Gwenu yn y glawwedi ei gyhoeddi 11:17
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'n amlwg nad yw'r glaw yn amharu ar y mwynhad o fod yn rhan o seremoni Cylch yr Orsedd bore 'ma!
Bydd y cystadlu yn dechrau am 10:00, yn cynnwys cystadlaethau i 12-16 oed a'r Rhuban Glas Offerynnol o dan 16 oed
Wedi'r cystadlu yn y Pafiliwn heddiw prif seremoni'r dydd yw defod Coroni'r bardd am 16:30
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'n amlwg nad yw'r glaw yn amharu ar y mwynhad o fod yn rhan o seremoni Cylch yr Orsedd bore 'ma!
BBC Wales News
Yn ôl gwefan BBC Wales News mae'r cyn athletwr Colin Jackson wedi mynegi ei siom na fydd Cymru yn gwneud cais i gynnal Gemau'r Gymanwlad yn 2026. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi fis diwethaf y byddai cais o'r fath yn costio rhwng £1.3 a £1.5 biliwn.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Mae'r dyfarnwr rygbi Nigel Owens wedi bod yn cynnal sesiwn cwestiwn ag ateb ym mhabell Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cynllun Gwobrau Dewi Sant y Llywodraeth.
Nigel oedd enillydd Gwobr Arbennig y Prif Weinidog eleni.
Heddlu Gogledd Cymru
Dywed Heddlu'r Gogledd iddynt ddod o hyd i gorff dyn wrth ymyl Traphont Ddŵr Pontcysyllte, ger Wrecsam am 06:00 fore ddoe. Dyw'r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus. Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod U113364.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'n debyg fod glaw trwm ar ei ffordd i'r Fenni, ond dim ond glaw mân sydd ar y maes hyd yn hyn.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Llongyfarchiadau i dîm Y Ffoaduriaid, enillwyr Y Talwrn eleni. Cafodd dau aelod o'r tîm, Gruffudd Eifion Owen a Llŷr Gwyn Lewis farciau llawn gan y Meuryn. Dyma i chi gerdd Gruffudd am wisg y criw Cerdd Dant. Gallwch chi ddarllen cerdd Llŷr a gweddill cerddi'r gyfres ar wefan Y Talwrn
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Weithiau mae'n anodd dweud beth sy'n ddarnau celfyddydol a beth sydd ddim yn y Lle Celf ar y Maes.
Mae'n debyg taw diffoddwr tân yw hwn...ar gyfer argyfwng yn unig!
Heddlu Gogledd Cymru
Mae Hedldu'r Gogledd yn apelio am dystion i ddamwain ar yr A5 ger Y Waun brynhawn ddoe lle cafodd ddynes anafiadau difrifol iawn.
Cafodd yr heddlu eu galw ychydig wedi 16:00 i wrthdrawiad rhwng car a beic modur. Roedd y ddynes yn teithio ar y beic modur, ac fe gafodd ei chludo i ysbyty yn Stoke.
Dylai unrhyw un all fod o gymorth ffonio'r heddlu ar 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod U113298.
BBC Cymru Fyw
Fe fydd Prifysgol Caerdydd yn cynnal trafodaeth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ynghylch y 'teledu traddodiadol', a hynny wrth i arferion gwylio'r genedl droi'n fwyfwy digidol.
Bydd y drafodaeth - 'Tynged Teledu: ydy'r oes ddarlledu yn dirwyn i ben?' - yn cael ei chynnal ym mhabell Prifysgol Caerdydd brynhawn Llun.
BBC Cymru Fyw
Mae dau lanc wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â lladrad mewn lloches i gathod yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Cafodd dair cath eu darganfod yn farw tra bo tri arall wedi cael eu darganfod yn ddiweddarach yn iach yn dilyn y digwyddiad ddydd Sadwrn.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae cyrraedd Maes yr Eisteddfod wastad yn drydanol, ond yn fwy byth eleni gan fod y weithred o gerdded dros y bont ger y prif fynedfa'n creu ynni trydanol sy'n cael ei ddefnyddio gan yr ŵyl.
Golwg 360
Fe ddywed Golwg 360 bod Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod dyn wedi’i ryddhau ar fechnïaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol, dolen allanol yn Sir y Fflint dros y penwythnos.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r gwaith paratoi ar gyfer seremoni 'r orsedd wedi cychwyn yn gynnar ar y Maes bore 'ma.
Taro'r Post
BBC Radio Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Bydd seremoni'r Coroni'n cael ei chynnal yn ddiweddarach yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau, gyda dyluniad y goron yn ddathliad o fro'r Eisteddfod.
Cyflwynir y Goron eleni am gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn, hyd at 250 o linellau ar y pwnc 'Llwybrau'. Y beirniaid yw Siân Northey, Menna Elfyn, ac Einir Jones.
BBC Cymru Fyw
Mae Cofiadur Gorsedd y Beirdd, Y Prifardd Penri Roberts wedi galw ar y cerddor Arfon Wyn i ail-ystyried ei benderfyniad i adael yr Orsedd.
Ar ei dudalen Facebook, fe gyhoeddodd Mr Wyn ei fod yn protestio oherwydd fod y sefydliad wedi "gwrthod rhoi clod dyladwy i dîm pêl-droed Cymru."