Crynodeb

  • Theresa May yn galw etholiad cynnar

  • Angen 'cofrestr i amddiffyn anifeiliaid'

  • Pryder am 'sgandal' insiwleiddio tai

  1. Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 17:59 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    BBC Cymru Fyw

    Dyna'r cyfan gan dîm y llif byw am ddiwrnod arall.

    Fe fyddwn ni nôl a'r diweddaraf bore fory am 8.

    Tan hynny, diolch am eich cwmni, a da bo chi.

  2. Alun Cairns yn anelu am lwyddiant arall ym Marathon Llundainwedi ei gyhoeddi 17:55 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    BBC Cymru Fyw

    Ar ddiwrnod prysur iawn yn San Steffan heddiw, mae gan rai ASau ras arall i'w hennill cyn yr etholiad cyffredinol.

    Gyda Marathon Llundain yn digwydd ddydd Sul, mae Aelod Seneddol Bro Morgannwg, Alun Cairns yn gobeithio rhedeg yn gynt na'r un aelod arall.

    Mr Cairns sydd wedi gorffen gyflyma' o'r ASau yn y ddau farathon diwethaf. 

    Bydd Ysgrifennydd Cymru yn un o 16 aelod fydd yn rhedeg drwy strydoedd Llundain, gyda Chris Evans, aelod Islwyn, yr unig aelod arall o Gymru i fentro'r 26 milltir a 385 llath.

    Alun Cairns
  3. Ann Clwyd yn addo sefyll unwaith etowedi ei gyhoeddi 17:50 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Gêm bwysig i'r Barri henowedi ei gyhoeddi 17:43 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    BBC Camp Lawn

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Canwr ifanc o Gymru ar raglen Ellenwedi ei gyhoeddi 17:34 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Wales Online

    Mae WalesOnline yn adrodd bod bachgen 12 oed o Gymru wedi ymddangos ar un o'r rhaglenni teledu mwyaf poblogaidd yn yr Unol Daleithiau, dolen allanol.

    Roedd Reuben de Maid o Gaerdydd yn canu yn fyw ar raglen Ellen, ac fe wnaeth dipyn o argraff ar y cyflwynydd, Ellen DeGeneres, a ddywedodd: “I absolutely love this kid from Wales - his voice, his character, his uniqueness, all of it.

    ReubenFfynhonnell y llun, YouTube/Ellen DeGeneres
  6. 'Oeri'n sydyn' henowedi ei gyhoeddi 17:26 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Tywydd, BBC Cymru

    Mae noson eitha oer o'n blaenau ni yn ôl Llyr Griffiths-Davies:

    "Heno'n oeri'n sydyn wedi iddi nosi. Yn parhau'n gymylog i'r mwyafrif, gydag awel ysgafn. Mewn ambell fan gwledig ma disgwl iddi rewi. Y tymheredd ar y cyfan rhwng 4 a 7C."

    Am fwy o wybodaeth ewch i wefan dywydd y BBC.

  7. Michael Bogdanov yn "ddyn eithriadol"wedi ei gyhoeddi 17:20 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    BBC Cymru Fyw

    Parhau mae'r teyrngedau i'r cyfarwyddwr drama, Michael Bogdanov 78 oed o Gastell-nedd, wedi iddo farw o drawiad ar y galon tra ar ei wyliau ar ynys Paros yng ngwlad Groeg.

    Roedd yn "ddyn eithriadol" medd Kully Thiarai, cyfarwyddwr artistig National Theatre Wales, tra bo cyfarwyddwr artistig Theatr Clwyd, Tamara Harvey'n dweud mai iddo fe mae'r diolch am achub y theatr yn ystod cyfnod ansicr yn y 1990au.

    Michael Bogdanov
  8. Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn penodi prif weithredwrwedi ei gyhoeddi 17:11 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

    Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cyhoeddi mai Len Richards fydd eu prif weithredwr newydd. 

    Mae e ar hyn o bryd yn ddirprwy brif wetihredwr i sefydliad iechyd yn Awstralia. 

    Bydd yn dechrau ar ei swydd newydd ar 19 Mehefin 2017.

    Len RichardsFfynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
  9. Dau yn y llys am achosi marwolaeth drwy yrru'n berygluswedi ei gyhoeddi 17:06 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    BBC Cymru Fyw

    Mae dau ddyn wedi bod o flaen llys y Goron Caerdydd wedi eu cyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, wedi i'r car roedden nhw'n teithio ynddo daro'n erbyn car arall wrth iddo adael gorsaf danwydd yn y Barri. 

    Bu farw mam i ddau o blant ifanc, Jenna Miller, 30 oed, yn y digwyddiad ar 27 Medi 2016. 

    Plediodd Jamie Oaten, 23 oed yn euog i'r cyhuddiad, tra bod Joseph Fettah wedi pledio'n ddieuog. Mae disgwyl i Fettah fynd o flaen Llys y Goron Caerdydd eto ar 2 Hydref 2017.

    gwrthdrawiad
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd Jenna Miller ei lladd yn y gwrthdrawiad ar Ffordd Caerdydd yn y Barri

  10. Etholiad buan: Yr ymateb ar y Post Prynhawnwedi ei gyhoeddi 16:56 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Post Prynhawn
    BBC Radio Cymru

    Nia Thomas fydd yn cyflwyno'r Post Prynhawn rhwng 17:00 a 18:00.

    Bydd sylw ac ymateb helaeth i gyhoeddiad annisgwyl Theresa May o etholiad cyffredinol ar 8 Mehefin, gan wleidyddion a sylwebwyr 

    Nia Thomas
  11. Leanne Wood i ystyried sefyll yn yr etholiad cyffredinol?wedi ei gyhoeddi 16:45 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Twitter

    Wedi iddi gipio'r Rhondda oddi ar Lafur yn etholiad y Cynulliad yn 2016, mae rhai'n gofyn a ydy Leanne Wood yn ystyried sefyll yn yr un etholaeth yn yr etholiad cyffredinol buan ym mis Mehefin.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Cyhoeddi gwasanaeth newyddion newydd 'yn gynt na'r disgwyl'wedi ei gyhoeddi 16:29 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Golwg 360

    Mae Golwg 360 yn adrodd fod darlithydd cyfryngau wedi penderfynu mentro’n gynt na’r disgwyl gyda’i gynllun i sefydlu gwasanaeth newyddion ar y we yn yr iaith Saesneg, dolen allanol.

    Mae'n debyg mai bwriad gwreiddiol Ifan Morgan Jones oedd cyhoeddi ei wasanaeth, Nation.cymru, dolen allanol ar ddechrau blwyddyn wleidyddol ac academaidd newydd yn yr hydref eleni.

    Ond mae cyhoeddiad Theresa May ei bod yn gobeithio ennyn cefnogaeth Ty’r Cyffredin i gynnal etholiad cyffredinol brys ar Fehefin 8, wedi ei sbarduno i fynd amdani’n syth, dolen allanol, meddai.  

    Ifan Morgan Jones
  13. Bachgen yn 'bygwth ei fam â chyllell' yng Nghaernarfonwedi ei gyhoeddi 16:12 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Daily Post

    Mae'r Daily Post yn dweud fod yr heddlu'n ymchwilio wedi i fachgen 15 oed fygwth ei fam â chyllell mewn caffi yng Nghaernarfon dros benwythnos Gŵyl y Banc, dolen allanol

    Mae'n debyg bod y bachgen hefyd wedi tanio larwm tân Caffi Maes, Caernarfon ddydd Sadwrn, a difrodi dodrefn y caffi yn dilyn ffrae gyda'i fam a dau weithwyr cynorthwyol. 

    Bu'n rhaid i gogydd y caffi atal y llanc tra bod heddwas nad oedd ar ddyletswydd ar y pryd wedi cymryd y gyllell oddi arno.

    Maes CaernarfonFfynhonnell y llun, Google
  14. UKIP i gystadlu 'ym mhob sedd'wedi ei gyhoeddi 15:57 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    BBC Cymru Fyw

    Mae arweinydd UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton, wedi dweud y bydd ei blaid yn ymgeisio am bob sedd yng Nghymru a Lloegr yn yr etholiad cyffredinol.

    Dywedodd nad oedd am siarad dros Yr Alban, "ond yn Lloegr a Chymru byddwn yn brwydro am bob sedd".

    Hamilton
  15. Cynllun am ganolfan llesiant i gleifion arennauwedi ei gyhoeddi 15:39 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    BBC Cymru Fyw

    Fe allai canolfan gwerth £4m ar gyfer 10,000 o bobl sy'n byw gyda chlefyd yr arennau yng Nghymru fod y gyntaf o'i bath yma.

    Bydd taith gerdded 450 milltir (724 km) yn dechrau ddydd Mawrth, ac fe fydd y daith yn ymweld â phob un o'r 16 o ganolfannau dialysis Cymru i godi ymwybyddiaeth am y cyflwr.

    Gyda llawer o ddioddefwyr yn gorfod treulio hyd at chwech awr ar ddialysis dair gwaith yr wythnos, nid yw'n bosib i lawer fynd ar eu gwyliau.

    Dialysis
  16. May wedi gwadu galw etholiad 'bum gwaith'wedi ei gyhoeddi 15:25 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Taro'r Post
    BBC Radio Cymru

    Dywedodd y sylwebydd gwleidyddol, Gareth Hughes wrth raglen Taro'r Post fod cyhoeddiad Theresa May'n mynd yn hollol groes i'r hyn mae hi wedi ei ddweud hyd yma. 

    "Mae hi wedi gwadu bum gwaith ei bod am gynnal etholiad cyffredinol, y tro diwethaf ym mis Mawrth.” 

    Dywedodd Mr Hughes fod Mrs May yn gobeithio cael "mwyafrif helaeth", ond hefyd “tawelu’r rhai yn y dde eithaf o’i phlaid” am na fydd yn rhaid iddi fod mor ddibynnol arnyn nhw.

    Theresa May
  17. Cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiadwedi ei gyhoeddi 15:13 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Wales Online

    Mae WalesOnline yn adrodd fod Heddlu'r De wedi cyhoeddi enw'r dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ger Rhydaman., dolen allanol

    Roedd Christopher Sudlow yn 63 oed ac yn dod o Sir Northampton.

    Bu farw ddydd Iau 13 Ebrill ar y ffordd rhwng Rhydaman a Chlydach. Doedd dim un car arall yn rhan o'r ddamwain.

    damwain
  18. Diwedd cyfnod i Lafur yng Nghymru?wedi ei gyhoeddi 15:09 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Twitter

    Mae'r Athro Roger Scully yn darogan y gallai'r etholiad fod yn un hanesyddol yng Nghymru.

    Mae'n gofyn a fydd Llafur yn cael llai na 20 o'r 40 sydd ar gael yma, ar ôl i Theresa May alw am gynnal etholiad ar 8 Mehefin.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Pwy fydd y Cymry yng ngharfan y Llewod?wedi ei gyhoeddi 14:53 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    BBC Camp Lawn

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Ymateb 'cymysg' y marchnadoedd arian i'r etholiadwedi ei gyhoeddi 14:41 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Taro'r Post
    BBC Radio Cymru

    Ar raglen Taro'r Post dywedodd yr arbenigwr ariannol, Huw Elfed Jones fod y darlun yn un cymysg o ran ymateb y marchnadoedd i gyhoeddiad Theresa May.

    Dywedodd fod y cyfranddaliadau yn wan iawn ond bod y “bunt wedi gwella'n arw”.

    Dywedodd hefyd mai’r disgwyl yw y bydd May yn ennill yr etholiad ond nad ydy hi wedi dweud a yw hi o blaid neu yn erbyn Brexit caled.

    “Mae’r marchnadoedd yn edrych - ddim cymaint ar yr etholiad - ond beth fydd yn digwydd wedyn.”

    Arian