Cyhoeddi carfan Colemanwedi ei gyhoeddi 16:15 Amser Safonol Greenwich+1 11 Mehefin 2016
BBC Camp Lawn
Dyma'r chwaraewyr fydd yn cynrychioli Cymru heddiw:
Cliciwch uchod i wrando ar sylwebaeth Radio Cymru
Gêm gyntaf Cymru yn un o'r prif gystadlaethau ers 1958
Y gic gyntaf yn Bordeaux am 17:00 (amser Prydain)
Sylwadau ar y gêm gan Wali Tomos a chriw C'mon Midffîld
BBC Camp Lawn
Dyma'r chwaraewyr fydd yn cynrychioli Cymru heddiw:
BBC Cymru Fyw
Mae'r cefnogwyr wedi dechrau cyrraedd y 'Fanzone' yn Bordeaux ac yn barod am y gêm.
BBC Cymru Fyw
Cyn-lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Trefor Lloyd Hughes wedi gwneud y daith o Fôn.
Twitter
Mae ymosodwr Cymru, Hal Robson-Kanu wedi trydar i ddweud ei fod wedi bod yn aros ar hyd ei oes am y diwrnod hwn.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Twitter
Mae'r bardd Llion Jones wedi ei ysbrydoli mas yn Bordeaux.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Hwn fydd clip agoriadol y darllediad byw ar S4C am 4:15pm.
Digon i hel ias lawr asgwrn cefn unrhyw Gymraes neu Gymro.
Rhys Ifans yn darllen cerdd iasol am drasiedi, gobeithion a llawenydd y daith fu mor hir
Twitter
Mae Iestyn Hughes wedi trydar i ddweud fod 'na "groeso swnllyd" tu allan i'r stadiwm yn Bordeaux, gan fod 'na fand pres yn chwarae wrth i bobl gyrraedd.
A fydd y Barry Horns yn ymuno wrth iddyn nhw gyrraedd?
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Cymru Fyw
Mae un cefnogwr wedi teithio o gyfandir arall i wylio Cymru heddiw. Yn wreiddiol o Fae Colwyn, mae David Williams (Dafydd Miami) wedi teithio'r holl ffordd o Miami. Cafodd gyfle i fwynhau gwydred o rywbeth oer gyda chyn-gapten Cymru, Kevin Ratcliffe, cyn y gêm.
Wali Tomos
Fydd Hennessey ddim yn 'Wayne' o glust i glust felly!!
BBC Cymru Fyw
Daeth cadarnhad na fydd Waynne Hennessey yn dechrau i Gymru heddiw. Dipyn o ergyd i'r crysau cochion.
Euro 2016
Mae staff diogelwch yn archwilio pob cefnogwr wrth iddyn nhw gyrraedd y stadiwm p'nawn 'ma.
Twitter
Neges gan is-hyfforddwr Cymru yn gynharach heddiw:
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Wali Tomos
Dechfa teimlo ipyn bach yn nyvfys fwan. Ma pili pala yn mynd fownd yn fy mol i. Newydd feddwl fwan. Tasa nhw'n mynd fownd y ffof' afall, fasan nhw'n pala pili?
BBC Cymru Fyw
Mae'r ddau gefnogwr balch yma wedi cyrraedd y stadiwm yn barod - ac mae Guto a Gruff o Gaerdydd yn edrych ymlaen yn fawr at y gêm!
BBC Cymru Fyw
Mae'n ymddangos fod Bordeaux wedi troi'n goch am heddiw - dyma rai o gefnogwyr Cymru'n mwynhau gyda 'chydig dros awr i fynd cyn y gic gyntaf.
Euro 2016
Mae 'na griw o Fachynlleth wedi casglu ger Afon Garonne yn Bordeaux.
BBC Cymru Fyw
Dylan Griffiths yn holi Owain Tudur Jones a Iwan Roberts yn Stade de Bordeaux.
Cyfweliad Dylan Griffiths gyda`r ddau sylwebydd
Facebook
Mae Iwan Roberts wedi newid ei lun proffil Facebook i adlewyrchu ei barch tuag at un o 'pyndits' pêl-droed mwyaf enwog Cymru.
Iwan (ar y chwith) gyda Dylan Ebenezer?
Wali Tomos
Be' am y fvicsan 'udoch chi? Wel, pan fydd y peffa Lloefig 'na yn bychanu a'n safhau ni (a ma' nhw'n siwf o neud) dyna pfyd fydd y fvicsan yn mynd tfw sgfîn y teledu afall!!!!
Twitter
Felly, mae'r trams yn rhedeg yn Bordeaux...er, falle fod geiriau'r gân yn awgrymu nad ydyn nhw?