Crynodeb

  • Mae'r cystadlu yn y Pafiliwn yn dechrau am 10:00, ac yn cynnwys dawnsio step unigol i ferched a bechgyn dros 16 oed

  • Prif seremoni'r dydd yw seremoni'r Fedal Ddrama am 17:00

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol

  1. Cordina i gael gwybod ei wrthwynebyddwedi ei gyhoeddi 08:45 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Dadl gyntaf Jeremy Corbyn ac Owen Smithwedi ei gyhoeddi 08:36 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    BBC Cymru Fyw

    Bydd y ddau ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth y blaid Lafur yn mynd benben â'i gilydd mewn dadl yng Nghaerdydd nos Iau.

    Dyma fydd y tro cyntaf i Jeremy Corbyn ac Owen Smith wynebu ei gilydd yn y ras i arwain y blaid.

    Corbyn a Smith
  3. 'Sychach a llai gwyntog'wedi ei gyhoeddi 08:25 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    Tywydd, BBC Cymru

    Y tywydd gan Llyr Griffiths-Davies y bore ma: "Diwrnod sychach a llai gwyntog na ddoe, er bydd tipyn o awel ffres ar brydiau.

    "Rhai cawodydd gwasgaredig, ac ambell gyfnod heulog. Y tymheredd ucha'n 18-20C."

    Am fwy ewch i'r wefan dywydd.

  4. Dechrau da i Carey a Morgannwgwedi ei gyhoeddi 08:17 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    Criced, BBC Cymru

    Cafodd Lukas Carey ddechrau da i'w yrfa gyda Morgannwg ddoe gan gymryd tair wiced yn ystod ei gêm gyntaf.

    Fe gymerodd y bowliwr 19 oed dair wiced am 37 rhediad wrth i Forgannwg gyfyngu Sir Northampton i 108-4 ar ddiwrnod cyntaf y gêm bencampwriaeth yn Abertawe.

    Carey
  5. Meithrinfa Aberystwyth yn ailagorwedi ei gyhoeddi 08:08 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    BBC Cymru Fyw

    Bydd meithrinfa yn Aberystwyth yn ailagor ddydd Iau, bythefnos ar ôl i staff adael bachgen bach ar fws mini am dros ddwy awr ar ddiwrnod poethaf y flwyddyn.

    Cafodd y plentyn ei adael yn y cerbyd tu allan i Feithrinfa Camau Bach ar 20 Gorffennaf heb yn wybod i'r staff.

    Meithrinfa
  6. Llai yn gwrando ar orsafoedd radiowedi ei gyhoeddi 08:03 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae llai yn gwrando ar Radio Cymru a Radio Wales, gyda Radio Wales yn cofnodi eu ffigyrau gwrando isaf ers troad y ganrif.

    Cyrhaeddodd Radio Cymru gynulleidfa wythnosol o 103,000 o wrandawyr yn ystod ail chwarter y flwyddyn, gostyngiad o 9,000 o'i gymharu â'r chwarter blaenorol.

    Disgynnodd cynulleidfa Radio Wales i 333,000 o wrandawyr wythnosol, gostyngiad o 47,000 ers y tri mis blaenorol a 75,000 yn llai na'r un cyfnod y llynedd.

    Radio
  7. Bore dawedi ei gyhoeddi 08:00

    Bore da a chroeso i'r llif byw ar 4 Awst gyda'r diweddara' o'r maes a holl newyddion y dydd.

    Mae'r cystadlu'n dechrau am 10:00 a phrif seremoni'r dydd yw'r Fedal Ddrama.

    Cysylltwch gyda ni ar cymrufyw@bbc.co.uk neu ar ein tudalennau Facebook, dolen allanol a Twitter, dolen allanol.