Crynodeb

  • Mae'r cystadlu yn y Pafiliwn yn dechrau am 10:00 ac yn para' tan yn hwyr heno

  • Prif seremoni'r dydd yw defod Cadeirio'r Bardd am 16:30

  • Tro'r Corau Cymysg, Cerdd Dant ac Alaw Werin fydd hi yn ystod y sesiwn hwyr

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 18:01 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    BBC Cymru Fyw

    A dyna ni o faes yr Eisteddfod am ddiwrnod arall ond cofiwch bod y cystadlu yn y Pafiliwn yn parhau heno a bydd modd dilyn y cyfan ar y wefan.

    Bydd mwy o straeon o'r maes ar ein gwefan drwy'r dydd yfory hefyd, ond am y tro, hwyl fawr.

  2. 'Steddfod i Lundain'wedi ei gyhoeddi 17:58 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    Golwg 360

    Ar ôl treulio wythnos yn Y Fenni yn ymweld ac yn gohebu o’r Eisteddfod Genedlaethol, mae Prif Olygydd Celfyddydau’r BBC am weld y Brifwyl yn mynd i Lundain, meddai Golwg 360., dolen allanol

    Will Gompertz yn trafod gyda Huw Edwrads yn gynharach yn yr wythnosFfynhonnell y llun, bbc
    Disgrifiad o’r llun,

    Will Gompertz yn trafod gyda Huw Edwards yn gynharach yn yr wythnos

  3. Ymlacio yn yr haulwedi ei gyhoeddi 17:54 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Yr haul wedi disgleirio ar y Maes y prynhawn 'ma, a Miriam o Drefor a Dafydd o Fryncir wedi mwynhau'n fawr yn ôl yr olwg.

    Eisteddfod
  4. Chis yn paratoiwedi ei gyhoeddi 17:49 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Huw Chiswell yw'r prif atyniad ar lwyfan y Maes heno, bydd 'Y Cwm' a'i glasuron eraill i gyd i'w clywed o 20:00 ymlaen.

    Huw Chiswell
    Disgrifiad o’r llun,

    Huw Chiswell (dde) yn gynharach

  5. 'Noson braf'wedi ei gyhoeddi 17:43 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    Tywydd, BBC Cymru

    Mae yna noson braf o'n blaenau er y bydd yn troi'n oerach dros nos. 

    Bydd yn ddiwrnod hyfryd 'fory ac yn sych i ni gyd. Nos sadwrn fe fydd yna ychydig o law ond bydd yn troi'n sych ac yn braf ddydd Sul, er yn fwy gwyntog.

    Ewch i'r wefan dywydd am ragolygon pellach.

  6. Clipiau'r enillwyrwedi ei gyhoeddi 17:38 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Pwy enillodd yr Unawd Mezzo-Soprano/Contralto/Gwrth-denor dros 25, y Parti Alaw Werin a'r Rhuban Glas Offerynnol dros 19 oed? 

    Gyda'r cystadlu am y dydd wedi dod i ben gallwch weld canlyniadau a chlipiau enillwyr heddiw i gyd cyn diwedd y dydd ar ein tudalen ganlyniadau.

    Mae holl ganlyniadau'r wythnos i'w gweld yma.

    Parti Alaw WerinFfynhonnell y llun, bbc
  7. Llongyfarch y Prifardd Aneirin Karadogwedi ei gyhoeddi 17:34 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Gadawodd Aneirin Karadog y Pafiliwn i gymeradwyaeth eisteddfodwyr gyda rhai yn gweiddi "hen bryd!" i ddileit y bardd buddugol.

    Aneirin Karadog
  8. 'Henaint ni ddaw ei hunan'wedi ei gyhoeddi 17:31 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. 'Dyfodol yn saff'wedi ei gyhoeddi 17:25 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    "Beth sy'n gyffredin rhwng pob un o enillwyr yr Eistedfod Genedlaethol eleni?" gofynnodd yr Archdderwydd Geraint Llifon o lwyfan y Pafiliwn.

    "Pobl ifanc ydyn nhw i gyd" meddai "ac mae'n dyfodol ni'n saff yn eu dwylo nhw".

    Aneirin
  10. Cyflwyniadau i'r bardd buddugolwedi ei gyhoeddi 17:16 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Daw Merched y Ddawns Flodau yn Seremoni'r Cadeirio yn Eisteddfod o ysgolion cynradd Cantref, Dewstow, Ifor Hael, Y Ffin ac Ysgol Gymraeg Y Fenni.

    Rebeca Rhydderch-Price, cyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gwynllyw, yw Morwyn y Fro yn Seremoni Cadeirio'r Bardd yn yr Eisteddfod. Hi sy'n cyflwyno'r Flodeuged i'r Bardd Cadeiriol, sef ysgub fach o "flodau tir a daear Cymru".  

    Catrin Wood, Mam y Fro, sy'n cludo'r Corn Hirlas a Morynion y Llys yw Elinor Edwards ac Angharad Morley. Alexander Hemington a Ieuan David Merchant yw Macwyaid y Llys.

    Y Ddawns FlodauFfynhonnell y llun, bbc
  11. Aneirin Karadog yw enillydd y Gadairwedi ei gyhoeddi 16:58 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Aneirin Karadog o Bontyberem yw enillydd Cadair Eisteddfod Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016.

    Cafodd y gadair ei chyflwyno am ddilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn hyd at 250 o linellau dan y teitl 'Ffiniau'.

    Aneirin Karadog
  12. Bardd y Gadairwedi ei gyhoeddi 16:58 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae'r bardd buddugol ar ei draed.

    bard dy gadairFfynhonnell y llun, bbc
  13. 'Tad Diymadferth?' yw enillydd y Gadairwedi ei gyhoeddi 16:53 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    'Tad Diymadferth?' yw enillydd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy.

    Er mai Siac oedd "cynganeddwr gorau'r gystadleuaeth" am ei gerdd am daith lenyddol i Mwmbai roedd cerdd Tad Diymadferth? yn rhoi "llwyfan i rai o ofnau dyfnaf unrhyw riant. Cerdd sy'n gnweud inni feddwl a'n hannog i gyd i beidio a bod yn ddiymadferth," meddai Tudur Dylan Jones o'r llwyfan.  

  14. Naw wedi ymgeisiowedi ei gyhoeddi 16:45 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Naw bardd wedi ymgeisio am y Gadair eleni meddai Tudur Dylan Jones, a'r beirniaid "yn rhyfeddol agos at ei gilydd o ran trefn y naw".

    Mae dau wedi eu diystyru am "fethu a llwyddo i greu cerddi mewn cynghanedd gyflawn". 

    Tudur Dylan yn traddodiFfynhonnell y llun, bbc
  15. Beirniadaeth Tudur Dylan Joneswedi ei gyhoeddi 16:43 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Y Prifardd a'r Athro Tudur Dylan Jones sy'n traddodi'r feirniadaeth ar ran ei gyd-feirniaid Meirion MacIntyre Hughes a Cathryn A Charnell-White.

    Fe enillodd Tudur Dylan y Gadair ddwywaith, yn 1995 a 2005, a'r Goron yn 2007.

  16. Cadair er cofwedi ei gyhoeddi 16:41 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae'r Gadair yn cael ei rhoi eleni er cof am y Prifardd a'r Cyn Archdderwydd Dic Jones a enillodd y Gadair yn Eisteddfod Aberafan am ei awdl ‘Y Cynhaeaf’ 50 mlynedd yn ôl.

    Mae wedi ei chreu gan Emyr Garnon James a oedd yn ymweld yn gyson â chartref Dic Jones. 

    Cadair 2016 a 1966Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Cadair 2016 a'r gadair enillodd Dic Jones yn 1966

  17. Gweddi'r Orseddwedi ei gyhoeddi 16:40 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Ffion Hâf sy'n canu Gweddi'r Orsedd a'r gynulleidfa yn cyd-ganu gyda hi am y tro olaf yr wythnos hon wrth i'r Orsedd gynnal ei seremoni olaf yn Eistedfod y Fenni 2016.

  18. Dim lle i bawb?wedi ei gyhoeddi 16:35 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Seremoni'r cadeirio yn dechrauwedi ei gyhoeddi 16:33 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Ciwio i'r Pafiliwnwedi ei gyhoeddi 16:27 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae ciwiau hirfaith  i fynd i mewn i'r Pafiliwn ar gyfer prif seremoni'r dydd heddiw.

    ciw
    ciw