Coroni: Mae teilyngdod!wedi ei gyhoeddi 17:01 Amser Safonol Greenwich+1 1 Awst 2016
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Carreg Lefn ydy ffugenw'r bardd buddugol. Merch yw hi.
Bydd y cystadlu yn dechrau am 10:00, yn cynnwys cystadlaethau i 12-16 oed a'r Rhuban Glas Offerynnol o dan 16 oed
Wedi'r cystadlu yn y Pafiliwn heddiw prif seremoni'r dydd yw defod Coroni'r bardd am 16:30
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Carreg Lefn ydy ffugenw'r bardd buddugol. Merch yw hi.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae Sian Northey wedi cyhoeddi bod tri bardd wedi cyrraedd y Dosbarth Cyntaf.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Cyfaddefodd enillydd y Goron 2015, Guto Dafydd, ar S4C yn gynharach, dolen allanol mai ei wraig wnaeth drydar neges yn fyw yn y Pafiliwn llynedd a wnaeth ddatgelu mai fo oedd wedi ennill, a hynny cyn i'r cyhoeddiad gael ei wneud yn swyddogol ar y llwyfan.
Dywedodd ei fod wedi paratoi'r neges ymlaen llaw ond mai ei wraig wnaeth ei gyhoeddi wrth iddo sefyll ar ei draed.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Beirniaid y gystadleuaeth yw Sian Northey, Menna Elfyn ac Einir Jones. Sian Northey fydd yn traddodi'r feirniadaeth. Roedd ei chyfrol farddoniaeth 'Trwy Ddyddiau Gwydr' ar restr fer Llyfr barddoniaeth y flwyddyn yn 2014.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
"Mae ganddoch chgi bafiliwn del, newydd a mae ganddoch chi Archdderwydd newydd ac un dipyn delach na'r pafiliwn" meddai'r Archdderwydd Geraint Llifon gyda thafod yn ei foch wrth gynnal ei ddefod fawr gyntaf ers olynnu yr Archdderwydd Christine.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Iona Jones, cyn enillydd y Rhuban Glas, sy'n canu Gweddi'r Orsedd eleni. Cafodd y weddi ei llafarganu am y tro cyntaf i gerddoriaeth yn Eisteddfod Caergybi yn 1927. Cafodd y gerddoriaeth ei chyfansoddi gan W.S.Gwynn Williams, Trefnydd Cerdd yr Orsedd ar y pryd.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Dewi Corn a Paul Paul Corn Cynan sy'n canu'r cyrn gwlad. Mae'r ddau wedi bod y cyflawni'r swyddogaeth ym mhrif seremoniau'r Brifwyl ers 15 mlynedd.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r Archdderwydd Geraint Llifon yn cyflwyno cynrychiolwyr o'r gwledydd Celtaidd i'r gynulleidfa yn y Pafiliwn. Maen nhw'n cynnwys Telynor An Weryn, Bardd Mawr Cernyw a Corolyores, ac o Lydaw - Kurunbarzh, Dewrydd ac Emilie, Fardd Ofydd.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae Seremoni'r Coroni wedi dechrau. Mae'r Osgordd ar ei ffordd i'r llwyfan
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Testun y Goron eleni yw 'Llwybrau'.
Y dasg i'r beirdd oedd cyflwyno casgliad o gerddi hyd at 250 o linellau heb fod mewn cynghanedd gyflawn
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
“Mae 'na rywbeth go ellyllaidd am efeilliaid”
Bydd cynulleidfa Gymraeg yn cael cyfle i weld addasiad ffilm o'r nofel 'Y Llyfrgell' am y tro cyntaf yn Sinema'r Fenni heno.
Fe wnaeth yr awdur Fflur Dafydd ennill Gwobr Goffa Daniel Owen am ei nofel yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala yn 2009.
Mae Lowri Haf Cooke wedi bod i weld y ffilm yn barod a dyma'i hadolygiad.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Er ei bod hi'n wlyb ac yn oerach heddiw yn Y Fenni, doedden ni ddim cweit yn disgwyl gweld rhew ar faes yr Eisteddfod!
Na, nid tro gwael yn y tywydd yw hwn, ond bloc o ia un metr ciwbiedig sydd wedi cael ei osod yng nghanol cylch yr Orsedd.
Mae'n rhan o waith yr artistiaid RM Parry a Chris Glynn i nodi gwaith yr ŵyl Coleridge yng Nghymru, ac fe fydd yn toddi dros y 36 awr nesaf.
BBC Cymru Fyw
Queen, Oasis, Stone Roses, Catatonia ..Mae rhai o fandiau amlycaf y byd roc a phop wedi ymweld â bro'r Eisteddfod dros y degawdau.
Dydyn nhw ddim wedi bod yno i berfformio o flaen miloedd ond yn hytrach treulio amser mewn stiwdio wledig tu allan i Drefynwy i recordio.
BBC Cymru Fyw
Mae chwaraewr rygbi 13 o Gymru wedi cael gwaharddiad am wyth mlynedd ar ôl cael ei ddal yn cymryd cyffuriau am yr ail dro. Roedd Rhys Pugsley, 21 oed o Gasnewydd, ar fin dod i ddiwedd gwaharddiad dwy flynedd wedi iddo gael ei ddal yn Ebrill 2014 tra ar lyfrau Wigan, ac fe gafodd brawf positif arall yn Chwefror eleni. Ni fydd yn cael cymryd rhan mewn chwaraeon o unrhyw fath tan fis Mawrth 2024.
Heddlu De Cymru
Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi enw'r dyn a fu farw ar ôl i Ford Fiesta coch fod mewn gwrthdrawiad ar yr A4223 Ffordd Nant-y-Gwyddon ym Mhorth, Y Rhondda brynhawn Sadwrn.
Roedd Jake Frederick Rees yn 26 oed ac o Donypandy.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Gyda llai na awr a hanner i fynd tan ddefod y Coroni, y bardd Aneirin Karadog sydd wedi bod yn ceisio esbonio'r gystadleuaeth i'r rhai yn ein plith sy'n anghyfarwydd gyda seremonïau'r Brifwyl.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Dyma ymweliad cynta' Jude, sy'n byw yng Nghernyw ac yn dysgu Cymraeg, â'r Eisteddfod Genedlaethol. Daeth i Steddfod y Fenni am fod ei chyfnither, sy'n byw'n lleol, wedi bod yn codi arian at yr ŵyl.
Bu ym mhabell Maes D, yn sgwrsio ac ymarfer ei Chymraeg, a meddai: "Roedd fy Mamgu yn siarad Cymraeg ond dydw i ddim wedi siarad yr iaith ers o'n i'n ferch fach."
BBC Cymru Fyw
Caryl Lewis, enillydd Llyfr y Flwyddyn ydi gwrthrych Ateb y Galw Cymru Fyw yr wythnos hon.
Fe gipiodd hi dair gwobr am ei nofel ddiweddaraf 'Y Bwthyn'. Mi ofynnon ni i Caryl ddisgrifio ei hun mewn tri gair, ond yr ateb gawson ni oedd:
"Tri gair? Chi'n disgwyl i nofelydd ddefnyddio tri gair?" Digon teg!
Heddlu Gwent
Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw'r beiciwr modur a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn ardal Y Fenni ddydd Sadwrn.
Roedd beic modur Brian Davies, 66 oed, o Sir Henffordd mewn gwrthdrawiad â dau gerbyd arall ar y B4293 ger Lydart.
Aed ag ef i Ysbyty Neville Hall lle bu farw yn ddiweddarach.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Un o'r sesiynnau yn y Tŷ Gwerin heddiw oedd Gwilym Bowen Rhys a Gwennan Gibbard, oedd yn perfformio i gynulleidfa lawn.