Crynodeb

  • Mae'r cystadlu yn y Pafiliwn yn dechrau am 10:00, ac yn cynnwys dawnsio step unigol i ferched a bechgyn dros 16 oed

  • Prif seremoni'r dydd yw seremoni'r Fedal Ddrama am 17:00

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol

  1. Tatŵ newydd Bethanwedi ei gyhoeddi 12:00 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae 'na ddipyn o dynnu coes - neu droed - yn digwydd ar lwyfan y Pafiliwn bore 'ma.

    Cafodd Bethan Elin Wyn Owen - a orffenodd yn drydydd yng nghystadleuaeth Llefaru Unigol Agored - sioc ar ôl i Nic Parry dynnu sylw'r gynulleidfa at datŵ newydd ar ei throed a gafodd hi ar ymweliad diweddar â Magaluf!

    Bethan
    tatw Bethan
  2. Gwadu achosi mawrolaeth drwy yrru'n ddiofalwedi ei gyhoeddi 11:44 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae dyn 28 oed o Surrey wedi pledio'n ddieuog i ddau gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal yn dilyn gwrthdrawiad angheuol rhwng car a beic modur yn Nyffryn Conwy y llynedd. 

    Bu farw Stephen Probert, 56, a'i bartner Joanne Wynder, 40, o Fae Colwyn yn dilyn y gwrthdrawiad ar yr A470 ym Metws y Coed.

  3. Prynu cadair eisteddfodol o1879wedi ei gyhoeddi 11:38 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    The Leader

    Mae Cyngor Cymuned Coedpoeth wedi talu £250 ar eBay am gadair o Eisteddfod Coedpoeth yn 1879,, dolen allanol meddai'r Leader.

    Cafodd y gadair ei hennill gan JT Gabriel, arweinydd côr a chyfansoddwr o ardal Wrecsam, a bydd nawr yn cael ei harddangos yn y llyfrgell leol.

  4. Yr Arglwyddes yn siapiowedi ei gyhoeddi 11:31 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Ar ôl i gerflun pren, plaen ymddangos ar y maes ddechrau'r wythnos, mae wedi dod yn amlwg taw prosiect celf i greu delwedd lliwgar o'r Arglwyddes Llanofer, neu Gwenynen Gwent yw hwn.

    Os hoffech chi gyfrannu at ychwanegu lliw i'r cerflun mae cyfle i chi wneud tan ddiwedd yr Eisteddfod.

    cerflun
  5. Abertawe'n 'agos' at arwyddo Llorentewedi ei gyhoeddi 11:22 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    BBC Sport

    Mae clwb pêl-droed Abertawe'n agosáu at arwyddo ymosodwr Sevilla Fernando Llorente meddai BBC Sport.

    Mae gan y chwaraewr 31 oed ddwy flynedd i fynd ar ei gytundeb yn Sbaen.

    Mae disgwyl i gadeirydd Abertawe Huw Jenkins gyhoeddi o leiaf un aelod newydd i'r clwb "yn y dyddiau nesaf".

    LlorenteFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Ail ystyried rôl Archesgob Cymruwedi ei gyhoeddi 11:08 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r Eglwys yng Nghymru i gynnal arolwg o rôl a chyfrifoldebau Archesgob Cymru.

    Daw'r adolygiad yn dilyn cais gan yr Archesgob Dr Barry Morgan i Gorff Llywodraethol yr Eglwys y llynedd.

    Fe fydd y grŵp arolygu, fydd yn adrodd yn ôl erbyn y Pasg y flwyddyn nesaf, yn cynnwys pobl o bob un o chwe esgobaeth yr Eglwys.

    Dr Barry Morgan
  7. Y Maes yn prysurowedi ei gyhoeddi 10:45 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae hi'n dechrau prysuro ar y Maes erbyn hyn ac mae'r cystadlu wedi cychwyn, cliciwch uwchben i wylio'n fyw o'r pafiliwn.

    Y Maes
  8. Gorfodi cyngor i ad-dalu dirwyon parcio?wedi ei gyhoeddi 10:40 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    Daily Post

    Mae'r Daily Post yn dweud y gallai Gyngor Conwy gael eu gorfodi i dalu dirwyon parcio yn ôl i hyd at 400 o bobl, ar ôl i ddyn sydd â thrwydded parcio i'r anabl ennill apêl yn erbyn dirwy, dolen allanol.

  9. 'Angen pwyso am addysg cyfrwng Cymraeg'wedi ei gyhoeddi 10:20 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar awdurdodau lleol i ateb y galw am addysg cyfrwng Cymraeg.

    Mewn cyfweliad ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru, dywedodd Meri Huws bod angen i awdurdodau lleol fesur y galw am addysg Gymraeg yn effeithiol.

    "Da ni'n clywed ar draws Cymru, galw am addysg cyfrwng Cymraeg sydd ddim yn cael ei ateb ac mae yna gyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i wireddu'r hyn sydd angen a dwi yn credu bod 'na gyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdod lleol yn gwneud hynny." 

  10. Paratoi Taro'r Postwedi ei gyhoeddi 10:09 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Bydd Taro'r Post yn fyw o'r Maes eto heddiw am 13:00, ac mae'r gwaith o baratoi'r rhaglen wedi cychwyn yn gynnar i'r tîm.

    taro Post
  11. Cyflwyno'r Fedal Wyddoniaeth a Thechnolegwedi ei gyhoeddi 09:51 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau wedi ei chyflwyno i Guto Roberts o Lantrisant, Rhondda Cynon Taf, am ei gyfraniad hyd-oes i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.  

    Guto Roberts
  12. Cartŵn y Miswedi ei gyhoeddi 09:43 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Sgwrs gydag enillwyr Brwydr y Bandiau 2016wedi ei gyhoeddi 09:29 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Ar ôl cyhoeddi enillwyr Brwydr y Bandiau 2016, Lisa Gwilym oedd yno i gael ymateb y band buddugol, Chroma.

    Disgrifiad,

    Sgwrs gydag enillwyr Brwydr y Bandiau 2016

  14. Chroma wedi ennill Brwydr y Bandiauwedi ei gyhoeddi 09:16 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Enillwyr Brwydr y Bandiau 2016 yw Chroma o Bontypridd.

    Neithiwr ar lwyfan y Maes, wnaeth y band ennill £1000, Sesiwn C2, gig ar lwyfan Maes B a'r cyfle i ymddangos ar Ochr 1 ar S4C. 

    Gafodd y gystadleuaeth ei chynnal ar y cyd gan Radio Cymru, Maes B a Mentrau Iaith Cymru.

    Disgrifiad,

    Cân fyw gan enillwyr Brwydr y Bandiau 2016

  15. Angen bod yn 'ddiplomataidd' i helpu dynes Saudiwedi ei gyhoeddi 09:06 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    BBC Wales News

    Bydd angen bod yn "ddiplomataidd" i helpu dynes o Abertawe i ddychwelyd yn ôl i Gymru o Saudi Arabia, yn ôl cyfarwyddwr elusen.

    Ddoe, fe wnaeth barnwr ddweud y dylai Mohammad Al-Jeffery adael i'w ferch, Amina, adael Saudi Arabia os yw hi'n dymuno.

    Mae Amina, 21, yn dweud bod ei thad wedi ei chadw dan glo yn y wlad, rhywbeth mae Mr Al-Jeffery yn ei wadu.

  16. Asesu gobeithion Cordinawedi ei gyhoeddi 08:56 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    Y Gemau Olympaidd

    A chyn yr ornest yna, Rhodri Llywelyn sy'n asesu gobeithion Cordina yn Rio.

    Disgrifiad,

    Gemau Olympaidd: Rhodri Llewelyn yn Rio