Swigod!wedi ei gyhoeddi 14:33
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Bydd y cystadlu yn dechrau am 10:00, yn cynnwys cystadlaethau i 12-16 oed a'r Rhuban Glas Offerynnol o dan 16 oed
Wedi'r cystadlu yn y Pafiliwn heddiw prif seremoni'r dydd yw defod Coroni'r bardd am 16:30
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
BBC Cymru Fyw
Mae arweinydd UKIP yng Nghymru yn wynebu cael ei ddiarddel oherwydd bod yn dal dwy swydd.
Penderfynodd Pwyllgor Gweithredol y blaid i gael gwared arno oni bai ei fod yn ymddiswyddo o un o'i swyddi etholedig.
Mae Mr Gill wedi cynrychioli Cymru yn Senedd Ewrop ers 2014, ac enillodd sedd yn y cynulliad yn etholiad mis Mai.
Powys County Times
Mae cyngor Llanidloes wedi penderfynu rhoi cartre’ newydd i'r llyfrgell lleol , dolen allanolyn Neuadd y Dre, gan sicrhau ei ddyfodol am o leiaf pum mlynedd, medd y County Times.
Roedd Cyngor Powys yn dweud pe na bai cynghorau cymuned yn gallu gwarantu 50% o gostau cynnal y gwasanaeth, yna'r opsiwn nesaf fyddai cau.
Mae dyfodol 11 o lyfrgelloedd y sir yn y fantol.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Er gwaetha'r glaw, mae'r teulu Morton o Gefneithin yn mwynhau picnic ar y Maes, cyn rhuthro i gysgodi ym mhabell S4C i wylio sioe Cyw.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r delyn deires gafodd ei roi'n wobr gan Arglwyddes Llanofer yn Eisteddfod 1848 yn cael ei harddangos yn y Lle Hanes heddiw ar y Maes, ond am heddiw'n unig.
Hefyd yn cael ei arddangos mae gwisg Thomas Gruffydd, telynor personol yr Arglwyddes.
BBC Cymru Fyw
Mae mam o Gaerdydd wedi cael ei charcharu am bum mlynedd am ffilmio fideos anweddus gyda'i mab oedd yn ei arddegau.
Roedd hi wedi ffilmio'r ddau yn cael rhyw ac wedi anfon y fideo ar ffôn symudol i berthynas agos.
Bydd enw'r fam i bedwar yn cael ei roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.
The Daily Star
Yn y diwedd ar ôl brwydro am awr bu'n rhaid iddynt adael i'r siarc Porbeagle fynd yn rhydd.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mi fuodd Gruffydd Aled Williams, Caryl Lewis a Mererid Hopwood yn cynnal sesiwn drafod ac yn darllen darnau o'u cyfrolau oedd yn fuddugol yng Nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn eleni yn y Lolfa Lên.
BBC Cymru Fyw
Mae'r cwmni sydd am godi cynllun ynni hydro yng Nglyn Rhonwy ger Llanberis wedi cyflwyno eu cais cynllunio i Gyngor Gwynedd.
Dywed y cwmni na fyddant yn defnyddio peilonau er mwyn cysylltu'r cyflenwad ynni gyda'r Grid Cenedlaethol.
Dywed y cwmni y byddai'r cynllun terfynol yn creu hyd at 30 o swyddi llawn amser.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Un o ddelweddau mwyaf nodweddiadol y Steddfod... llwytho telyn i gefn y car, ond nid Volvo estate tro yma!
BBC Cymru Fyw
Fe fydd cyn gynghorydd sir ar Ynys Môn, John Arthur Jones, yn cael ei ddedfrydu ym mis Medi.
Ym mis Mehefin fe wnaeth llys benderfynu fod Jones 66 oed o Fodffordd yn euog o ddisgleirio golau ar awyrennau'r Awyrlu.
Heddiw penderfynodd barnwr yn Llys y Goron Caernarfon fod yna resymau meddygol dilys i oedi cyn ei ddedfrydu.
Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam newydd gyhoeddi pa rifau fydd ar gefnau'r garfan ar gyfer y tymor newydd. Bydd y Dreigiau yn dechrau eu hymgyrch yng Nghynghrair Genedlaethol Vanarama yn erbyn Dover ar y Cae Ras y Sadwrn nesaf.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Wrth agor yr Orsedd yn swyddogol, yn y seremoni sy'n cael ei chynnal yn Y Babell Lên oherwydd y glaw, fe ddywedodd yr Archdderwydd Geraint Llifon, ar nodyn ysgafn: "Mae 'na bafiliwn newydd del, ac mae 'na Archdderwydd newydd, delach!"
Ac ar nodyn mwy difrifol, wrth i'r gynulleidfa godi ei llais i floeddio "Heddwch", fe ddywedodd, "mae cymaint o ryfeloedd yn y byd, mae eisiau i bobl o ben draw'r byd glywed be sy' gan y Fenni i'w ddweud."
BBC Cymru Fyw
Mae Gweinidog Llywodraeth Cymru â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, Alun Davies, ar y maes heddiw ar gyfer lansiad ymgyrch miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Ond mae'n bwysig nad Eisteddfodwyr yn unig sy'n clywed y neges, meddai.
"Er ein bod ni'n ei lansio yn yr Eisteddfod, dydyn ni ddim jyst yn siarad â Cymry Cymraeg," meddai Alun Davies.
"Gormod o weithiau yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydyn ni fel Cymry wedi bod yn siarad gyda'n gilydd am y Gymraeg. Mae hyn yn fater o siarad gyda'r genedl yn ei gyfanrwydd."
Cyngor Sir Penfro
Mae'r cynlluniau ar gyfer dwy ysgol newydd, gan gynnwys ysgol cyfrwng Cymraeg, wedi eu cyflwyno i Gyngor Sir Penfro.
Bydd yr ysgol Gymraeg newydd yn Hwlffordd yn darparu ar gyfer disgyblion rhwng 3-16 oed.
Mae cynlluniau hefyd ar gyfer ysgol gynradd newydd yn Hundleton yn ne'r sir.
BBC Cymru Fyw
Ydych chi ar fin pwyntio'r car i gyfeiriad Y Fenni? Awydd gwybod sut i gyrraedd y Maes? Dyma i chi fideo i'ch helpu rhag ofn i'r satnav 'na eich anfon chi ar gyfeiliorn!
Wales Online
Yn ôl WalesOnline mae trenau gorlawn yn fwy o broblem yn ne Cymru nag yn y rhan fwyaf o lefydd eraill y tu allan i Lundain., dolen allanol
Yn ôl data'r Adran Drafnidiaeth, roedd teithwyr yn gorfod sefyll ar ddwy ran o bump o wasanaethau oedd yn cyrraedd Caerdydd rhwng 08:00 a 09:00 yn 2015.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Falle bod 'na rai ohonoch chi sy'n anghyfarwydd a'r Steddfod a'r criw o bobl mewn gwisgoedd amryliw. Pam? Pwy ydyn nhw? Gadewch i Aneirin Karadog geisio esbonio!
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.