Crynodeb

  • Mae'r cystadlu yn y Pafiliwn yn dechrau am 10:00 ac yn para' tan yn hwyr heno

  • Prif seremoni'r dydd yw defod Cadeirio'r Bardd am 16:30

  • Tro'r Corau Cymysg, Cerdd Dant ac Alaw Werin fydd hi yn ystod y sesiwn hwyr

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol

  1. Delweddau anweddus: Carcharu dynwedi ei gyhoeddi 10:24

    Daily Post

    Fe ddywed y Daily Post bod dyn o Birmingham oedd wedi mynd i gartref ei dad yn Wrecsam i weithio ar gyfrifiadur wedi lawrlwytho delweddau anweddus o blant, dolen allanol.

    Cafodd ei garcharu am ddwy flynedd yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.

  2. Aelodau newydd yr Orseddwedi ei gyhoeddi 10:16

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Ymysg yr aelodau newydd sy'n cael eu derbyn i Orsedd y Beirdd mewn seremoni ar faes yr Eisteddfod heddiw mae Gwyn Elfyn, oedd yn actio cymeriad Denzil ar opera sebon Pobol y Cwm; y cerddor jazz Wyn Lodwick, yr Aelod Seneddol dros Feirnionydd, Liz Saville Roberts, a Roger Boore o Gaerdydd, sefydlydd Gwasg y Dref Wen. 

    Bydd y seremoni am 11:00 yng Nghylch yr Orsedd.

    Os ydych chi eisiau gwybod a allech chi â nhw fod yn yr Orsedd, rhowch dro ar ein cwis!

    Morwyn y Fro, Rebeca Rhydderch-Price, yn cludo'r flodeugedFfynhonnell y llun, bbc
  3. Rhowch gynnig ar sylwebu?wedi ei gyhoeddi 09:44

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Mwy o lefydd ar ward famolaeth?wedi ei gyhoeddi 09:33

    BBC Cymru Fyw

    Mae un o fyrddau iechyd Cymru yn gweithio ar gynllun i greu mwy o lefydd i famau sy'n rhoi genedigaeth mewn ysbyty yng Nghaerfyrddin.

    Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cyflwyno eu cynlluniau ar gyfer Ysbyty Glangwili i Lywodraeth Cymru ym mis Medi.

    GlangwiliFfynhonnell y llun, Geograph
  5. Paratoi i'r Orseddwedi ei gyhoeddi 08:48

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae'r cadeiriau wedi eu gosod o amgylch Cerrig yr Orsedd ar faes yr Eisteddfod yn barod ar gyfer y seremoni i urddo aelodau newydd bore 'ma. 

    Mae'n argoeli i fod yn ddiwrnod sych a braf, felly mae'n debyg bydd y seremoni yn cael ei chynnal yn yr awyr agored heddiw.

    Cerrig yr Orsedd
  6. Llafur: Gwrthdaro ffyrnigwedi ei gyhoeddi 08:38

    BBC Cymru Fyw

    Fe wnaeth Owen Smith a Jeremy Corbyn wrthdaro yn ffyrnig a'i gilydd yn ystod dadl yng Nghaerdydd neithiwr.

    Bu'r ddau yn ymddangos mewn dadl arbennig a drefnwyd gan y Blaid Lafur wrth i'r ddau gystadlu am arweinyddiaeth y blaid.

    corbyn a smith
  7. Y Pafiliwn yn rocio!wedi ei gyhoeddi 08:29

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Neithiwr ar faes yr Eisteddfod roedd gig arbennig yn y Pafiliwn wrth i'r DJ Huw Stephens gyflwyno Candelas, Yr Ods a Swnami yn perfformio i gyfeiliant y Welsh Pops Orchestra dan arweiniad y cerddor Owain Llwyd. Roedd y lle dan ei sang.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Cadair er cof am Dic Joneswedi ei gyhoeddi 08:12

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Bydd seremoni'r Cadeirio'n cael ei chynnal yn ddiweddarach ddydd Gwener yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau.

    Eleni, mae'n hanner canrif ers i Dic Jones ennill y Gadair yn Eisteddfod Aberafan am ei awdl 'Y Cynhaeaf', ac i nodi'r achlysur, cyflwynir y Gadair eleni gan ei deulu er cof am y bardd.

    cadeiriau 66 a 2016Ffynhonnell y llun, Eisteddfod
    Disgrifiad o’r llun,

    Cadeiriau 2016 a 1966

  9. Diwrnod brafwedi ei gyhoeddi 08:03

    Tywydd, BBC Cymru

    Llyr Griffiths-Davies sydd â'r tywydd i ni'r bore 'ma:

    "Diwrnod sych a braf ar y cyfan, gyda heulwen i’r mwyafrif. Y prynhawn ‘ma bydd ambell gawod ar frynie’r canolbarth. Yr awel yn ysgafn, a’r tymheredd ucha’n 18-21C."

    Am fwy o fanylion ewch i wefan dywydd y BBC.

  10. Ysgoloriaethau i ffoaduriaidwedi ei gyhoeddi 08:00

    BBC Cymru Fyw

    Mae rhai o brifysgolion Cymru yn datblygu cynlluniau i gynnig ysgoloriaethau i ffoaduriaid.

    Cadarnhaodd Prifysgol Aberystwyth eu bod yn trafod cynnig pum ysgoloriaeth, ac mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ystyried cynllun tebyg.

    Mae Prifysgol Caerdydd eisoes yn cynnig cymorth ariannol i geiswyr lloches.

    prifysgol aberystwyth
  11. Bore dawedi ei gyhoeddi 08:00

    BBC Cymru Fyw

    Croeso i'r llif byw ar fore Gwener, 5 Awst. Mae'n ddiwrnod mawr ar Faes yr Eisteddfod yn Y Fenni, ac fe allwch chi ddilyn y cyfan yma ar Cymru Fyw ynghyd a'r newyddion diweddara' am Gymru tan 18:00.