Crynodeb

  • Mae'r cystadlu yn y Pafiliwn yn dechrau am 10:00 ac yn para' tan yn hwyr heno

  • Prif seremoni'r dydd yw defod Cadeirio'r Bardd am 16:30

  • Tro'r Corau Cymysg, Cerdd Dant ac Alaw Werin fydd hi yn ystod y sesiwn hwyr

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd, fe allant gynnwys iaith gref a themâu dadleuol

  1. Tywydd sych ar y fforddwedi ei gyhoeddi 13:00

    Tywydd, BBC Cymru

    Newyddion da sydd gan Rhian Haf am y tywydd: "Bydd hi'n sych i raddau heddiw a dros y penwythnos efo rhywfaint o heulwen - gwasgedd uchel yn golygu tywydd mwy sefydlog.

    "Cawod neu ddwy yn y de pnawn 'ma, ond fydd hi'n sych dros ran helaeth y wlad hefo gwynt ysgafn, ac er bod 'na gymylau uchel ar hyn o bryd, mi neith hi droi'n brafiach yn ystod y dydd. Y tymheredd yn codi i 20C yn Wrecsam a Chaerdydd."

    Am fwy o fanylion ewch i wefan dywydd y BBC.

  2. 'Angen taclo anghydraddoldeb'wedi ei gyhoeddi 12:57

    BBC Cymru Fyw

    Mae mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ym maes iechyd yng Nghymru yn flaenoriaeth yn ôl y Prif Swyddog Meddygol newydd.

    Wrth siarad gyda BBC Cymru am y tro cyntaf, dywedodd Dr Frank Atherton bod "angen sicrhau bod gan bawb yng Nghymru yr un cyfleoedd".

    Dywedodd er bod rhai cleifion wedi gweld darpariaeth gofal yn gwella yma, mae angen gwneud mwy gan fod Cymru yn waeth na Lloegr mewn sawl maes. 

  3. Gwrando etowedi ei gyhoeddi 12:40

    BBC Radio Cymru

    Os colloch chi'r cyngerdd pop i gyfeiliant cerddorfa ar lwyfan pafiliwn yr Eisteddfod neithiwr, gallwch wrando ar y gerddoriaeth a'r cyfweliadau gyda'r artistiaid ar raglen Radio Cymru, Llais y Maes gyda Lisa Gwilym a Huw Stephens.

    Roedd hi'n dipyn o noson yn ôl y rhai oedd yno!

    Yr Ods yn y pafiliwn neithiwrFfynhonnell y llun, Aled Hughes/Twitter
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Yr Ods, Swnami a Candelas yn perfformio i gyfeiliaint Cerddorfa Bop Cymru neithiwr

  4. Oes ganddoch chi gwestiwn?wedi ei gyhoeddi 12:29 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Abertawe gyda diddordeb yn Bastonwedi ei gyhoeddi 12:21 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. D am dysgwr... Dysgwr Cymraeg!wedi ei gyhoeddi 12:13 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Blodwen o Lyn Ebwy, sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers i'r Steddfod ymweld â'i thref yn 2010, yn cymryd y rheol iaith o ddifri!

    Dysgwr Cymraeg
    Disgrifiad o’r llun,

    D am Dysgwr... Dysgwr Cymraeg

  7. Urddo aelodau newydd i'r Orseddwedi ei gyhoeddi 11:39

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Roedd Gwyn Elfyn, sy'n adnabyddus i wylwyr Pobol y Cwm fel y cymeriad Denzil gynt, yn cael ei dderbyn i'r Orsedd bore 'ma. Erbyn hyn mae’n Weinidog ar Gapel Seion Drefach.

    Gwyn Elfyn
  8. Yr Archdderwyddwedi ei gyhoeddi 11:30

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Yr Archdderwydd Geraint Llifon yng nghysgod Mynydd Blorenge, Y Fenni.

    Geraint Llifon
  9. Ceidwad y cleddwedi ei gyhoeddi 11:23

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Robin McBryde, Ceidwad y Cledd, ar yr orymdaith bore 'ma.

    Robin McBryde
  10. Sgwrsiowedi ei gyhoeddi 11:14 Amser Safonol Greenwich+1 5 Awst 2016

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Dewi Pws a Huw Llywelyn Davies yn sgwrsio tra'n cerdded cyn seremoni'r Orsedd.

    Dewi Pws a Huw Llywelyn Davies
  11. Tair cenhedlaeth yn yr Orseddwedi ei gyhoeddi 11:08

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae merch, mam a mamgu yn rhan o seremoni yr Orsedd bore 'ma am 11:00, gyda'r mab Rhys hefyd yn cario'r faner. Dathliad teuluol go iawn!

    Mae Elin Maher yn cael ei derbyn i'r Orsedd heddiw - mae restr lawn o'r anrhydeddau eleni ar wefan yr Eisteddfod, dolen allanol.

    Gorsedd y Beirdd
    Disgrifiad o’r llun,

    Annette Hughes, Efa ac Elin Maher - tair cenhedlaeth

  12. Yr Orsedd ar y fforddwedi ei gyhoeddi 11:07

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    bbcFfynhonnell y llun, bbc
  13. Gwyliwch yr orseddwedi ei gyhoeddi 10:50

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Bale yw'r gorau yn Ewrop?wedi ei gyhoeddi 10:41

    Ai Gareth Bale yw chwaraewr gorau Ewrop?

    Wel yn sicr mae'n un o'r tri uchaf, yn ôl Uefa, sydd wedi ei enwi ar restr fer gwobr Chwaraewr Gorau Ewrop.

    Cristiano Ronaldo ac Antoine Griezmann yw'r ddau arall.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. ...a gan arweinydd Plaid Cymruwedi ei gyhoeddi 10:33

    Y Gemau Olympaidd

  16. Pob lwc gan y Prif Weinidogwedi ei gyhoeddi 10:31

    Y Gemau Olympaidd

    Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dymuno pob lwc i'r holl Gymry fydd yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Rio dros yr wythnosau nesaf.

    Dywedodd bod y garfan bêl-droed wedi "creu hanes" a "gwireddu breuddwyd" yn Euro 2016, a'i fod yn "ffyddiog y bydd y llwyddiant hwn mewn chwaraeon yn parhau".

    Ychwanegodd: "Pob lwc i sêr Cymru - mae'r byd yn eich gwylio felly ewch amdani a rhowch ein gwlad ar y map!"