Crynodeb

  • Y Cadeirio ydy prif seremoni dydd Gwener yn yr Eisteddfod

  • Gwyliwch y cystadlu hwyr yn fyw o'r pafiliwn drwy'r linc uchod

  • Nid yw'r BBC yn gyfrifol am y dewis o ddarnau sy'n cael eu perfformio ar y llwyfan. O bryd i'w gilydd fe allant gynnwys iaith gref a/neu themâu sydd ddim yn addas i blant

  1. Cau y Maes Pebyll i'r ifanc hefydwedi ei gyhoeddi 12:12 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Canslo Maes Bwedi ei gyhoeddi 12:09 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Rydyn ni wedi cael gwybod bod Maes B wedi ei ganslo o achos y tywydd o hanner dydd heddiw ymlaen

    Maes BFfynhonnell y llun, bbc
    Disgrifiad o’r llun,

    Y band Gwilym yn perfformio yn Maes B wythnos yma

  3. Cau cylch yr Orseddwedi ei gyhoeddi 11:53 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae’r Archdderwydd nawr yn derbyn yr holl aelodau newydd i’r Orsedd, cyn cau Cylch yr Orsedd am eleni gyda’r gri gyfarwydd - ‘A oes heddwch?’

    Cynulleidfa yr Orsedd
  4. ‘Haesor o Gwm Eidda’wedi ei gyhoeddi 11:50 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Un arall sy’n ymuno â’r Orsedd heddiw ydy Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, sy’n cymryd yr enw ‘Haesor o Gwm Eidda’.

    Mae ‘na un person - Dennis Williams o Lanfairpwll, sy’n adnabyddus am ei waith gyda bandiau pres - yn cael ei urddo yn ei absenoldeb oherwydd salwch.

    Urddo aelodauFfynhonnell y llun, bbc
    Disgrifiad o’r llun,

    Aelodau eraill newydd yn cael eu hurddo

  5. 'Tudur Trefri'wedi ei gyhoeddi 11:42 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae’r digrifwr Tudur Owen yn cael cymeradwyaeth fawr wrth ymuno â’r Orsedd fel ‘Tudur Trefri’.

    A dyma ni Alun yn ymuno â John - mae’n cymryd yr enw ‘Alun o’r Post’.

    Tudur OwenFfynhonnell y llun, FFOTONANT
  6. 'John o'r Felin'wedi ei gyhoeddi 11:41 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae John Jones Tudweiliog, sy’n fwy adnabyddus fel hanner y ddeuawd John ac Alun, wedi ei urddo fel ‘John o’r Felin’.

    Ond lle mae Alun?

    Ymhlith y rhai sy’n dilyn John mae’r newyddiadurwr Bethan Kilfoil- 'Bethan Nantur’ - a’r canwr Geraint Lovgreen, sy’n cadw’r un enw.

  7. Urddo mwy o aelodauwedi ei gyhoeddi 11:36 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Un arall sy’n cael ei urddo ydy’r gŵr busnes o Fangor, Gari Wyn.

    Mae o’n ymuno â’r Orsedd fel ‘Gareth Bryn Lleithog’.

    Yn ei ddilyn ef mae Grace Jones, sy’n wreiddiol o Seland Newydd ac oedd yn un o’r pedwar olaf yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni - hi fydd ‘Grace o’r Nant’.

    Garri WynFfynhonnell y llun, bbc
  8. Enwau barddolwedi ei gyhoeddi 11:32 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae aelodau newydd yr Orsedd bellach yn cael eu hurddo.

    Ymhlith y criw cyntaf i ddod i’r llwyfan mae’r delynores fyd-enwog Catrin Finch.

    Ei henw yn yr Orsedd? Digon hawdd i’w gofio - ‘Catrin Finch’!

    Catrin FinchFfynhonnell y llun, bbc
  9. Cyflwyno'r flodeugerddwedi ei gyhoeddi 11:19 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Ar ol y ddawns flodau, mae’r flodeugerdd nawr yn cael ei chyflwyno i’r Archdderwydd gan Forwyn y Fro.

  10. Dawns y blodauwedi ei gyhoeddi 11:18 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Dawns y blodauFfynhonnell y llun, FFOTONANT
  11. Canu'r emynwedi ei gyhoeddi 11:12 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae’r Archdderwydd yn cyfarch y gynulleidfa, gan esbonio eu bod wedi gorfod cymryd “penderfyniad anodd” i symud dan do oherwydd bod addewid o “gawod drom” yn yr awr nesaf.

    Maen nhw nawr yn canu’r emyn gyntaf, Dros Gymru’n Gwlad.

  12. Y cyrn gwlad yn canuwedi ei gyhoeddi 11:09 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae’r cyrn gwlad yn atseinio i nodi dechrau’r Seremoni, ac mae’r gynulleidfa ar eu traed.

    Canu'r cyrnFfynhonnell y llun, FFOTONANT
  13. Urddo i'r Orseddwedi ei gyhoeddi 11:07 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae’r haul yn dal i dywynnu - ond yn y Babell Ddawns mae'r seremoni.

    Mae hynny oherwydd bod disgwyl cawodydd tua hanner dydd, ac felly maen nhw dan do rhag ofn.

  14. Derwyddon newyddwedi ei gyhoeddi 10:51 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Ymhlith y wynebau anabyddus fydd yn cael eu hurddo i'r Orsedd heddiw mae'r digrifwr Tudur Owen, y delynores Catrin Finch, a'r ddeuawd canu John ac Alun.

    Cafodd rhai o ddosbarth 2019 eu hurddo ddydd Llun, gan gynnwys y chwaraewyr rygbi Ken Owens a Jonathan Davies, a'r darlledwr Aled Sam.

    ken owens a jonathan davies
    Disgrifiad o’r llun,

    'Siryf' a 'Cadno' - neu Ken Owens a Jonathan Davies - yn cael eu hurddo ddydd Llun

  15. Talu neu beidiowedi ei gyhoeddi 10:40 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Bydd Taro'r Post yn trafod sylwadau Elin Jones-sy'n galw am roi mynediad am ddim i bobl i'r Steddfod flwyddyn nesaf amser cinio. Ac mae 'na rhai wedi ymateb i'r alwad.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter 2

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter 2
  16. Yr ymarferion olafwedi ei gyhoeddi 10:23 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Aelwyd Cwm Rhondda yn ymarfer cyn rhagbrawf y parti llefaru.

    Ymarferion ar Y Maes
  17. Eisteddfod am ddim yn 2020?wedi ei gyhoeddi 10:18 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae’r Aelod Cynulliad a Llywydd y Cynulliad, Elin Jones wedi dweud ei bod eisiau mynediad am ddim yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron flwyddyn nesaf.

    Ms Jones yw Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod nesaf ac mae hi eisiau efelychu'r hyn ddigwyddodd ym Mae Caerdydd y llynedd.

    Doedd dim ffiniau i’r maes na thâl mynediad yn yr Eisteddfod honno.

  18. Problemau technegol!wedi ei gyhoeddi 10:03 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Oherwydd problemau technegol ar Faes yr Eisteddfod fyddwn ni ddim yn gallu darparu cyfieithiad ar hyn o bryd o'r llif byw o'r Pafiliwn.

    Rydym yn gobeithio cychwyn darlledu’r cystadlu yn fuan. Ymddiheuriadau am yr oedi yma.

  19. Seremoni'r Orseddwedi ei gyhoeddi 09:51 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae’r haul yn tywynnu ar faes yr Eisteddfod ar hyn o bryd - er bod y tir ychydig yn llaith o hyd yn dilyn y glaw dros nos.

    Os ydy hi’n aros fel hyn, mae’n bosib y gwelwn ni Seremoni’r Orsedd yn cael ei chynnal allan fan hyn y bore ‘ma.

    Fel arall, mae gan yr Eisteddfod gynlluniau wrth gefn i ddefnyddio’r Stiwdio Ddawns os ydy’r tywydd yn troi.

    Y Maes
  20. Beth i wneud ar Y Maes heddiw?wedi ei gyhoeddi 09:36 Amser Safonol Greenwich+1 9 Awst 2019

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Tri pheth i’w wneud ar y Maes heddiw:

    1.Methu disgwyl i wybod beth sy’n digwydd yn Pobol y Cwm nos Lun? Wel, does dim rhaid aros oherwydd bydd rhag-ddangosiad arbennig yn y Sinemaes am 1345 a 1430 – gyda chyfle i holi ambell aelod o’r cast cyn y dangosiad. Bydd gweithdy sgriptio yno am 1300 hefyd.

    2.Roedd seneddwraig gyntaf yr Unol Daleithiau yn dod o ardal yr Eisteddfod. Pwy ac o ble? Ewch draw i ddarlith Wil Aaron yn Cymdeithasau 1 am 1300 i wybod mwy.

    3.Mae gweld digwyddiad o bwys ar ‘y sgrîn fawr’ yn beth cyffredin erbyn hyn – o gemau’r Ewros i Wimbledon. Felly hefyd y Cadeirio a gallwch wylio’r cyfan yn y Babell Lên os nad oes lle yn y pafiliwn. Ewch yno am 1615 i gael sedd dda.