bu cadeirydd S4C Rhodri Williams yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig ddydd Mercher, ble dywedodd y byddai'n "hapus iawn" i barhau yn ei swydd, gan awgrymu nad oes bwriad ganddo i gamu o'r neilltu.
Bu'n ateb cwestiynau aelodau seneddol am y trafferthion sydd wedi wynebu S4C dros y misoedd diwethaf.
Ond yn ddiweddarach dywedodd cadeirydd y pwyllgor, AS Preseli Penfro Stephen Crabb, mewn datganiad fod y sesiwn wedi bod yn "bryder" iddynt.
Doedd S4C na Llywodraeth y DU am wneud sylw.
Maen nhw'n cyhuddo bwrdd y sianel o "ddiffyg arweinyddiaeth ddiwylliannol".
Mae ffigyrau blaenllaw o fewn y blaid Lafur wedi cyhuddo Llywodraeth y DU a'r Ysgrifennydd Diwylliant o wneud dim i fynd i'r afael â'r argyfwng yn S4C.
'Pryder am allu yr arweinyddiaeth'
Llywodraeth y DU sydd â rheolaeth dros ddarlledu yng Nghymru, ac mae'r cadeirydd yn cael ei benodi gan yr Ysgrifennydd Diwylliant, sef Lucy Frazer ar hyn o bryd.
Mae tymor y cadeirydd yn dod i ben ym mis Mawrth, ond fe wrthododd Rhodri Williams awgrym y byddai hi o fudd i S4C iddo adael.
"Mae angen proses o ailadeiladu, boed hynny gyda fi yn gadeirydd ai peidio," meddai.
Nid yw galwad y pwyllgor yn manylu os ydyn nhw'n awyddus i weld Mr Williams yn gadael yn syth ynteu ar ddiwedd ei dymor ddiwedd mis Mawrth.
Dywedodd Mr Crabb yn ei lythyr at Ms Frazer fod y pwyllgor "yn anfodlon" gyda thystiolaeth Mr Williams, a'u bod yn "bryderus am allu yr arweinyddiaeth bresennol i oruchwylio'r newidiadau sydd eu hangen".
Ychwanegodd nad oedd y pwyllgor yn fodlon fod "y gwahanol gwynion yn erbyn unigolion penodol wedi cael eu trin yn deg".
"O ystyried pwysigrwydd S4C a maint yr her o ran gwella llywodraethiant a diwylliant o fewn y sefydliad, rydym yn argymell i'r llywodraeth benodi cadeirydd newydd i gymryd y gwaith yma yn ei flaen," meddai Mr Crabb.
Beth ydy'r cefndir?
Ym mis Mai 2023 fe gafodd cwmni cyfreithiol annibynnol, Capital Law, ei benodi i ymchwilio i honiadau o fwlio a "diwylliant o ofn" o fewn S4C.
Cafodd y prif weithredwr, Siân Doyle, ei diswyddo gan awdurdod y sianel ym mis Tachwedd oherwydd "natur a difrifoldeb y dystiolaeth" yn ei herbyn - cyhuddiadau mae hi'n eu gwadu.
Cyn hynny, cafodd Llinos Griffin-Williams ei diswyddo o'i rôl fel prif swyddog cynnwys y sianel hefyd wedi honiadau o "gamymddwyn difrifol" mewn bariau yn Ffrainc yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.
Mae Ms Griffin-Williams wedi gwadu camymddwyn ac yn dweud bod ei diswyddiad yn annheg.
Dywedodd Rhodri Williams wrth Bwyllgor Dethol Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin nad oes prosesau apêl ffurfiol yn erbyn y diswyddiadau.
Roedd wedi diswyddo Ms Griffin-Williams ei hun, meddai, am fod yr hyn ddigwyddodd yn Nantes wedi "creu effaith andwyol i enw da S4C ar unwaith".
Fe wnaeth Mr Williams amddiffyn penderfyniad y bwrdd i beidio dangos adroddiad Capital Law i Ms Doyle a Ms Griffin-Williams cyn ei wneud yn gyhoeddus ar 6 Rhagfyr.
Roedd yr adroddiad - a glywodd dystiolaeth gan 92 o unigolion - yn cynnwys honiadau bod Ms Doyle wedi ymddwyn mewn modd "unbenaethol" ac yn creu diwylliant o ofn.
Cadarnhaodd Mr Williams na chafodd Ms Doyle na Ms Griffin-Williams weld yr adroddiad cyn ei gyhoeddi - yn rhannol, meddai, am nad oedden nhw'n cael eu cyflogi gan S4C ar y pryd.
'Rhyfeddol
Pan ofynnodd Mr Crabb i Rhodri Williams ddydd Mercher a oedd wedi cyfarfod gyda'r Ysgrifennydd Diwylliant Lucy Frazer yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, dywedodd Mr Williams nad oedd wedi gwneud hynny.
"Dwi'n gweld hynny'n rhyfeddol," meddai Mr Crabb.
Dyma'r tro cyntaf i ni glywed gan Rhodri Williams ers i Siân Doyle a Llinos Griffin-Williams gael eu diswyddo, ac mae'n glir ei fod o'n credu iddo wneud y peth iawn.
Ond a oedd o wedi mynd trwy'r prosesau cywir? Roedd yna amheuaeth ymysg aelodau'r pwyllgor, gyda'r cadeirydd Stephen Crabb yn ei gyhuddo o ymddwyn fel "judge, jury and executioner".
Mi fynegwyd pryder hefyd gan AS Plaid Cymru, Ben Lake, oedd yn credu nad oedd yn briodol na chafodd Ms Doyle na Ms Griffin-Williams weld yr adroddiad oedd yn eu beirniadu, cyn iddo gael ei gyhoeddi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr
- Cyhoeddwyd10 Ionawr
- Cyhoeddwyd3 Ionawr