Crynodeb

  • Y Cadeirio ydy prif seremoni dydd Gwener yn yr Eisteddfod

  • Gwyliwch y cystadlu hwyr yn fyw o'r pafiliwn drwy'r linc uchod

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd fe allant gynnwys iaith gref a/neu themâu sydd ddim yn addas i blant

  1. Y tywyddwedi ei gyhoeddi 09:20 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Fe ddaeth y glaw dros nos ond mae'n sych ar Y Maes ar hyn o bryd.

    Mae'r Eisteddfod yn dweud eu bod yn parhau i asesu'r sefyllfa yn gyson, bod y meysydd parcio ar agor ac y dylai pobl ddilyn yr arwyddion.

    Maes y Steddfod
    Maes Steddfod
  2. Dim dŵr ar Y Maes...eto!wedi ei gyhoeddi 09:08 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Er gwaetha’r glaw dros nos dyw’r dŵr heb gasglu ar Y Maes.

    Yn ôl yr Archdderwydd - yn ei grys T am 8.30 y bore - mae haen o raean o dan y pridd.

    Fe gafodd ei adael gan rewlif ar ddiwedd oes yr iâ, sy’n creu system ddraenio naturiol. Os ydi’r rhagolygon yn gywir, bydd y trefnwyr yn falch ohono nes ymlaen heddiw.

    Myrddin ap Dafydd
  3. Bore da a chroesowedi ei gyhoeddi 09:01 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Bore da a chroeso i'r llif byw ar ddydd Gwener yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

    Yma fe gewch chi'r newyddion diweddara' o'r pafiliwn ac o'r maes yn ystod y dydd.