Rowndiau rhagbrofol Euro 2025: Cymru 4-0 Croatia

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Uchafbwyntiau buddugoliaeth Cymru yn erbyn Croatia

Mae Cymru wedi cael y dechrau gorau posib i'w hymgyrch i gyrraedd rowndiau rhagbrofol Euro 2025 gyda buddugoliaeth dda yn erbyn Croatia.

4-0 oedd y sgôr yn y Cae Ras yn Wrecsam ar ddiwedd gêm gystadleuol gyntaf yr hyfforddwr newydd Rhian Wilkinson wrth y llyw.

A hithau'n derbyn cap rhif 149, fe rwydodd Jess Fishlock ddwy o'r goliau, gyda Rachel Rowe ac Angharad James yn sgorio'r gweddill.

Mae'n golygu bod Fishlock bellach wedi sgorio 42 o goliau rhyngwladol - un yn fwy na Gareth Bale, ond dwy yn llai na Helen Ward sy'n dal y record hefo 44.

Daeth gôl gyntaf Fishlock wedi pedwar munud yn unig o chwarae - ymgais ar blât, mewn gwirionedd, wedi i Rachel Rowe gadw'r amddiffyn yn brysur a chreu gofod iddi allu daro'r bêl yn ysgafn i'r gornel gwaelod.

Ffynhonnell y llun, Jan Kruger / Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jess Fishlock ar ôl sgorio gôl gyntaf y noson

Bu'n rhaid aros tan ddechrau'r ail hanner i Fishlock ddyblu'r fantais. Fe gysylltodd gyda chroesiad gwych gan Gemma Evans, ac fe darodd y bêl y trawst cyn bownsio'n ôl iddi ei phenio i'r rhwyd.

Yn hytrach na cheisio am hat-tric ddau funud yn ddiweddarach, yn dilyn gwrthymosodiad da gan Angharad James, fe basiodd Fishlock y bêl i Rowe a ergydiodd i wneud hi'n 3-0.

Croesiad arall gan Gemma Evans arweiniodd at y bedwaredd gôl - aeth y bêl dros ben y golwr, Doris Bacic, ond roedd angen i James ymestyn ei choes a'i thoi i mewn i'r rwyd o ongl heriol.

A hithau bellach yn 4-0 gyda llai nag awr o chwarae, doedd Croatia heb gael yr un ymdrech uniongyrchol ar y gôl.

Ceri Holland ddaeth yn agosach at wneud hi'n 5-0 gyda chwip o ergyd a darodd y trawst ond roedd pedair yn fwy na digon i roi Cymru ar frig y tabl cyn gêm nesaf yr ymgyrch oddi cartref yn Kosovo nos Fawrth.