RSPCA: Angen 'cofrestr i amddiffyn anifeiliaid'wedi ei gyhoeddi 08:04 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017
BBC Cymru Fyw
Ein prif stori y bore 'ma yw galwad elusen i sefydlu cofrestr er mwyn cofnodi enwau pobl sydd wedi cyflawni troseddau yn erbyn anifeiliaid.
Daw wedi beirniadaeth nad oes ffordd glir o orfodi gwaharddiad ar y troseddwyr.
Mae'r RSPCA yn dweud bod 11 o bobl wedi eu herlyn am beidio cadw at eu gwaharddiad yn y tair blynedd ddiwethaf, ond maen nhw'n pryderu y gallai'r ffigwr fod yn llawer uwch.