Crynodeb

  • Mae'r cystadlu yn y Pafiliwn yn dechrau am 10:00 ac yn para' tan yn hwyr heno

  • Prif seremoni'r dydd yw defod Cadeirio'r Bardd am 16:30

  • Tro'r Corau Cymysg, Cerdd Dant ac Alaw Werin fydd hi yn ystod y sesiwn hwyr

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol

  1. Parcio rhatach yn Ninbychwedi ei gyhoeddi 16:21 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    Cyngor Sir Ddinbych

    Mae Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Tref Dinbych wedi cyhoeddi eu bod am ddiwygio taliadau parcio mewn dau faes parcio i siopwyr sydd fwya' prysur er mwyn cefnogi busnesau bach yn yr ardal leol ar ôl gwrando ar eu pryderon.

  2. Dedfrydu tri am ddwyn aurwedi ei gyhoeddi 16:16 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    BBC Cymru Fyw

    Mae tri dyn wedi eu carcharu am gyfanswm o dros 18 o flynyddoedd am ladrata yng Nghaerdydd.

    Fe wnaeth Tom Colwyn Price, 22, John Henry Janes, 25, a Simon Patrick Dooley, 27, dargedu dau gartref oedd a llawer o emwaith aur yno.

  3. Gig arall i Sŵnami henowedi ei gyhoeddi 16:02 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Ar ôl derbyn Tlws Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2016 yn gynharach, bydd Sŵnami yn perfformio ar brif lwyfan y Maes am 18:00 heddiw.

    Ond doedden nhw methu stopio siarad am y gyngerdd yn y Pafiliwn neithiwr: "Neith 'na ddim byd guro hynna neithiwr, oedd o'n anhygoel," meddai Ifan Sion Davies.

    Sŵnami
  4. Dedfrydu bocsiwr am dorri gên dynwedi ei gyhoeddi 15:52 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    BBC Wales News

    Mae bocsiwr o Gasnewydd wedi ei ddedfrydu am dorri gên dyn mewn dau le yn ystod gem o bêl-droed.

    Roedd Craig Woodruff, 24, wedi cyfaddef achosi niwed corfforol difrifol i Mitchell Green, 25, yn y digwyddiad. 

    Craig WoodruffFfynhonnell y llun, Wales News Service
  5. Ymweliad ailgylchu i bob cartrefwedi ei gyhoeddi 15:36 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    Cyngor Caerffili

    Bydd pob cartref yn Sir Caerffili yn cael ymweliad gan swyddog y cyngor fel rhan o ymgyrch i sicrhau bod mwy o bobl yn ailgylchu yn gywir.

    Mae'n golygu y bydd bron i 80,000 o gartrefi yn cael ymweliad dros yr wythnosau nesaf.

    Yn dilyn gwaith monitro ym mis Mai, daeth y cyngor i'r canlyniad na dim ond tua 38% o gartrefi oedd yn ailgylchu bwyd yn gywir.

  6. Corbyn: 'Hyderus am gefnogaeth o Gymru'wedi ei gyhoeddi 15:22

    BBC Wales News

    Tra ar ymweliad â Merthyr Tudful, mae Jeremy Corbyn wedi dweud ei fod yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur.

    Ei wrthwynebydd yn y ras yw AS Pontypridd, Owen Smith.

    Corbyn a Smith
  7. Mwy o ddefnydd o'r Gymraegwedi ei gyhoeddi 15:01

    BBC Cymru Fyw

    Mae arweinydd Cyngor Sir Fynwy wedi dweud bod cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cynyddu'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn y sir, ac wedi darparu cyfleoedd gwych i fusnesau.

    Dywedodd Peter Fox wrth BBC Cymru ei fod yn gobeithio mai gwaddol y Brifwyl fyddai sodro'r iaith ymhellach i fywyd bob dydd yn yr ardal.

  8. Set DJwedi ei gyhoeddi 14:54

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Ym mws statig #PethauBychain, roedd JJ Sneed wrthi yn diddanu gyda'i set DJ yn gynharach heddiw.

    #PethauBychain yw ymgyrch gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn ein bywydau bob dydd.

    JJ Sneed
  9. Dechrau gwell i Forgannwgwedi ei gyhoeddi 14:42

    Criced, BBC Cymru

    Mae Sir Northants wedi dechrau eu hail fatiad yn y gêm bencampwriaeth yn erbyn Morgannwg yn Abertawe ac mae Lukas Carey wedi cipio dwy wiced yn barod i'r tîm cartref. 

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Ceir ar y Maeswedi ei gyhoeddi 14:25

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae 'na bresenoldeb ar y Maes eleni gan y cwmni tu ôl i gynllun Cylchffordd Cymru, neu Circuit of Wales.

    Y bwriad yw adeiladu trac rasio mewn cynllun gwerth tua £300m yng Nglynebwy, sydd ddim yn bell iawn o'r Fenni.

    Car Circuit of Wales
  11. Sŵnami ar y brigwedi ei gyhoeddi 14:05

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Sŵnami sy’n derbyn Tlws Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni am eu halbwm llawn cyntaf, Sŵnami.

    Cyhoeddwyd hyn mewn seremoni arbennig yng Nghaffi Maes B y prynhawn ‘ma.      

    Swnami
  12. Canu gwerinwedi ei gyhoeddi 14:02

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Draw yn y Tŷ Gwerin prynhawn 'ma, roedd y delynores a'r gantores Gwenan Gibbard yn swyno'r gynulleidfa.

    Gwenan Gibbard
  13. Cerddorfa Ukulele Cymru yn perffomiowedi ei gyhoeddi 13:54

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae Mei Gwynedd a Cherddorfa Ukulele Cymru yn perfformio ar Y Maes amser cinio, gyda Defaid William Morgan ymysg y ffefrynnau oedd yn cael eu canu. 

    bbc
  14. Will Gompertz yn cael blas o'r Orseddwedi ei gyhoeddi 13:33

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Roedd gohebydd ceflyddydau y BBC, Will Gompertz, yn darlledu o sermoni yr Orsedd ar y Maes yn gynharach, ac fe wnaeth y digwyddiadau greu cryn argraff arno.

    will
  15. Cypress Hill ar y Maeswedi ei gyhoeddi 13:25

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Roedd Ed Holden yn rhoi sesiwn beatboxio ar y maes heddiw, gyda chaneuon y band Cypress Hill ymysg y gerddoriaeth oedd yn cael ei chyfieithu a'i addasu ganddo.

    Ed HoldenFfynhonnell y llun, bbc
  16. Oedi ar y ffyrddwedi ei gyhoeddi 13:19

    Teithio BBC Cymru

    Yng Nghaernarfon mae hi'n hynod brysur ar yr A487 rhwng Llanwnda a Chaernarfon;

    Ym Mhowys mae 'na oedi ar yr A470 rhwng Llanidloes a Chaersws, oherwydd y goleuadau dros dro yn Llandinam.  

  17. 'Nabod hwn?wedi ei gyhoeddi 13:13

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    "Pam does gan Sam Tân ddim job?"

    "Dwn'im."

    "Achos 'Sam Tân...."

    Sam Tân
  18. Sioe Wyddoniaeth yn plesiowedi ei gyhoeddi 13:08

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Roedd dipyn o sioe yn y Babell Gwyddoniaeth a Thechnoleg y bore 'ma wrth i'r plant cael eu diddanu gan y 'Sioe Wyddoniaeth Wych!'

    bbc