Crynodeb

  • Theresa May yn galw etholiad cynnar

  • Angen 'cofrestr i amddiffyn anifeiliaid'

  • Pryder am 'sgandal' insiwleiddio tai

  1. Corbyn yn croesawu penderfyniad etholiadwedi ei gyhoeddi 11:49 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    BBC Cymru Fyw

    Mae arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, wedi croesawu penderfyniad Theresa May i gynnal Etholiad Cyffredinol.

    Dywedodd y byddai'n rhoi "cyfle i bobl Prydain bleidleisio dros lywodraeth fydd yn rhoi'r mwyafrif yn gyntaf".

    "Bydd Llafur yn cynnig dewis amgen effeithiol i lywodraeth sydd wedi methu ag ail-adeiladu'r economi, sydd wedi achosi i safonau byw ddirywio ac wedi gwneud toriadau niweidiol i'n hysgolion a'r gwasanaeth iechyd."

    Corbyn
  2. Cyn ysgrifennydd yn croesawu'r cyhoeddiadwedi ei gyhoeddi 11:39 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Twitter

    Mae cyn Ysgrifennydd Cymru wedi croesawu cyhoeddiad Theresa May y bydd Etholiad Cyffredinol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Etholiad Cyffredinol: Ymateb Carwyn Joneswedi ei gyhoeddi 11:31 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Twitter

    Mae Prif Weinidog Cymru ynd weud bod yr alwad am etholiad yn annisgwyl ac "od".

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter 2

    Diwedd neges twitter 2
  4. Theresa May yn galw Etholiad Cyffredinolwedi ei gyhoeddi 11:22 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    BBC Cymru Fyw

    Wrth gyhoeddi ei phenderfyniad ar Downing Street, dywedodd Theresa May bod angen sicrwydd wrth i'w llywodraeth geisio gweithredu proses Brexit.

    "Mae'r wlad yn dod at ei gilydd ond nid yw San Steffan," meddai.

    Bydd pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin 'fory.

  5. Etholiad Cyffredinol: Y cam nesafwedi ei gyhoeddi 11:14 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Theresa May yn bwriadu cynnal Etholiad Cyffredinolwedi ei gyhoeddi 11:10 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r Prif Weinidog Theresa May wedi cyhoeddi y bydd yn gofyn i Dŷ'r Cyffredin bleidleisio o blaid cynnal etholiad cyffredinol ar fyr rybudd ar 8 Mehefin.

    O dan reolau'r Ddeddf Cyfnod Seneddol Sefydlog, does gan y Prif Weinidog ddim hawl i gyhoeddi etholiad cyffredinol ar fyr rybudd heb gefnogaeth aelodau Tŷ'r Cyffredin.

    Dywedodd ei bod am gynnal yr etholiad er mwyn cael "sicrwydd a sefydlogrwydd" i'r DU.

    MayFfynhonnell y llun, Reuters
  7. NEWYDD DORRI: May i gynnal Etholiad Cyffredinolwedi ei gyhoeddi 11:06 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    BBC Cymru Fyw

    Mae Theresa May wedi cyhoeddi ei bod am alw etholiad cyffredinol ar 8 Mehefin.

    Newydd dorri
  8. May am gynnal etholiad cyffredinol?wedi ei gyhoeddi 11:02 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Twitter

    Gohebydd Seneddol y BBC, Laura Kuenssberg yn dweud bod sïon y bydd Theresa May yn cyhoeddi y bydd etholiad cyffredinol ym mis Mehefin.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Etholiad cyffredinol ar y gorwel?wedi ei gyhoeddi 10:44 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Twitter

    Mae rhai yn dyfalu bod y Prif Weinidog Theresa May yn mynd i alw etholiad cyffredinol pan fydd yn gwneud datganiad y tu allan i Downing Street am 11:15. 

    Ond fel yr esbonia gohebydd seneddol BBC Cymru, Elliw Gwawr, fyddai hi ddim yn broses hawdd.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  10. Theresa May i wneud datganiad y bore 'mawedi ei gyhoeddi 10:29 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    BBC Cymru Fyw

    Bydd y Prif Weinidog Theresa May yn gwneud datganiad yn Downing Street am 11:15 y bore 'ma.

    Yn wahanol i'r arfer, ni wnaeth y llywodraeth gyhoeddi am beth y byddai'n siarad.

  11. 'Bywyd ar stop' wrth aros am lawdriniaethwedi ei gyhoeddi 10:13 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Mae gwraig o Langefni yn dweud fod ei bywyd ar stop oherwydd ei bod hi'n disgwyl cael pen-glin newydd.

    Aeth Avril Parry i weld ei meddyg ddwy flynedd yn ôl cyn cael ei rhoi ar y rhestr aros am lawdriniaeth yn Ysbyty Gwynedd.

    Dywedodd wrth raglen y Post Cyntaf bod y boen yn ddifrifol: "Mae'n ofnadwy. Does 'na ddim pleser wrth wneud dim byd - dwi'n methu cerdded llawer, mynd am dro, gwaith tŷ."

  12. Cwpan Cynghrair y Pencampwyr ar daithwedi ei gyhoeddi 09:49 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    BBC Wales News

    Bydd Cwpan Cynghrair y Pencampwyr yn mynd ar daith o amgylch Cymru dros yr wythnosau nesaf.

    Bydd cyfle i bobl weld y tlws yn Abertawe, Aberystwyth, Portmeirion a nifer o leodiadau eraill.

    Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn teithio gyda cyn-chwaraewr Cymru, Ian Rush, i'r Swistr ar 21 Ebrill i gasglu'r tlws o bencadlys UEFA. 

    trophyFfynhonnell y llun, BBC Sport
  13. Myfyrwyr yn rhan o ddatblygiad campws newyddwedi ei gyhoeddi 09:30 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    BBC Wales News

    Mae myfyrwyr wedi bod yn chwarae rhan ganolog yn natblygiad campws newydd eu prifysgol yn Abertawe.

    Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn adeiladu campws newydd werth £300m yn y ddinas.

    Mae tri o fyfyrwyr y brifysgol nawr yn astudio wrth weithio gyda'r datblygwyr, ar ôl cael swyddi yn gweithio ar y prosiect.

    Datblygiad newydd
  14. Canlyniadau cymysg i glybiau Cymruwedi ei gyhoeddi 08:42 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Pêl-droed, BBC Cymru

    Yn y Bencampwriaeth enillodd Caerdydd 1-0 gartref yn erbyn Nottingham Forrest ddoe. Mae'r Adar Gleision yn 13eg yn y tabl, a bellach yn sicr o aros yn yr adran ar gyfer y tymor nesaf.

    Roedd buddugoliaeth i Wrecsam hefyd oddi cartref yn erbyn Efrog, 1-3. Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn 11eg gyda dwy gêm o'r tymor yn weddill.

    Ond fe gafodd Casnewydd gweir o 6-1 yn erbyn Plymouth, sy'n golygu bod yr Alltudion un safle o waelod Adran Dau gydag ond tair gêm i'w chwarae.

    Gunnarsson
    Disgrifiad o’r llun,

    Aron Gunnarsson yn dathlu ei gôl yn erbyn Nottingham Forrest ddoe

  15. AS yn codi pryder am 'sgandal' insiwleiddio taiwedi ei gyhoeddi 08:34 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    BBC Cymru Fyw

    Mae AS o Gymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i gymryd cyfrifoldeb am y "llanast ofnadwy" sy'n prysur ddatblygu i fod yn "sgandal", ar ôl i waliau tai oedd yn anaddas ar gyfer y gwaith gael eu hinswleiddio.

    Yn ôl Hywel Williams, mae miliynau o berchnogion tai ym Mhrydain yn dioddef problemau difrifol gyda thamprwydd a lleithder o achos sgil effeithiau insiwleiddio.

    Mae AS Arfon bellach yn galw ar y llywodraeth i weld beth yn union yw maint y broblem, cynorthwyo'r rhai sydd wedi eu heffeithio a thalu iawndal priodol.

    Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod wedi ymrwymo i sicrhau fod cwsmeriaid wedi eu hamddiffyn wrth ddewis insiwleiddio eu tai.

    Difrod
  16. Cyfarwyddwr theatr, Michael Bogdanov, wedi marwwedi ei gyhoeddi 08:24 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r cyfarwyddwr theatr o Gymru, Michael Bogdanov, wedi marw yn 78 oed. Bu farw tra roedd ar ei wyliau yng Ngwlad Groeg.

    Yn wreiddiol o Gastell Nedd, roedd yn gyfarwyddwr ar nifer o brif theatrau a chwmnïau perfformio'r byd gan gynnwys y Royal Shakespeare a Thai Opera Covent Garden a La Scala, a theatr genedlaethol fwyaf yr Almaen yn Hamburg.

    Mae'n gadael pump o blant.

  17. Prysurdeb ar y ffyrddwedi ei gyhoeddi 08:17 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Teithio BBC Cymru

    Yn Ewlo, Sir y Fflint, mae ‘na draffig trwm ar yr A494 tua’r dwyrain ger y troad am Fwcle

    Yng Nghaerdydd mae ‘na draffig trwm ar yr A4054, Stryd y Bont ger Ffordd Llantrisant; ar yr A4232 tua’r gogledd ger cyffordd 33 yr M4, Gorllewin Caerdydd, a hefyd ar yr A470 tua’r de cyn cyffordd 32 yr M4, cyfnewidfa Coryton.

  18. 'Sych, braf a heulog'wedi ei gyhoeddi 08:09 Amser Safonol Greenwich+1 18 Ebrill 2017

    Tywydd, BBC Cymru

    Rhagolygon y tywydd gan Robin Owain Jones y bore 'ma: "Bydd hi’n ddiwrnod sych, braf a heulog i rannau helaeth o'r wlad, er yn troi ychydig yn fwy cymylog o’r gogledd-orllewin yn ystod y pnawn, gan droi yr heulwen yn fwy niwlog o bosib.

    "Y tymheredd yn 13C ar ei uchaf."

    Am fwy o wybodaeth ewch i wefan dywydd y BBC.