Crynodeb

  • Theresa May yn galw etholiad cynnar

  • Angen 'cofrestr i amddiffyn anifeiliaid'

  • Pryder am 'sgandal' insiwleiddio tai

  1. Penderfynu ar yr etholiad wrth 'gerdded yng Nghymru'wedi ei gyhoeddi 14:29 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Diwedd neges twitter
  2. Darganfod corff dyn yn Wrecsamwedi ei gyhoeddi 14:23 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod corff dyn yn ei 50 wedi ei ddarganfod yn Wrecsam y bore 'ma. Mae ymchwiliad wedi dechrau.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Etholiad: Cam gwleidyddol doeth?wedi ei gyhoeddi 14:09 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Taro'r Post
    BBC Radio Cymru

    Ar Taro'r Post, dywedodd yr Athro Deian Hopkin bod penderfyniad Theresa May i alw etholiad yn "gam gwleidyddol doeth iawn o'i safbwynt hi ond sut mae cyfiawnhau hyn o fewn yr addewidion a'r cyfansoddiad?"

    Ychwanegodd: "Ond beth yw gwleidyddiaeth ond newid y rheolau?"

  4. Rhybudd undeb yr FUW am amseru'r etholiadwedi ei gyhoeddi 13:59 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    BBC Cymru Fyw

    Mae llywydd undeb amaethwyr yr FUW, Glyn Roberts yn rhybuddio na ddylai proses Brexit ddioddef yn sgil y cyhoeddiad am etholiad cyffredinol buan.

    "Fydd amseru'r etholiad yma'n gwneud dim i helpu'r broses o sefydlu fframwaith amaeth yn y DU yn dilyn Brexit, ac rydym yn annog Llywodraeth San Steffan i beidio ag anwybyddu'r materion pwysig.

    "Fel llais annibynnol i ffermio yng Nghymru, bydd yr FUW yn parhau i atgoffa pob plaid o bwysigrwydd yr economi wledig a pham bod ffermio'n bwysig, a bydd yn cysylltu â'r ymgeiswyr i drafod dyfodol amaethyddiaeth dros yr wythnosau nesaf."

    Amaeth
  5. Etholiad buan: Goblygiadau i ail refferendwm Yr Alban?wedi ei gyhoeddi 13:45 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Taro'r Post
    BBC Radio Cymru

    Mae'r Athro Richard Wyn Jones wedi dweud y bydd hi'n anodd i Theresa May wrthod cais Nicola Sturgeon i gynnal ail refferendwm ynglŷn ag annibyniaeth Yr Alban bellach.

    Fe wnaeth Mrs May wrthod y cais yn ystod trafodaethau Brexit gan ddweud y byddai'n achosi ansefydlogrwydd. Ond dywedodd yr Athro Jones bod ganddi "ddim hygrededd gwrthod y refferendwm" erbyn hyn ar Taro'r Post.

    Ychwanegodd y byddai person sinigaidd yn credu bod Mrs May yn teimlo bod ganddi "obaith go iawn" o gael mwyafrif clir am fod y blaid Lafur ar ei hôl hi yn y polau piniwn.

    RWJ
  6. 'Daw hyfryd fis Mehefin cyn bo hir...'wedi ei gyhoeddi 13:42 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Neil Hamilton yn croesawu etholiad buanwedi ei gyhoeddi 13:28 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    BBC Cymru Fyw

    Dywedodd llefarydd ar ran UKIP yng Nghymru fod arweinydd y blaid yn y Cynulliad, Neil Hamilton, wedi croesawu'r newyddion am etholiad cyffredinol buan. 

    "Mae hwn yn gyfle gwych i'r etholwyr gael gwared o'r Aelodau Seneddol yng Nghymru wnaeth bleidleisio dros aros, ac ethol ASau UKIP a fydd yn cynrhychioli eu buddiannau yn y senedd," meddai'r llefarydd 

    Neil Hamilton
  8. Plaid i 'sicrhau llais cryfach nag erioed'wedi ei gyhoeddi 13:20 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    BBC Cymru Fyw

    Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood fod hwn yn gyfle i Blaid Cymru roi lles Cymru'n gyntaf: "Y mwyaf o ASau fydd gan Blaid Cymru, y cryfaf fydd llais Cymru. 

    "Mae'r brif wrthblaid yn rhanedig ac yn methu â chytuno ar eu safbwynt ar y rhan fwyaf o benderfyniadau.

    "Bydd Plaid Cymru'n wrthblaid real i'r Torïaid. Bydd Plaid Cymru'n ymgeisio ymhob sedd ym mis Mehefin, ac yn sicrhau fod gan Gymru lais cryfach nag erioed."

    Leanne Wood
  9. Etholiad buan 'yn gyfle i osgoi Brexit caled'wedi ei gyhoeddi 13:07 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    BBC Cymru Fyw

    Wrth ymateb i'r cyhoeddiad am etholiad buan, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Mark Williams, fod hyn yn gyfle i newid cyfeiriad y wlad. 

    "Os ydych chi eisiau osgoi Brexit caled trychinebus. Os ydych chi eisiau cadw Prydain yn y farchnad sengl. Os ydych chi eisiau Prydain sy'n agored, yn oddefgar ac yn unedig, dyma'ch cyfle."

    Mark Williams
  10. Dadansoddi amseru cyhoeddi'r etholiadwedi ei gyhoeddi 13:02 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    BBC Cymru Fyw

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Etholiad buan: Yr ymateb ar Taro'r Postwedi ei gyhoeddi 12:50 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Taro'r Post
    BBC Radio Cymru

    Aled ap Dafydd fydd yn y gadair rhwng 13:00 a 14:00 ar Taro'r Post ar BBC Radio Cymru i gael yr ymateb llawn i'r cyhoeddiad y bydd Etholiad Cyffredinol yn cael ei gynnal.

    Cyhoeddodd Theresa May y bydd y bleidlais yn cael ei chynnal ar 8 Mehefin, a hynny, meddai, er mwyn cael "sicrwydd a sefydlogrwydd".

    Aled ap
  12. Penderfynu ar etholiad yng nghefn gwlad Cymru?wedi ei gyhoeddi 12:41 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Twitter

    Mae 'na awgrym bod Theresa May wedi dod i benderfyniad am yr etholiad tra ar wyliau diweddar yng Nghymru.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. 'Gwendid Llafur yn arwain at etholiad' medd UKIPwedi ei gyhoeddi 12:37 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Twitter

    Arweinydd UKIP, Paul Nuttall yn croesawu'r cyhoeddiad am etholiad buan, ond yn disgrifio'r penderfyniad fel un sinigaidd gan y Ceidwadwyr, wedi ei yrru gan wendid Llafur yn hytrach nag er lles Prydain.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Etholiad yn 'gyfle i newid cyfeiriad y wlad'wedi ei gyhoeddi 12:32 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Twitter

    Wrth ymateb i gyhoeddiad Theresa May, dywedodd arweinydd y Democraitiad Rhyddfrydol, Tim Farron, bod yna gyfle nawr "i newid cyfeiriad".

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Blog Vaughan: 'Co ni off te'wedi ei gyhoeddi 12:27 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    BBC Cymru Fyw

    Fe lwyddodd cyhoeddiad Theresa May am etholiad cyffredinol i synnu'r gohebwyr mwyaf craff.

    Mae hyd yn oed Vaughan Roderick yn cyfaddef nad oedd wedi rhagweld hyn.

    "Bant a ni eto felly ac yn y cyfnod cythryblus hwn pwy sydd i ddweud 'na fydd na sawl tro trwstan rhwng nawr a dydd y farn fawr ym mis Mehefin."

    Vaughan Roderick
  16. Etholiad yn 'gyfle i bleidleisio dros fuddiannau Cymru'wedi ei gyhoeddi 12:22 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Twitter

    Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, yn dweud y bydd gan bobl nawr gyfle i bleidleisio "dros yr hyn sydd orau i Gymru".

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  17. 'Tro pedol go sylweddol'wedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Seneddol BBC Cymru

    Gohebydd Seneddol BBC Cymru, Elliw Gwawr, sy'n dadansoddi wedi cyhoeddiad Theresa May:

    "Beth oedd yn yr awyr yn Nolgellau dros y Pasg sgwn i?

    "Llai na mis yn ôl roedd Downing Street yn gadarn na fyddai etholiad: "Dyw o ddim yn rhywbeth mae hi'n ei gynllunio, nag eisiau ei wneud."

    "Ond ar ôl gwyliau cerdded ym Meirionnydd dros ŵyl y banc mae Theresa May wedi dod 'nol i San Steffan yn barod am frwydr.

    "Mae'n gyhoeddiad sydd wedi synnu pawb. Does dim dwywaith bod hwn yn dro pedol go sylweddol.

    "Ond wrth wneud datganiad y tu allan i Downing Street, dywedodd bod y wlad angen etholiad nawr, a hynny oherwydd Brexit."

    Cliciwch yma i ddarllen mwy.

  18. Etholiad cynnar i arwain at 'sicrwydd ac undod'wedi ei gyhoeddi 12:09 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    BBC Cymru Fyw

    Wrth ymateb i gyhoeddiad Theresa May, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies, bod hyn "yn gyfle i bleidleisio dros yr arweinyddiaeth gref a chadarn sydd ei hangen ar Gymru a Phrydain i'n harwain drwy Brexit a thu hwnt". 

    "Rydym angen sicrwydd ac undod, nid gemau gwleidyddol, a bydd pob pleidlais i'r Prif Weinidog ar 8 Mehefin yn cryfhau sefyllfa Prydain yn y trafodaethau sydd i ddod.

    "Theresa May yn unig sydd â'r cynllun a'r arweinyddiaeth i sicrhau'r cytundeb gorau i Brydain dramor a dêl well i bobl gyffredin."

    Andrew RT
  19. Etholiad Cyffredinol yn sioc i'r gohebwyrwedi ei gyhoeddi 12:03 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Twitter

    Fydd 'na ddim gorffwys am y misoedd nesaf, wedi i Theresa May gyhoeddi y bydd Etholiad Cyffredinol cynnar.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter 2

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter 2
  20. 40 AS i gynrhychioli Cymru wedi'r etholiadwedi ei gyhoeddi 11:57 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r etholiad cynnar yn golygu y bydd gan Gymru 40 Aelod Seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin wedi'r bleidlais ar 8 Mehefin, ac nid y 29 oedd i fod i gynrhychioli'r wlad yn dilyn newid ffiniau etholaethol erbyn etholiad 2020.

    Mae yna ddyfalu hefyd a fydd rhai o'r aelodau seneddol sydd wedi cynrhychioli eu hetholaethau hiraf yng Nghymru yn sefyll y tro hwn.

    ffiniau etholaethol