Crynodeb

  • Y Cadeirio ydy prif seremoni dydd Gwener yn yr Eisteddfod

  • Gwyliwch y cystadlu hwyr yn fyw o'r pafiliwn drwy'r linc uchod

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd fe allant gynnwys iaith gref a/neu themâu sydd ddim yn addas i blant

  1. Prop addas i'r glaw!wedi ei gyhoeddi 15:22 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Er ei bod hi’n addo tywydd gwael iawn yma ar Faes yr Eisteddfod, roedd aelodau o barti llefaru Gemau Llŷn wedi penderfynu dod yn eu dillad traeth!

    Y darn prawf eleni oedd Gwylanod Llandudno – ac roedd y cystadleuwyr wedi gwisgo’n briodol.

    Efallai y bydd angen y rubber ring arnyn nhw wedyn, os fydd y glaw yn achosi afonydd newydd ar hyd y lle.

    Cystadlu
  2. Oedi i seremoni'r Cadeiriowedi ei gyhoeddi 15:10 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Bydd seremoni'r Cadeirio nawr yn digwydd yn hwyrach na'r disgwyl.

    Y bwriad oedd dechrau prif seremoni'r diwrnod am 16:30 ond mae'r Eisteddfod wedi cadarnhau y bydd hi nawr yn digwydd am 17:00.

    Ni chafwyd eglurhad am y newid i'r amserlen.

    CadairFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  3. Y cawodydd wedi cyrraedd!wedi ei gyhoeddi 15:00 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Tywydd

    Mae cawodydd y prynhawn wedi dechrau cyrraedd - ond cawodydd ydyn nhw o hyd ar y funud, yn hytrach na glaw trwm.

    Glaw
  4. Ymgyrch Cymdeithas yr Iaithwedi ei gyhoeddi 14:51 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn cynnal digwyddiad ar eu stondin i bwysleisio pwysigrwydd canolfannau trochi.

    Y canolfannau hynny ydy’r llefydd mae disgyblion sy’n symud o ardaloedd di-Gymraeg i addysg Gymraeg yn mynd i wella’u sgiliau yn yr iaith fel eu bod nhw’n barod ar gyfer yr ysgol wedyn.

    Mae’n rhan o ymgyrch y mudiad i geisio cael Deddf Addysg Gymraeg newydd.

    Stondin Cymdeithas
  5. Lloches henowedi ei gyhoeddi 14:28 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Dyw'r Steddfod ddim yn bwriadu gadael i bobl sydd wedi bod yn aros ym Maes B i aros dros nos yn y ganolfan hamdden.

    Maen nhw'n gobeithio ceisio cael pobl i adael y ganolfan erbyn tua 8pm heno.

    Mae'r Brifwyl wedi bod yn cyfeirio pobl at hostel gerllaw fel un o'r llefydd amgen i fynd.

  6. "Lwcus iawn"wedi ei gyhoeddi 14:18 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Cael ei urddo ar ei ymweliad cyntaf i'r brifwyl - dyna beth ydi 'steddfod dda!

    Daeth Grace Emily Jones, oedd hefyd yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn ddydd Mercher, o Seland Newydd i Gymru saith mlynedd yn ôl.

    Mae hi nawr yn rhugl yn y Gymraeg ac yn hyfforddi tîm rygbi merched dan 15 Nant Conwy.

    "Dwi'n teimlo'n lwcus iawn, roeddwn i'n gweld pawb arall yn mynd i fyny ar ôl gwneud yr holl waith da ac yn meddwl 'pam dwi'n cael hyn?'"

    Grace Emily JonesFfynhonnell y llun, bbc
    Grace yn cael ei hurddoFfynhonnell y llun, FFOTONANT
  7. 'Lot yn yr un cwch'wedi ei gyhoeddi 14:08 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae Gwenno Parry, 20, ac Alys ei ffrind wedi trio mynd fewn i Maes B bora ma.

    “Oedd o bach yn useless bod nhw ddim ‘di deud, ond mae ‘na lot ohonan ni yn yr un gwch.

    “Mae ‘na lot ‘di mynd adra bora ‘ma, mae ‘na lot ‘di dod i’r maes ac rwan isio mynd adra, ond ma’ lot di dechrau yfed yn barod felly dwi’m yn siwr beth fydd yn digwydd o ran trio dreifio adra rwan.

    “O’n i’n meddwl ‘sa nhw ‘di gallu deutha pobl neithiwr neu’n gynnar bora ‘ma fel bod ni’n gwybod i beidio trafferthu dod, ond mae’n anodd, dwi’n meddwl oeddan nhw jyst am weld sut oedd hi.”

    Gwenno ac Alys
  8. Y curiad yn denu!wedi ei gyhoeddi 13:59 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae'r holl fandiau sy'n chwarae ar y Maes yn gwneud i un gŵr fod eisiau dawnsio!

    "Dwi'n clywed y gerddoriaeth ac yn gweld pobl yn dawnsio a dwi'n ymuno efo nhw weithiau - dwi'n caru dawnsio," meddai Yagoob Alyas, aelod o'r tim diogelwch ar y Maes, sy'n dod o Sudan yn wreiddiol ond bellach yn byw yn Birmingham.

    Yagoob Alyas
  9. Paid a bod ofn siaradwedi ei gyhoeddi 13:46 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Eden

    Ar ôl chwarae yn gig y pafiliwn neithiwr, fe wnaeth Eden berfformio cân draw ar Lwyfan y Llannerch brynhawn Gwener.

    Daeth y perfformiad annisgwyl yn dilyn trafodaeth ynglŷn ag effaith iechyd meddwl ar berfformio.

    Non Parri oedd yn cadeirio'r panel oedd hefyd yn cynnwys Carys Eleri, Miriam Isaac a Gruff Jones.

    Siaradodd y pedwar am eu profiadau personol nhw a'r heriau y maen nhw wedi eu hwynebu yn y byd creadigol.

    Pwysleisiodd y panel pa mor bwysig yw siarad am broblemau o'r fath.

    Non Parri, Miriam Isaac, Gruff Jones a Carys Eleri
    Disgrifiad o’r llun,

    Non Parri (chwith) oedd yn cadeirio'r drafodaeth

  10. Gormod o risgwedi ei gyhoeddi 13:36 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Taro'r Post
    BBC Radio Cymru

    Mae Trystan Lewis, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith yn dweud bod y penderfyniad i ganslo Maes B wedi bod yn un "anferth" ond mai'r flaenoriaeth yw gwneud yn siŵr bod y bobl ifanc yn "hollol ddiogel".

    Ar raglen Taro'r Post dywedodd bod yna ddarogan gwynt mawr.

    "Mae 'na ratio o ran y pebyll, faint o wynt wneith y rheiny gymryd. Ar ôl hynny dydyn nhw ddim yn ddiogel sy'n golygu tasa'r rhain yn dod lawr ar ben ein pobl ifanc ni yna mi fysa yna drychineb yn digwydd."

  11. Pebyll dal ym maes Cymdeithaswedi ei gyhoeddi 13:23 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud fod eu maes gwersylla nhw yn aros ar agor.

    Ond maen nhw wedi cael cyngor gan yr heddlu i beidio derbyn rhagor o bobl yno.

    Felly dim ond y rheiny sydd eisoes wedi archebu o flaen llaw fydd yn cael mynediad.

    Mae’n golygu na fydd y rheiny sy’n gorfod gadael Maes B yn gallu gwersylla yno heno a fory.

  12. "Siomedig" gorfod gadael Maes Bwedi ei gyhoeddi 13:21 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Taro'r Post
    BBC Radio Cymru

    Mae Dafydd Duggan yn Maes B ar hyn o bryd.

    Dywedodd ar raglen Taro'r Post bod nhw wedi cael "ordors bod y pebyll i gyd yn gorfod dod lawr a bod angen i ni aros yn Dyffryn Conwy am liffts neu be bynnag os nad oes gyda ni geir."

    Mae bysiau gwennol wedi eu darparu i'r rhai wnaeth ddefnyddio trenau i gyrraedd yr Eisteddfod meddai fel eu bod yn medru mynd ar y trên nol adref.

    Ychwanegodd ei fod yn "siomedig" ac yn teimlo dros y rhai sydd yn dod i Maes B am y tro cyntaf eleni.

    "Mae o yn anffodus yn hysbysebu Maes B yn wael mewn ffordd, bod nhw yn gorfod canslo fel hyn."

    Maes B
  13. 'Hollol gutted'wedi ei gyhoeddi 13:17 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae Gruff Jones, DJ oedd i fod i berfformio ym Maes B, heno yn dweud fod cau’r safle yn ”siom ofnadwy”.

    Dywedodd ei fod yn teimlo dros yr holl fandiau sy’n methu allan ar y cyfle i gael chwarae ar un o brif lwyfannau’r sîn yng Nghymru.

    ”Mae’r bandiau ma’n gweithio mor galed i wneud yn siwr bo’ nhw’n barod ar gyfer Maes B, ac i glywed nawr bod hynny ddim yn digwydd... siwr eu bod nhw’n hollol gutted.”

  14. Profiad 'rhyfedd' i Lovgreenwedi ei gyhoeddi 12:57 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae Geraint Lovgreen yn dweud bod y profiad o gael ei Urddo wedi bod yn un "eithaf rhyfedd".

    "Dwi’n lawer fwy cartrefol yn canu mae’n rhaid i mi ddeud!”

    “O’n i’n eithaf nerfus cyn i’r seremoni ddechrau, oedd o’n teimlo’n debyg i seremoni radio neu wbath fel ‘na.

    “Ond roedd cael fy newis wir yn anrhydedd.

    “Pan ges i’r llythyr yn y lle cyntaf o’n i’n gofyn i’n hun os oedd yr holl beth yn spoof.

    “A ti’n dueddol o feddwl bod yna bobl eraill sy’n haeddu fo lot mwy na chdi, ond na, oedd o wir yn deimlad arbennig.”

    Geraint Lovgreen
  15. Urddo: Profiad "ffab"wedi ei gyhoeddi 12:52 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    “Roedd e’n brofiad hollol ffab i ddeud y gwir," meddai Catrin Finch sydd nawr yn aelod o'r Orsedd.

    “Dwi wedi bod yn dod i’r Eisteddfod ers blynyddoedd ac felly’n gyfarwydd ar seremonïau ac ati, ond roedd cael bod yn rhan o’r holl beth yn grêt.

    “Mae’n rhywbeth sbesial i gael eich dewis i fod yn rhan o’r seremoni.”

    “Roedd o’n brofiad gwahanol, ond rhywbeth oeddwn i’n edrych ymlaen yn fawr ato.”

    Catrin FinchFfynhonnell y llun, bbc
  16. Pobl yn dechrau gadael Maes Bwedi ei gyhoeddi 12:41 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Maes BFfynhonnell y llun, bbc
    Maes B
    Maes BFfynhonnell y llun, bbc
    Maes B
  17. Y 'Steddfod yn parhau...ar hyn o brydwedi ei gyhoeddi 12:35 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae Betsan Moses yn dweud y bydd yna ad-daliad i bobl Maes B ond mai "diogelwch" yw'r flaenoriaeth.

    "Y peth sy’n bwysig heddiw yw ein bod ni’n gallu eu cynorthwyo nhw er mwyn bod nhw’n gallu gwneud eu taith adref".

    Ychwanegodd: "Ry’n ni wedi asesu pob un o’r strwythurau ar gyfer y Maes, mae rhaglen y Maes heddiw yn iawn yn ei gyfanrwydd, felly mi fydd pob dim yn digwydd yn unol a’r rhaglen heddiw.

    “Ar hyn o bryd bydd [popeth fel y mae o fod fory efo’r Pafiliwn a’r Maes]. Mi fydd ‘na asesiad arall y prynhawn gyda’r diweddaraf o ran y rhagolygon – os oes ‘na unrhyw newid fe fyddwn ni’n darparu’r wybodaeth cyn gynted a phosib.”

  18. Timoedd yn cynorthwyowedi ei gyhoeddi 12:32 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae Betsan Moses Prif Weithredwr yr Eisteddfod newydd wneud cyfweliad gyda'r BBC.

    “Fe chi’n gwybod ni’n asesu’n barhaus, ac yn dilyn y rhagolygon a ddaeth i'r fei y bore ‘ma rydyn ni, mewn trafodaeth gydag asiantaethau eraill, wedi gwneud y penderfyniad anodd ond y penderfyniad cywir o ran diogelwch pobl ifanc a’u llesiant hwy bod yn rhaid I ni ganslo Maes B a’r gwersylla.

    "Mae gennym ni dimoedd mewn lle nawr i sicrhau bod gennym ni gyngor ar gyfer y bobl ifanc.

    Mae’r tim llesiant yna’n ogystal, er mwyn eu bod ni’n gallu eu cynorthwyo nhw ar gyfer eu taith diogel adref," meddai.

    Betsan Moses
  19. Cyngor i bobl ifancwedi ei gyhoeddi 12:29 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae gwybodaeth ar wefan Maes B, dolen allanol ynglŷn â chyngor i'r bobl ifanc sydd ym Maes B.

    Y cyngor yw aros yn y ganolfan hamdden ger Ysgol Dyffryn Conwy os nad oes modd gadael y safle yn syth neu aros yn y maes carafanau os oes yna deulu yno.

    Mae'r Steddfod hefyd yn dweud na ddylai unrhyw un yrru adref os ydyn nhw’n dal i fod dan ddylanwad alcohol.

    Os oes yna rhieni eisiau dod i nol eu plant mae'r 'Steddfod yn dweud bod modd eu casglu o'r ganolfan hamdden yn Llanrwst.

    Maes B
  20. Cau Maes B am 'rhesymau diogelwch'wedi ei gyhoeddi 12:24 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter