Crynodeb

  • Mae'r cystadlu yn y Pafiliwn yn dechrau am 10:00, ac yn cynnwys dawnsio step unigol i ferched a bechgyn dros 16 oed

  • Prif seremoni'r dydd yw seremoni'r Fedal Ddrama am 17:00

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol

  1. Dim Yws Gwynedd yn yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 15:09 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Cwmni peirianyddol wedi ei werthuwedi ei gyhoeddi 15:07 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    Shropshire Star

    Yn ôl y Shropshire Star, mae cwmni peirianyddol Control Techniques, sy'n cyflogi tua 360 o bobl yn ei bencadlys yn y Drenewydd, wedi ei werthu. 

    Cwmni Nidec Corporation o Japan sydd wedi prynu Control Techniques, a'i chwaer gwmni Leroy-Somer o Ffrainc.

  3. Ffasiwn y Maeswedi ei gyhoeddi 14:45 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Dawnswyr Gwerin Pen-y-bont yn crwydro'r maes cyn perffomio y prynhawn 'ma.

    Dawnswyr
  4. Dydych chi byth rhy hen i ddysguwedi ei gyhoeddi 14:36 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae un o gystadleuwyr hynaf yr Eisteddfod, Helena Jones o Aberhonddu, newydd fod ar y llwyfan yn y gystadleuaeth llefaru unigol dros 16 oed.

    Mae Helena'n dathlu ei phen-blwydd yn 100 fis nesaf, ac mae hi wedi bod yn cystadlu ers yn bedair oed.

    Dysgodd yr iaith yn Sefydliad y Merched yn Aberhonddu cyn gwneud arholiad yn y Gymraeg tua saith mlynedd yn ôl.

    "Ond nid oes llawer o siawns i siarad Cymraeg ac os nad ydw i yn siarad Cymraeg dwi'n colli fe. Mae'r eisteddfodau wedi helpu fi llawer i ddysgu Cymraeg." 

    Disgrifiad,

    Helena Jones / Llefaru Unigol dros 16 oed

  5. Parth cefnogwyr ar gyfer Gemau Riowedi ei gyhoeddi 14:27 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    Cyngor Abertawe

    Dywed Cyngor Abertawe y bydd Sgwâr y Castell yng nghanol y ddinas yn cael ei drawsnewid i barth cefnogwyr yn y ystod y Gemau Olympaidd.

    Yn ôl llefarydd fe fydd gwair artiffisial yn cael ei osod dros ran o'r sgwâr, a bydd cadeiriau haul yn cael eu rhoi yno er mwyn i bobl gael mwynhau'r cystadlu.

  6. Sioe Bara Cawswedi ei gyhoeddi 14:18 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Os ydych chi ar y Maes heddiw neu 'fory, mae Cwmni Theatr Bara Caws yn perfformio eu drama Ga'i Fod, am griw o bobl sydd yn cyfarfod un penwythnos i fyw fel anifeiliaid y goedwig.

    Bydd y sioe'n cael ei pherfformmio yng Nghae'r Castell, tu ôl y Sinemaes heddiw am 17:00 a fory am 13:00 a 17:00.

    bara
  7. Noson hir o'u blaenauwedi ei gyhoeddi 14:09 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    Golwg 360

    Bydd criw o artistiaid o fyd y theatr yn mynd ati i sgrifennu a chynhyrchu drama newydd sbon dros nos heno , dolen allanolyn yr Eisteddfod Genedlaethol, meddai Golwg360.

    Bydd gan y criw o Gwmni Frân Wen 20 awr i ddatblygu syniad a fydd wedi ei ddewis o blith syniadau sydd wedi eu postio i flwch yn y Pentref Drama ar y Maes. Bydd yn cael ei berfformio ddydd Gwener.

  8. Dangos fersiwn newydd o'r Chwarelwrwedi ei gyhoeddi 13:53 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Yn y Sinemaes heddiw cafodd fersiwn newydd o ffilm hanesyddol Y Chwarelwr ei dangos.

    Cafodd y fersiwn gwreiddiol ei chynhyrchu yn 1935 gan Syr Ifan ab Owen Edwards.

    Roedd y ffilm yn cael ei ddangos mewn cymunedau dros Gymru yn y cyfnod fel rhan o sinema deithiol yr Urdd.

    Ifor ap Glyn
  9. Cyflwyniad am gyfraniad i fyd gwyddoniaethwedi ei gyhoeddi 13:39 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    BBC Cymru Fyw

    Wedi cyflwyniad yn y Pagoda y bore 'ma cafodd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg ei chyflwyno ar lwyfan y Pafiliwn i Guto Roberts o Lantrisant.

    Mae Mr Roberts yn gyn athro Ffiseg ym Mhrifysgol Morgannwg, yn gyd-sefydlydd Cymdeithas Wyddonol Aberystwyth ac wedi bod yn ymwneud â Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers 1971, pan drefnwyd y babell gyntaf ar y Maes.

    Guto Roberts
  10. Her gyfreithiol i wifrau trydan?wedi ei gyhoeddi 13:33 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    BBC Wales News

    Mae pobl sy'n gwrthwynebu gosod gwifrau trydan mewn ardal wledig yn Siroedd Ddinbych a Chonwy yn bwriadu herio'r penderfyniad yn y llysoedd, medd BBC Wales News.

    Y bwriad yw codi 10.5 milltir o wifrau er mwyn cysylltu dwy fferm wynt yng nghoedwig Clocaenog gydag is-orsaf Glascoed, ger Llanelwy.

    Cafodd y cynlluniau sêl bendith yr Ysgrifennydd Ynni yr wythnos diwethaf, ond dywed gwrthwynebwyr y bydd y datblygiad yn niweidio’r diwydiant amaeth ac yn hagru'r ardal.

  11. Carchar am geisio treisio dyneswedi ei gyhoeddi 13:24 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae dyn o Gaerdydd wedi ei garcharu am 10 mlynedd am geisio treisio dynes ifanc dair blynedd yn ôl.

    Cafodd Stanislav Demater, 40, ei ddal wedi profion DNA ar ôl i swyddogion ei weld yn ymddwyn yn amheus yng nghanol y ddinas.

    Stanislav DematerFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
  12. Amser cinio yn Abertawewedi ei gyhoeddi 13:17 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Holi Guto Dafyddwedi ei gyhoeddi 13:08 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen, Guto Dafydd, wedi bod yn cael ei holi gan Gerwyn Williams yn y Babell Lên ac yn trafod ac yn darllen darnau o'i nofel fuddugol, 'Ymbelydredd'.

    Guto DafyddFfynhonnell y llun, bbc
  14. Gwesty yn nwylo'r gweinyddwyrwedi ei gyhoeddi 13:03 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    BBC Wales News

    Mae gwesty yn Sir Ddinbych wedi ei gau gan ddiswyddo 30 o bobl a chanslo pob achlysur oedd wedi ei drefnu yno, gan gynnwys priodasau. 

    Dywed BBC Wales News fod gwesty'r Wild Pheasant yn Llangollen wedi ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr "oherwydd pryderon am iechyd a diogelwch". 

    Gwesty Wild PheasantFfynhonnell y llun, JOSIE CAMPBELL | GEOGRAPH
  15. Dylanwad Dahl ar Gymruwedi ei gyhoeddi 12:51 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Roedd 'na drafodaeth am Roald Dahl ar y maes y bore ‘ma, a’i berthynas gyda Chymru. 

    Yn siarad oedd Angharad Tomos, Bethan Gwanas, Siwan Rosser o Brifysgol Caerdydd a Tomos Owen o Brifysgol Bangor

    bbc
  16. Creu cofrestr o wrthwynebwyr cydwybodolwedi ei gyhoeddi 12:39 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae arddangosfa sy'n olrhain hanes gwrthwynebwyr cydwybodol o Gymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf wedi ei lansio ar Faes yr Eisteddfod cyn iddi ddechrau ar daith ar draws Cymru.

    Bydd yr arddangosfa yn gwahodd pobl i rannu hanesion cudd y rhai hynny sydd wedi ymgyrchu yn erbyn rhyfel yn ystod y 100 mlynedd diwethaf, a bydd cofrestr o enwau'r gwrthwynebwyr cydwybodol yn cael ei chreu.

    Gwrthwynebwyr CydwybodolFfynhonnell y llun, Amgueddfa Carchar Dartmoor
  17. Agor a gohirio cwestwedi ei gyhoeddi 12:30 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio i fachgen pedair oed fu farw ar ôl tân yn ei gartre yn Alltwen, Pontardawe

    Bu farw Jac Evan Davies yn oriau man 27 Gorffennaf, ond llwyddodd ei fam Jenny, 28, a'i phlant eraill, babi 11 mis, Riley, tair oed, a Kelsey, chwech oed, i ddianc.

    Tân Pontardawe
  18. Cyhoeddi carfan merched Cymruwedi ei gyhoeddi 12:24 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    Cymdeithas Bêl-droed Cymru

    Mae'r Gymdeithas Bêl-droed wedi cyhoeddi carfan merched Cymru i wynebu Gweirniaeth Iwerddon mewn gêm gyfeillgar ar 19 Awst yn Rodney Parade.

    Mae Jess Fishlock, Natashia Harding a Sophioe Ingle ymhlith y garfan - mae rhestr llawn ar wefan y Gymdeithas Bêl-droed., dolen allanol

  19. Gweithdy opera ar y maeswedi ei gyhoeddi 12:17 Amser Safonol Greenwich+1 4 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae aelodau o Gwmni Opera Cymru wedi bod yn cynnal gweithdai i'r cyhoedd yn y Cwt Drama bore 'ma.

    Y wers gyntaf? Twymo'r llais.

    opera