Crynodeb

  • Cymru yn mynd i frig Grŵp D

  • Hadleigh Parkes a Gareth Davies yn sgorio i Gymru; Ashley-Cooper, Dane Haylett-Petty a Michael Hooper yn croesi i Awstralia

  • Dan Biggar yn mynd i ffwrdd gydag anaf i'w ben; Patchell ymlaen

  • Cymru ar y blaen o 18 ar un pwynt

  • Y capten, Alun Wyn Jones wedi ennill cap rhif 130 - record i Gymru

  1. Bore da a chroeso!wedi ei gyhoeddi 08:00 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    BBC Cymru Fyw

    Diolch am ymuno â ni ar gyfer y gêm fawr yn Tokyo, wrth i Gymru herio Awstralia yng Nghwpan Rygbi'r Byd.

    Bydd ein gohebwyr yn dod â'r diweddaraf i chi o Stadiwm Tokyo, gyda'r gic cyntaf am 08:45.