Euro 2025: Uchafbwyntiau Kosovo 0-6 Cymru

Roedd 'na fuddugoliaeth swmpus i Gymru yn eu hail gêm yn rowndiau rhagbrofol Euro 2025 oddi cartref yn Kosovo.

6-0 oedd y sgôr terfynol, gyda Rachel Rowe ac Elise Hughes yn sgorio ddwywaith. Roedd 'na gôl yr un hefyd i Kayleigh Barton a Ffion Morgan.

Mae Cymru ar frig y grŵp ar ôl ennill eu dwy gêm gyntaf o'r ymgyrch.

Fe enillodd y garfan 4-0 yn erbyn Croatia yn eu gêm ragbrofol gyntaf yn y Cae Ras yn Wrecsam nos Wener.