Crynodeb

  • Y Cadeirio ydy prif seremoni dydd Gwener yn yr Eisteddfod

  • Gwyliwch y cystadlu hwyr yn fyw o'r pafiliwn drwy'r linc uchod

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd fe allant gynnwys iaith gref a/neu themâu sydd ddim yn addas i blant

  1. Gwyliwch y cystadlu hwyr - a diolch!wedi ei gyhoeddi 18:33 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Dyna ni o ran y llif byw am eleni.

    Ond mae modd i chi wylio'r cystadlu hwyr yn fyw o lwyfan y Pafiliwn drwy glicio'r ddolen uchod.

    Diolch am ein dilyn ni. O Lanrwst, hwyl fawr!

  2. Diolch i'r Archdderwyddwedi ei gyhoeddi 18:31 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Wrth drafod ei benderfyniad i fynd ar drywydd Iolo Morganwg yn y gwaith, dywedodd: “I fi mae Iolo yn un o’r Cymry mwyaf erioed ac un nodwedd arbennig oedd yn perthyn iddo fe oedd ei hyder.

    "A dwi’n gobeithio bod yr ysbryd hyderus yna, a dwi’n teimlo bod e, yn dechre cael gafael arnon ni fel cenedl."

    Ychwanegodd y prifardd fod neges wleidyddol yn rhedeg drwy’r darn: “Ma' Iolo yn dad i genedlaetholdeb Cymru ac mae'n amlwg bod ei neges e yn neges all ysbrydoli ni i gerdded 'mlaen er gwaethaf pob Brexit a phob Prydeindod.

    “Mae hon mewn ffordd yn ergyd i oedraniaeth yndyw hi? Ma’ pobl yn teimlo bod rhai sy’n mynd 'mlaen mewn oedran, nad oes cyfraniad 'da nhw, ond ma' cyfraniad dal i fod, a diolch i’r drefn ma'r 'bambox' fan hyn yn dal i weithio yn weddol! Ond dwi’n edmygu’n fawr gwaith y bobl ifanc sy’n ein dilyn ni fel byddin.”

    Diolchodd y Prifardd hefyd i’r Archdderwydd newydd, Myrddin ap Dafydd, am ei waith wrth dywys seremoni’r cadeirio, a holl seremonïau yn ystod yr wythnos, mewn ffordd mor “urddasol”.

  3. Maes ar agor ddydd Sadwrnwedi ei gyhoeddi 18:21 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae trefnwyr yr Eisteddfod yn pwysleisio bydd y Maes ar agor yfory - yn groes i rai sibrydion.

  4. Diwedd y Seremoniwedi ei gyhoeddi 17:49 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Dyna ni ddiwedd y seremoni Cadeirio. Llongyfarchiadau i T James Jones am ennill y Gadair eleni.

  5. Cyfarch y Barddwedi ei gyhoeddi 17:39 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Y Prifardd Gruff Sol, enillydd y Gadair y llynedd, sy'n cyfarch Prifardd Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.

    Gruff Sol
  6. Cerdd y Cadeiriowedi ei gyhoeddi 17:34 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Karen Owen sydd bellach yn darllen Cerdd y Cadeirio.

    Caren Owen
  7. Dwy Gadair a dwy Goronwedi ei gyhoeddi 17:29 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Dyma’r eilwaith i Jim Parc Nest ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, yn dilyn ei lwyddiant yn Eisteddfod Sir y Fflint 12 mlynedd yn ôl yn 2007.

    Mae hefyd wedi ennill Coron yr Eisteddfod ddwywaith, yn Abergwaun yn 1986 a Chasnewydd yn 1988.

    Jim Parc Nest
  8. T James Jones yn ennill y Gadairwedi ei gyhoeddi 17:27 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Llongyfarchiadau i T James Jones (Jim Parc Nest) am ennill y Gadair dan y ffug enw Wil Tabwr.

    T James Jones
  9. Mae teilyngdod!!wedi ei gyhoeddi 17:21 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Cadarnhad bod teilyngdod ac mai Wil Tabwr sy'n cipio'r Gadair eleni.

    Llwyfan
  10. 'Nifer lleiaf ers degawd'wedi ei gyhoeddi 17:12 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Y Beirniaid eleni yw Llion Jones, Ieuan Wyn a Myrddin ap Dafydd.

    Dywedodd Llion Jones mai dim ond saith wnaeth geisio am y Gadair eleni - y nifer lleiaf ers degawd.

    Beirniaid
  11. Newid enw Gorsedd y Beirddwedi ei gyhoeddi 17:09 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Moment hanesyddol. Yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd yn cyhoeddi o'r llwyfan bydd Gorsedd y Beirdd yn newid ei enw.

    "Mae'n hyfryd cyhoeddi...mai'r enw bellach ydy Gorsedd Cymru," meddai'r Archdderwydd i gymeradwyaeth twymgalon.

    Cafodd y penderfyniad ei gadarnhau gan Lys yr Eisteddfod i arddel enw newydd a gafodd ei awgrymu gan Fwrdd yr Orsedd "ddwy awr yn ôl", meddai.

    Myrddin ap DafyddFfynhonnell y llun, bbc
  12. Seremoni'r Cadeirio wedi dechrauwedi ei gyhoeddi 17:01 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae seremoni'r Cadeirio ar lwyfan y pafiliwn wedi dechrau

  13. Ethol Llywydd y Llys newyddwedi ei gyhoeddi 16:55 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae Ashok Ahir wedi ei ethol yn Llywydd y Llys a Chadeirydd Bwrdd Rheoli'r Eisteddfod Genedlaethol.

    Fo oedd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod llynedd ac mae’n Gyfarwyddwr Cyfathrebu Llywodraeth y DU yng Nghymru ac wedi bod yn Aelod o Fwrdd Rheoli’r Eisteddfod ers 2016.

    Dywedodd ei fod “wrth fy modd” cael ei ethol i’r rôl gan Lys y Brifwyl.

    “Mae’r Eisteddfod yn agos iawn at fy nghalon ac rwyf wrth fy modd yn dod yn flynyddol gyda fy nheulu. Mae’n lle ardderchog i rai sydd wedi dysgu Cymraeg fel fi i ymarfer a defnyddio eu Cymraeg.

    “Rydw i’n awyddus iawn hefyd i weld yr Eisteddfod yn denu cynulleidfaoedd newydd o bob cymuned yng Nghymru a thu hwnt – yn enwedig pobl ifanc ac o gefndiroedd gwahanol – a dangos iddynt bo croeso i bawb ar y Maes.”

    Ashok Ahir
  14. 'Steddfod' yn dweud diolchwedi ei gyhoeddi 16:40 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Wigwam mewn... wigwam!wedi ei gyhoeddi 16:35 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Er bod Maes B wedi cael ei ganslo, mae'r arlwy yn parhau draw yng nghaffi Maes B.

    Wigwam yw'r band sydd wrthi'n diddanu'r dorf - sydd hefyd yn cael cyfle i gysgodi o'r cawodydd.

    Wigwam
  16. 'Deall y penderfyniad i gau Maes B'wedi ei gyhoeddi 16:20 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae Gwyn Rosser o'r band Los Blancos, oedd i fod yn perfformio ym Maes B nos Sadwrn, yn dweud eu bod yn deall pam fod yr Eisteddfod wedi gwneud eu penderfyniad.

    "Yn amlwg da ni'n hollolgutted bo' ni ddim yn chware ond ry'n ni'n deall pam," meddai.

    "Yn amlwg mae diogelwch ac ati'n dod gyntaf ond dwi jest yn teimlo bechod mawr dros fandiau fel Mellt nawr.

    "Gobeithio bo' nhw ddim wedi colli'r cyfle i headlinio Maes B nawr."

    Los Blancos
    Disgrifiad o’r llun,

    Dywedodd Gwyn Rosser (ail o'r dde) ei fod yn teimlo dros y bandiau oedd i fod yn chwarae ym Maes B

  17. 'Angen gwneud mwy i amddiffyn pobl ifanc'wedi ei gyhoeddi 16:08 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae Cymdeithas y Cymod wedi bod yn cynnal trafodaeth draw ym Mhabell Cymdeithasau 1 ynglŷn â recriwtio plant Cymru i'r lluoedd arfog.

    Roedd y panel yn cynnwys y Prifardd Mererid Hopwood, y Comisiynydd Plant, Sally Holland a'r Aelod Seneddol, Liz Saville Roberts.

    Dywedodd Ms Holland bod ymuno â'r fyddin fel person ifanc yn risg a bod rhaid gwneud mwy i amddiffyn pobl ifanc.

    "Mae angen i ni sicrhau ein bod ni'n cynnig llwybrau gwell i'n pobl ifanc, yn enwedig rhai o gefndiroedd difreintiedig, fel nad oes rhaid iddyn nhw droi at y fyddin," meddai.

    panel
  18. Ad-daliad Maes Bwedi ei gyhoeddi 15:54 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Twitter

    Mae sawl un ar y cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn holi os oes bwriad i ad-dalu arian tocynnau yn sgil y penderfyniad i gau Maes B.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Prawf i'r Archdderwyddwedi ei gyhoeddi 15:45 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Radio Cymru

    Mae Radio Cymru wedi rhoi prawf i'r Archdderwydd newydd, Myrddin ap Dafydd.

    Ydy o'n adnabod aelodau'r Orsedd yn ôl eu henwau barddol?

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Cyfartaledd i ferchedwedi ei gyhoeddi 15:32 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Ym Mhabell y Cymdeithasau mae sgwrs yn cael ei chynnal ar faint o gynnydd sydd wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf o ran cyfartaledd i fenywod mewn gwahanol agweddau o’u bywyd.

    Fe wnaeth Helen Antoniazzi o Chwarae Teg dynnu sylw at y gwahaniaeth o hyd mewn meysydd fel gwleidyddiaeth, ble mae canran y cynghorwyr benywaidd yn parhau’n isel er bod y rhan fwyaf o staff cyngor yn ferched.

    Yn ôl y colofnydd Beca Brown mae “anghyfartaledd yn rhywbeth sy’n dilyn pob merch drwy bob cyfnod o’u bywyd”, ac mae’r hinsawdd wleidyddol bresennol yn golygu bod pobl yn gynyddol debygol o sarhau merched ar y cyfryngau cymdeithasol.

    Mae Gwenno Ffrancon o Academi Hywel Teifi yn trafod rhywfaint o ymchwil sydd wedi cael ei wneud gan ymgyrchwyr fel Caroline Criado-Perez, sy’n dangos bod menywod dan anfantais mewn sefyllfaoedd meddygol gan mai corff dyn sy’n aml yn cael ei ddefnyddio fel y ‘norm’ mewn triniaeth.

    Digwyddiad Cyfartaledd