a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Pedwerydd enw i'r rhestr...

    John Charles.

    Ivor Allchurch.

    Terry Medwin.

    Gareth Bale.

    Dyw'r rhestr o chwaraewyr Cymru i sgorio yng Nghwpan y Byd ddim yn hir!

    Bale
  2. Oes 'na un cyfle arall?

    Dau funud i fynd - fydd 'na gyfle i rhywun fod yn arwr?

  3. Clod i Ethan Ampadu wrth iddo adael

    Kath Morgan

    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Mae wedi aeddfedu yn y gêm yma, a chyfrifoldeb dros dri chwaraewr arall.

    Mae wedi bod yn gampus.

  4. Morrell yn cymryd lle Ampadu wedi anaf

    Ethan Ampadu yw'r diweddaraf i fynd o'r maes i Gymru - Joe Morrell ymlaen yn ei le.

    Roedd Ampadu wedi cael anaf, felly mae hynny'n siŵr o fod wedi cael dylanwad.

    Ampadu
  5. Kieffer Moore wedi trawsnewid y gêm

    Iwan Roberts

    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    Mae o wedi trawsnewid y gêm efo'i bresenoldeb, efo'i waith o ddal y bêl i fyny a dod â chwaraewyr eraill i mewn i'r gêm.

    Kieffer Moore
  6. Gôl! Yr ymateb yn Llangrannog

    Ry'n ni'n siŵr fod golygfeydd fel hyn ledled Cymru pan aeth i gic o'r smotyn 'na mewn!

    Video content

    Video caption: Gôl! Yr ymateb yn Llangrannog
  7. 9 munud ychwanegol!

    Dydw i ddim yn siŵr sut y daethon nhw i'r penderfyniad, ond mae 'na ddigonedd o amser am fwy o goliau!

    Yng nghanol hynny, mae Sorba Thomas yn dod i'r maes i gymryd lle Harry Wilson.

  8. Yr un o'r timau'n fodlon gyda gêm gyfartal!

    Hanner cyfle i Brennan Johnson, ond roedd yr ongl yn rhy gul, ac i ddwylo'r golwr aeth yr ergyd.

    Mae'r chwarae'n mynd o ochr i ochr - mae'r ddau dîm eisiau ennill hon!

  9. Yma o Hyd yn seinio eto...

    Ar ôl y siom, mae'r cefnogwyr yn y stadiwm wedi cael ail wynt.

    Mae Yma o Hyd i'w chlywed eto!

    Cefnogwyr
  10. Oes un arall i ddod i Gymru...?

    Nic Parry

    Sylwebydd Sgorio ar S4C

    Mae Cymru wedi sgorio yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

    Does dim amheuaeth ar allu Gareth Bale i ddeffro torf.

    Mae Cymru’n gyfartal - ond maen nhw’n teimlo gallen nhw gymryd un cam arall.

  11. Rhaid rhoi clod i Brennan Johnson

    Kath Morgan

    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Y peth cynta' 'naeth e - gweld a sicrhau bod rhaid taflu'r bêl yn gyflym.

    Brennan Johnson
  12. Wrth gwrs oedd o am sgorio!

    Dylan Griffiths

    Sylwebydd BBC Radio Cymru yn Qatar

    Y capten - y chwaraewr sy'n haeddu bod ar y lefel ucha' un.

    Prif sgoriwr hanes pêl-droed Cymru

    Oes 'na gyfle rwan i Gymru ennill y gêm yma?

    Bale
  13. Waw!

    Cic wych o'r smotyn gan arwr Cymru!

    Mae Cymru'n gyfartal!

    Gôl gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd ers 1958!

    Bale
  14. GOL I GYMRU!

    Bale
  15. Newydd dorriCic o'r smotyn i Gymru!

    Gwaith da gan Aaron Ramsey yn cael y bêl i mewn i'r cwrt cosbi, ac mae 'na drosedd ar Gareth Bale!

    Cic o'r smotyn i Gymru, a'r capten sydd am ei chymryd...

  16. Brennan Johnson ymlaen

    Mae Brennan Johnson ymlaen i Gymru, a Neco Williams sy'n gadael y maes.

    Ychydig dros 10 munud sydd gan ymosodwr Nottingham Forest i greu argraff...

    Dyw Williams methu credu mai ef sy'n gorfod dod i ffwrdd, ond mae'n edrych fel newid tacteg i Gymru - pedwar yn y cefn yn hytrach na phump.

  17. Oes 'na gôl i Gymru?

    Chwarter awr i fynd - all Gymru ganfod y gôl allweddol 'na?

    Mae Rob Page yn paratoi i wneud newidiadau...

  18. 'Methu glynu gyda bois sydd ddim yn cyfrannu'

    Kath Morgan

    Cyn-gapten Cymru ar BBC Radio Cymru

    Mae Ramsey'n edrych yn flinedig ac angen i Bale adael y cae.

    Mae 20 munud i fynd, mae angen unioni'r sgôr.

    Ry'n ni wedi cael dau gyfle euraidd, ond ers hynny, dim byd.

    Bale
  19. Amser am Brennan Johnson?

    Osian Roberts

    Cyn-is-reolwr Cymru ar S4C

    'Dan ni 'nôl yn y gêm. 'Dan ni’n cnocio ar y drws, ddim yn rhoi lle nac amser i’r Unol Daleithiau.

    Mae’r handbrake wedi dod i ffwrdd – 'dan ni’n edrych yn ddewr ar y bêl.

    'Dan ni’n achosi problemau, ond wrth gwrs bydd Rob Page yn edrych ar yr amser ac yn meddwl a ydy hi'n amser edrych ar rhywun fel Brennan Johnson i ddod ymlaen i gael gôl?

  20. 'Fel gêm o bêl-fasged'

    Iwan Roberts

    Cyn-ymosodwr Cymru ar BBC Radio Cymru

    Mae'r bêl yn mynd o un cwrt cosbi i'r llall - mae'r tempo wedi codi.

    Cymru