Rowndiau rhagbrofol Euro 2025: Kosovo 0-6 Cymru

Disgrifiad,

Rowndiau rhagbrofol Euro 2025: Kosovo 0-6 Cymru

  • Cyhoeddwyd

Fe barhaodd ddechrau perffaith tîm merched Cymru i'w hymgyrch i gyrraedd Euro 2025 gyda buddugoliaeth swmpus oddi cartref yn Kosovo ddydd Mawrth.

Aeth Cymru ar y blaen wedi hanner awr, gydag ergyd Rachel Rowe o ymyl y cwrt cosbi yn curo'r golwr.

Dyblwyd y fantais ar drothwy hanner amser, wrth i Kayleigh Barton orffen symudiad gwych gan Gymru.

Ar ôl awr o chwarae daeth ail gôl i Rowe, gydag ergyd arall o ymyl y cwrt cosbi yn gwyro oddi ar amddiffynnwr i gefn y rhwyd.

Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Rowe yn dathlu gyda Jess Fishlock - a enillodd ei 150fed cap ddydd Mawrth

Dau funud yn ddiweddarach roedd hi'n bedair, wrth i Ffion Morgan sgorio o groesiad Rowe.

Yn y munudau olaf fe lwyddodd Elise Hughes i rwydo ddwywaith er mwyn selio buddugoliaeth gyfforddus iawn i Gymru.

Roedd tîm Rhian Wilkinson eisoes wedi trechu Croatia o 4-0 yn y gêm gyntaf yn yr ymgyrch nos Wener.

Bydd eu gemau nesaf - gemau cartref ac oddi cartref yn erbyn Wcráin - yn cael eu chwarae ar 31 Mai a 4 Mehefin.