Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 17:59 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016
BBC Cymru Fyw
Dyna'r cyfan o Faes yr Eisteddfod ac o Gymru am heddiw. Fe fydd y llif byw yn dychwelyd am 08:00 fore Gwener.
Mae'r cystadlu yn y Pafiliwn yn dechrau am 10:00, ac yn cynnwys dawnsio step unigol i ferched a bechgyn dros 16 oed
Prif seremoni'r dydd yw seremoni'r Fedal Ddrama am 17:00
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol
BBC Cymru Fyw
Dyna'r cyfan o Faes yr Eisteddfod ac o Gymru am heddiw. Fe fydd y llif byw yn dychwelyd am 08:00 fore Gwener.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Bydd set o ganeuon cyfarwydd gan rai o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru yn cael eu perfformio i gyfeiliant cerddorfa ym Mhafiliwn yr Eisteddfod heno.
Huw Stephens o Radio 1 fydd yn cyflwyno'r dehongliad newydd o ganeuon Candelas, Yr Ods a Sŵnami gan y Welsh Pops Orchestra dan arweiniad y cerddor Owain Llwyd.
Fe wnaeth cyfrif Maes B drydar rhagflas yn gynharach yn yr wythnos:
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Llywelyn Elidyr Glyn o Lanllyfni, Caernarfon, yw enillydd Tlws Alun Sbardun Huws, a gyflwynir am y tro cyntaf eleni am gân wreiddiol ac acwstig ei naws.
Wrth draddodi'r feirniadaeth dywedodd Emyr Huws Jones ar ran ei hun a Bryn Fôn, "Mae geiriau gwych yma ac mae'r alaw yn ychwanegu atynt yn arbennig iawn.
"Yr ymateb cyntaf oedd, efallai fod y gân angen 'middle 8', mynd i rwla arall, yn gerddorol.
"Ond o wrando eto mae'r cyfansoddwr wedi bod yn ddewr ac yn gelfydd i adael i'r alaw orwedd yn ei symlrwydd.
"Y math o beth y byddai Alun Sbardun Huws wedi ei wneud."
'Ffresni beiddgar'
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Dywed y beirniaid: "Mae yma ffresni beiddgar gan ysgrifennwr arbrofol, hyderus, nad yw'n ofni torri'r 'rheolau'.
"Mae'n rhannol o ddifrif, rhannol tafod yn y boch, chwareus, prydferth, ond drwy'r cyfan yn llawn dychymyg.
"Dyma rywun sy'n gwybod sut i ddefnyddio'r gwagle theatrig a hefyd ei ddadstrwythuro. Gallwn weld ei photensial cyffrous o'i llwyfannu."
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Roedd yn drydydd yn y gystadleuaeth ddwy flynedd yn ôl, ac yn ail y llynedd, ond daeth i'r brig yn y gystadleuaeth eleni.
Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, derbyniodd ei addysg gynnar yn Ysgol y Dderwen ac Ysgol Bro Myrddin, cyn astudio Drama ym Mhrifysgol Aberystwyth. Caiff y Fedal Ddrama ei chyflwyno am ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Dywedodd Catrin Jones Hughes fod yna safon uchel i'r gystadleuaeth a bod o leiaf tair o'r dramâu yn cael eu hystyried i gipio'r Fedal.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Catrin Jones Hughes, Ffion Hâf, Aled Jones Williams yw'r beirniaid. Catrin Jones Hughes sy'n traddodi'r feirniadaeth.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae'r Fedal Ddrama yn cael ei rhoi er cof am Urien Wiliam gan ei deulu am ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd.
Mae'n cael ei rhoi am ddrama sy'n dangos "yr addewid mwyaf" ac sydd â "photensial i’w datblygu ymhellach o gael cydweithio gyda chwmni proffesiynol".
Wyn Mason o Lanfarian ger Aberystwyth oedd enillydd y Fedal llynedd.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae seremoni'r Fedal Ddrama yn cael ei chynnal gan Lys yr Eisteddfod yn hytrach na Gorsedd y Beirdd ac mae'n cael ei hagor gan Gôr Plant y Sir sydd wedi ei ffurfio yn arbennig ar gyfer yr ŵyl.
Mae'n cynnwys plant o wyth o ysgolion yr ardal a Chôr Gospel Canolfan Gerddoriaeth Torfaen.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae prif seremoni wobrwyo dydd Iau newydd ddechrau yn y Pafiliwn - cystadleuaeth i ddewis enillydd y Fedal Ddrama.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Steffan Lloyd Owen sydd wedi ennill un o brif wobrau canu yr Eisteddfod sef Gwobr Goffa Osborne Roberts - Y Rhuban Glas.
Y tri arall a ddaeth i’r llwyfan oedd John Ieuan Jones, Huw Ynyr a Gethin Lewis.
Dywedodd y beirniaid mai “trwch blewyn” oedd rhwng y cyntaf, yr ail a'r trydydd
Mae clipiau a chanlyniadau'r cystadlu yn ein hadran Eisteddfod.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Cyfle am ychydig o himwor, a Beth Jones yn perfformio ei set 'stand up' yn y Llannerch Gudd .
BBC Cymru Fyw
Cafodd dynes ei chludo i'r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl iddi anafu ei choes ar draeth yn Sir Benfro.
Cred fod y ddynes wedi torri ei choes ar draeth Abereiddi, ger Tyddewi.
Cafodd hofrennydd gwylwyr y glannau ei anfon o Gaernarfon ynghyd â chriwiau gwylwyr y glannau o Dyddewi ac Abergwaun.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Yn chwarae ar y Maes ar hyn o bryd mae yr artist Alun Gaffey
BBC Cymru Fyw
Mae ymosodwr Sbaen Fernando Llorente ar ei ffordd i Abertawe.
Mae disgwyl i'r clwb roi prawf meddygol i Llorente fory cyn i'r chwaraewr 31 oed ymuno â'r Elyrch o Sevilla.
BBC Cymru Fyw
Cafodd dyn 60 oed oedd ar ei wyliau yn Llandudno 'chydig bach o syndod wrth ddychwelyd i'w westy a gweld fod llinellau melyn wedi eu peintio naill ochr i'w gar.
Dywedodd David Carroll o ardal Manceinion: "Pan wnes i barcio doedd yna ddim llinellau o gwbl, yna wrth ddychwelyd ddydd Mercher roedd yna linellau... Roedd o'n ddoniol ond 'chydig yn bizarre."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Conwy: "Pe bai ceir wedi eu parcio ac nad oes modd dod o hyd i'r perchnogion er mwyn symud y ceir, yna bydd y contractwyr yn cwblhau beth sy'n bosib, a dychwelyd yn ddiweddarach i gwblhau’r gwaith."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Yn y cyfamser, mae cyflwynwyr Cyw wedi bod yn diddanu ar Lwyfan y Maes y prynhawn 'ma.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae cystadleuaeth Gwobr Goffa Osborne Roberts, Y Rhuban Glas, newydd ddechrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Gallwch ddilyn y cystadlu yn fyw drwy glicio ar dop tudalen ein llif byw.
Y pedwar sydd wedi cyrraedd y llwyfan ydy John Ieuan Jones, Huw Ynyr, Steffan Lloyd Owen a Gethin Lewis.
Bydd yr enillydd yn derbyn y wobr goffa a £150 ac yn derbyn ysgoloriaeth.
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Mae ein lluniau cyntaf wedi eu cyhoeddi yn oriel y dydd o faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Fenni.