Crynodeb

  • Cymru yn mynd i frig Grŵp D

  • Hadleigh Parkes a Gareth Davies yn sgorio i Gymru; Ashley-Cooper, Dane Haylett-Petty a Michael Hooper yn croesi i Awstralia

  • Dan Biggar yn mynd i ffwrdd gydag anaf i'w ben; Patchell ymlaen

  • Cymru ar y blaen o 18 ar un pwynt

  • Y capten, Alun Wyn Jones wedi ennill cap rhif 130 - record i Gymru

  1. Diolch am ymunowedi ei gyhoeddi 11:17 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    Sgôr terfynol: Awstralia 25-29 Cymru

    BBC Cymru Fyw

    Wel, am ddechrau da i ddydd Sul rhywun! Mae Cymru wedi llwyddo i gadw Awstralia draw a sicrhau buddugoliaeth hollbwysig draw yn Tokyo.

    Diolch o galon i chi am eich cwmni'r bore 'ma. Fe wnawn ni e i gyd eto mewn 10 diwrnod pan fydd bechgyn Warren Gatland yn herio Fiji. Tan hynny, hwyl fawr!

  2. Ac anadlwch...wedi ei gyhoeddi 11:09 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    Sgôr terfynol: Awstralia 25-29 Cymru

    BBC Cymru Fyw

    Sut mae pawb yn teimlo?? Ry'n ni'n teimlo fel Patch!

    Darllenwch ein adroddiad o'r gêm yma.

    Rhys PatchellFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhys Patchell gyda'i ddwylo ar ei ben ar ddiwedd yr ornest

  3. 'Y fainc wedi rhoi momentwm'wedi ei gyhoeddi 10:56 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    Sgôr terfynol: Awstralia 25-29 Cymru

    BBC Cymru Fyw

    Y prif hyfforddwr, Warren Gatland yn ymateb i'r fuddugoliaeth: "Ail hanner anodd, ond fe ddaethom ni drwyddi, roedd hi'n gêm anodd a diolch byth fe wnaethon ni ddal 'mlaen.

    "Rhoddodd y bechgyn o'r fainc dipyn o fomentwm i ni. Da ni'n 2/2 ac mae rhaid edrych 'mlaen i gêm Fiji nawr, ac wedi iddyn nhw golli i Uruguay mi fydd honno'n un anodd."

  4. Patchell yn ymatebwedi ei gyhoeddi 10:55 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    Sgôr terfynol: Awstralia 25-29 Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Alun Wyn: 'Diolch yn fawr!'wedi ei gyhoeddi 10:53 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    Sgôr terfynol: Awstralia 25-29 Cymru

    BBC Cymru Fyw

    Alun Wyn Jones yn siarad wedi'r chwiban olaf: "Rydym ni'n amlwg yn falch iawn. Chwarae teg, fe wnaeth Awstralia ddod â phopeth atom ni yn yr ail hanner."

    Ac ar achlysur ei 130fed cap, beth sydd ganddo i ddweud wrth y dorf?

    "Mae'n eitha' syml - thank you, arigato a diolch yn fawr!"

    Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Mae hi drosodd!!wedi ei gyhoeddi 10:44 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    Sgôr terfynol: Awstralia 25-29 Cymru

    BBC Cymru Fyw

    DYNA NI!!!

    Cymru, rhywsut, yn llwyddo i gadw Awstralia draw yn y munudau olaf i sicrhau buddugoliaeth hollbwysig yn Tokyo!

  7. Sgrym bwysigwedi ei gyhoeddi 10:40 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    76' Awstralia 25-29 Cymru

    BBC Cymru Fyw

    Sgrym i Gymru yn hanner Awstralia... ond Cymru'n cael eu cosbi.

  8. Triphwynt i Gymru!wedi ei gyhoeddi 10:35 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    72' Awstralia 25-29 Cymru

    BBC Cymru Fyw

    A fydd hynny'n ddigon? Rhys Patchell yn cicio cic gosb i Gymru ar ôl cyfnod prin o feddiant i Gymru yn 22 Awstralia.

    Daliwch yn dynn...

  9. Cic gosbwedi ei gyhoeddi 10:30 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    68' Awstralia 25-26 Cymru

    BBC Cymru Fyw

    Cymru yn cael eu cosbi yn y sgrym. Rhywfaint o fendith mai dim ond triphwynt ydy'r gosb, gyda Matt Toomua yn cicio ac yn cau'r bwlch lawr i un pwynt yn unig.

    Mae hi am fod yn 12 munud a hanner... a hanner....

  10. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 10:25 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo

    Mae'n teimlo fel bod hanes yn ail-adrodd.

    Ma' hwn yn artaith i wylio.

  11. Cais i Awstralia!wedi ei gyhoeddi 10:23 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    62' Awstralia 22-26 Cymru

    BBC Cymru Fyw

    Dyna ni. Awstralia yn croesi eto. Y capten Michael Hooper yn croesi o dan y pyst ar ôl munudau o bwysau cyson.

    Trosiad hawdd i'r crysau aur.

    Llai na 20 munud ar ôl, pedwar pwynt ydy mantais Cymru erbyn hyn.

    Michael HooperFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. Nerfau...wedi ei gyhoeddi 10:14 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    58' Awstralia 15-26 Cymru

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo

    Sut ma'r nerfau, bawb?

    Dwi'n ei chael hi'n anodd eistedd yn llonydd wrth i mi sgwennu fy adroddiad.

  13. Ardal y daclwedi ei gyhoeddi 10:13 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    54' Awstralia 15-26 Cymru

    Andrew Coombs
    Cyn-glo Cymru a sylwebydd Radio Cymru

    Mae'n rhaid i Gymru fod yn fwy corfforol yn ardal y dacl.

    Mae'n rhaid iddyn nhw gael rhywfaint o feddiant i godi'r pwysau sydd arnyn nhw.

  14. Japan yn canu anthem Cymruwedi ei gyhoeddi 10:11 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Eilyddio seren y gêm?wedi ei gyhoeddi 10:06 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo

    Aaron Wainwright yn gadael y cae.

    Ydy e'n bosib i fod yn seren y gêm ar ôl chware llai na 50 munud?

  16. Eilyddio i Gymruwedi ei gyhoeddi 10:05 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    49' Awstralia 15-26 Cymru

    BBC Cymru Fyw

    Nicky Smith ymlaen am Wyn Jones a Ross Moriarty ymlaen am Aaron Wainwright.

  17. Trobwynt?wedi ei gyhoeddi 10:04 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo

    Ma Awstralia wedi sgorio a hen elyn Cymru, Kurtley Beale, wedi dod ymlaen fel eilydd.

    A fydd hyn yn drobwynt yn y gêm? Plis, plis na.

  18. Cais i Awstralia!wedi ei gyhoeddi 10:02 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    46' Awstralia 15-26 Cymru

    BBC Cymru Fyw

    Awstralia'n taro 'nôl. Dane Haylett-Petty yn croesi.

    Y trosiad yn un llwyddiannus. Mae Awstralia 'nôl yn y gêm...

    cais awstraliaFfynhonnell y llun, Getty Images
  19. Cic adlam i Patchell!wedi ei gyhoeddi 09:59 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    44' Awstralia 8-26 Cymru

    BBC Cymru Fyw

    Cic adlam i Rhys Patchell, sy'n rhoi pwyntiau cyntaf yr ail hanner i Gymru. Gwych gan y maswr!

  20. Ail hanner wedi cychwynwedi ei gyhoeddi 09:57 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    43' Awstralia 8-23 Cymru

    BBC Cymru Fyw

    Mae Awstralia wedi dechrau'r ail hanner yn gryf.

    Ond Cymru sy'n cael y sgrym cyntaf.