Crynodeb

  • Cymru yn mynd i frig Grŵp D

  • Hadleigh Parkes a Gareth Davies yn sgorio i Gymru; Ashley-Cooper, Dane Haylett-Petty a Michael Hooper yn croesi i Awstralia

  • Dan Biggar yn mynd i ffwrdd gydag anaf i'w ben; Patchell ymlaen

  • Cymru ar y blaen o 18 ar un pwynt

  • Y capten, Alun Wyn Jones wedi ennill cap rhif 130 - record i Gymru

  1. Ffaith y dyddwedi ei gyhoeddi 09:53 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    Hanner amser: Awstralia 8-23 Cymru

    BBC Cymru Fyw

    Mae Cymru wedi sgorio'r gic adlam gyflymaf yn hanes Cwpan Rygbi'r Byd. Roedd Dan Biggar - sydd bellach oddi ar y cae gydag anaf i'w ben - yn llwyddiannus wedi 36 eiliad.

  2. Angen cysondeb gan y dyfarnwyrwedi ei gyhoeddi 09:53 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    Gareth Charles
    Gohebydd Rygbi BBC Cymru

    Yn trafod y penderfyniad i beidio cosbi Michael Hooper gyda carden felen...

    "Does neb eisiau gwneud cam, ddim eisiau cael eu gweld fel y dyn sy'n sboilio pethe... os bydde nhw yn fwy cyson fe fyddai'r chwaraewyr a ni yn y wasg dipyn hapusach."

  3. Teyrnged i arwyr y 70auwedi ei gyhoeddi 09:52 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    BBC Cymru Fyw

    Mae rhai o gefnogwyr rygbi Japan wedi bod yn dilyn rygbi Cymru ers degawdau! Fel y gŵr yma sydd yn gwisgo lluniau o'i arwyr fel clogyn!

    rygbi
  4. Ken: Alun Wyn y gorau erioedwedi ei gyhoeddi 09:47 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    Rhywfaint o ddarllen i chi yn ystod yr egwyl...

    Yn ei golofn i BBC Cymru Fyw wythnos yma mae Ken Owens yn dweud mai Alun Wyn Jones yw'r chwaraewr gorau i gynrychioli Cymru erioed.

    Bydd Alun Wyn yn torri record Gethin Jenkins gan ennill cap rhif 130 yn y gêm yn erbyn Awstralia.

    alun wynFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Egwyl o'r diwedd!wedi ei gyhoeddi 09:41 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    Hanner amser: Awstralia 8-23 Cymru

    BBC Cymru Fyw

    Cyfle i bawb gael eu gwynt atynt. Am hanner i Gymru!

    Maen nhw wedi ymestyn 15 pwynt o fantais yn erbyn Awstralia.

  6. Campus!wedi ei gyhoeddi 09:40 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo

    Ma' Gareth Davies yn ymfalchïo yn ei waith amddiffynnol, ac fe sy'n gyfrifol am osod tempo amddiffyn Cymru.

    Roedd y cais yna'n enghraifft berffaith. Gwaith campus.

  7. CAIS I GYMRU!!wedi ei gyhoeddi 09:37 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    38' Awstralia 8-23 Cymru

    BBC Cymru Fyw

    Cais i Gareth Davies! Waw.

    Y mewnwr yn rhyng-gipio pas gan Will Genia ac yn rhedeg tua 60 llath i groesi'r llinell gais. Ail gais i Gymru cyn yr egwyl

    Patchell - sydd ymlaen yn barhaol am Biggar - yn trosi ac yn rhoi Cymru 15 pwynt ar y blaen.

    Gareth DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Cic ardderchog gan Patchwedi ei gyhoeddi 09:36 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    37' Awstralia 8-16 Cymru

    BBC Cymru Fyw

    Mwy o ddrama.

    Rhys Patchell yn mynd i daclo Samu Kerevi ond canolwr Awstralia'n cael ei gosbi (ond yn osgoi cerdyn melyn) am arwain gyda'i fraich.

    Patchell yn cicio.

  9. Nerfau'n cicio mewnwedi ei gyhoeddi 09:31 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    Catrin Heledd
    Chwaraeon BBC Cymru

    Nawr ma’ ‘da ni gêm.

    Ma' cefnogwyr y ddau dîm ‘di mynd bach yn dawel yn y stadiwm. Y nerfau sy’n gyfrifol dwi’n credu.

    Ma’ pawb yn gwybod y galle hon fynd naill ffordd neu’r llall. Oes angen 40 munud arall o chwarae?!

  10. Niwsanswedi ei gyhoeddi 09:27 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo

    Ma' blaenwyr Awstralia o gwmpas ardal y dacl fel colomenod yn chwilio am friwsion.

    Ma' nhw'n bob man ac yn niwsans.

  11. Cic gosbwedi ei gyhoeddi 09:27 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    32' Awstralia 8-13 Cymru

    BBC Cymru Fyw

    Rhys Patchell yn ymestyn mantais Cymru gyda chic gosb.

  12. Awyrgylch yn drydanolwedi ei gyhoeddi 09:26 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    Lowri Roberts
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo

    Yr awyrgylch yn drydanol yma yn y stadiwm. Mwy gan y cefnogwyr mewn coch i floeddio yn ei gylch ar hyn o bryd. Diolch byth am Dan Biggar a Hadleigh Parkes i dawelu’r nerfau.

  13. Pryder i Gymruwedi ei gyhoeddi 09:23 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo

    Ma' hwn yn bryder enfawr i Gymru wrth i Dan Biggar adael y cae.

    Chwaraewr allweddol all Gymru beidio fforddio i golli.

  14. Cic gosbwedi ei gyhoeddi 09:22 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    29' Awstralia 8-10 Cymru

    BBC Cymru Fyw

    Awstralia'n cau'r bwlch. Foley gyda chic gosb lwyddiannus.

  15. Patchell ymlaenwedi ei gyhoeddi 09:21 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    28' Awstralia 5-10 Cymru

    BBC Cymru Fyw

    Dan Biggar yn taclo'n arwrol i atal cais ond mae'r dacl yn un costus i'r maswr. Mae'n rhaid iddo adael y cae i gael asesiad i'w ben. Rhys Patchell ymlaen yn ei le.

    Biggar wedi brifoFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. Heb golli'n erbyn Cymruwedi ei gyhoeddi 09:20 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo

    Dyma 14eg cap Adam Ashley-Cooper yn erbyn Cymru, a dyw e erioed wedi colli yn erbyn nhw.

    Ond dyna oedd ei gais cyntaf yn erbyn Cymru.

  17. Haelioni'r dyfarnwrwedi ei gyhoeddi 09:14 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo

    Dylse fod y dyfarnwr Romaine Poite wedi dangos dau gerdyn coch i chwaraewyr Samoa yn eu gêm yn erbyn Rwsia'n gynharach yn y gystadleuaeth, ond dim ond melyn oedd y ddau.

    Dim syndod felly ei fod e mor hael efo Michael Hooper.

  18. Cais i Awstraliawedi ei gyhoeddi 09:14 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    21' Awstralia 5-10 Cymru

    BBC Cymru Fyw

    Adam Ashley-Cooper yn croesi. Cic letraws arall yn canfod yr asgellwr profiadol ar y dde, ac mae'n llwyddo i ddal y bêl, ochr-gamu a sleifio dros y linell wen.

    Bernard Foley yn methu gyda'r trosiad.

    Ashley-CooperFfynhonnell y llun, Getty Images
  19. Penderfyniad 'gwarthus'wedi ei gyhoeddi 09:09 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    Andrew Coombs
    Cyn-glo Cymru a sylwebydd Radio Cymru

    Mae hynna'n warth gan y tîm dyfarnu (tacl Michael Hooper). Mae'n hwyr, mae'n rhaid i honna fod yn gerdyn melyn. Penderfyniad cwbl anghywir.

  20. Dim cerdyn melynwedi ei gyhoeddi 09:09 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019

    18' Awstralia 0-10 Cymru

    BBC Cymru Fyw

    Capten Awstralia, Michael Hooper yn osgoi derbyn cerdyn melyn wedi tacl nerthol ar Dan Biggar. Cig gosb yn erbyn y blaenasgellwr ond dim mwy na hynny.