Diweddariadwedi ei gyhoeddi 09:07 Amser Safonol Greenwich+1 29 Medi 2019
Dafydd Pritchard
Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo
Diddorol i weld be sydd am ddigwydd i Michael Hooper fan hyn...
Cymru yn mynd i frig Grŵp D
Hadleigh Parkes a Gareth Davies yn sgorio i Gymru; Ashley-Cooper, Dane Haylett-Petty a Michael Hooper yn croesi i Awstralia
Dan Biggar yn mynd i ffwrdd gydag anaf i'w ben; Patchell ymlaen
Cymru ar y blaen o 18 ar un pwynt
Y capten, Alun Wyn Jones wedi ennill cap rhif 130 - record i Gymru
Dafydd Pritchard
Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo
Diddorol i weld be sydd am ddigwydd i Michael Hooper fan hyn...
Dafydd Pritchard
Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo
Ma' Hadleigh Parkes yn chwarae efo asgwrn wedi torri yn ei law - ond doedd dim problem iddo wrth ddal y bêl ar gyfer y cais agoriadol yna.
Andrew Coombs
Cyn-glo Cymru a sylwebydd Radio Cymru
Mae'n bum munud pwysig i Gymru nawr. Rhaid i ni geisio cadw Awstralia draw a pheidio rhoi unrhyw bwyntiau i ffwrdd.
14' Awstralia 0-10 Cymru
BBC Cymru Fyw
Biggar yn ymestyn y fantais gyda chic arbennig o'r dde. Dechrau gwych i Gymru fach!
13' Awstralia 0-8 Cymru
BBC Cymru Fyw
Hadleigh Parkes yn croesi!
Dan Biggar yn gwneud y mwya' o’r chwarae mantais ac yn cicio cic letraws i Parkes sy'n dal y bel yn wych ac yn tirio dan bwysau dau amddiffynnwr.
Dafydd Pritchard
Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo
Mae'n anodd cael digon o amser i anadlu hyd yn hyn!
Ma' hwn 'di bod yn ddechreuad gwyllt i'r gêm.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
4' Awstralia 0-3 Cymru
BBC Cymru Fyw
Dan Biggar yn ceisio ychwanegu triphwynt arall gyda chig gosb o'r asgell chwith, ond ei ymgais yn aflwyddiannus y tro hwn.
Dafydd Pritchard
Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo
Ma'r awyrgylch yma'n drydanol a dyna'r ffordd perffaith i Gymru setlo.
Gwaith arbennig gan Aaron Wainwright, cic hyfryd gan Dan Biggar.
1' Awstralia 0-3 Cymru
BBC Cymru Fyw
Dan Biggar yn cychwyn pethau. A Chymru'n dwyn y bêl yn syth...
...a choeliwch chi fyth, Biggar yn derbyn y bêl ac yn cicio gôl adlam i roi Cymru ar y blaen o fewn munud.
Dafydd Pritchard
Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo
Mae yna filoedd o Gymry yma - ond miloedd mwy o Awstralia.
Ma' Stadiwm Tokyo yn fôr o felyn a choch.
BBC Cymru Fyw
Mae'r chwaraewyr allan ar y cae. Hen Wlad Fy Nhadau sy'n cael ei chanu yn gyntaf...
Y nerfau'n dechrau go iawn nawr...
Mae disgyblion Ysgol Glanrafon, yr Wyddgrug wedi lleisio eu cefnogaeth i garfan Cymru.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dafydd Pritchard
Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo
Ma’ hon yn gêm allweddol i Gymru ac Awstralia o ran eu gobeithion nhw am weddill y gystadleuaeth.
Mae’n debyg mai’r tîm buddugol heddiw bydd yn gorffen ar frig Grŵp D, a dylse’r tîm yna gael llwybr ychydig yn haws i’r rownd derfynol – o bosib yn osgoi Lloegr yn y chwarteri a hefyd yn osgoi Seland Newydd yn y rownd gyn-derfynol.
Dyw hyfforddwyr na chwaraewyr naill dîm na’r llall yn edrych mor bell ymlaen â hynny ond, does dim dwywaith amdani, all y gêm yma benderfynu tynged y ddau dîm.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dafydd Pritchard
Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo
Os oedd Toyota ’di troi’n goch ar gyfer gêm agoriadol Cymru yng Nghwpan y Byd, ma’r Ddraig Goch hyd yn oed yn fwy amlwg yn Tokyo heddiw.
Mae yna filoedd o gefnogwyr Cymru wedi teithio i Stadiwm Tokyo ar gyfer y gêm allweddol yma, ac mae’n braf i weld nhw i gyd yn cymysgu gyda chefnogwyr y Wallabies.
BBC Cymru Fyw
Bu Tomos Dafydd yn siarad gyda mam Josh Navidi, Euros, cyn y gêm fawr.
BBC Cymru Fyw
Tîm Cymru
Liam Williams; George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Dan Biggar, Gareth Davies; Wyn Jones, Ken Owens, Tomas Francis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (C), Aaron Wainwright, Josh Navidi, Justin Tipuric.
Eilyddion: Nicky Smith, Elliot Dee, Dillon Lewis, Aaron Shingler, Ross Moriarty, Tomos Williams, Rhys Patchell, Owen Watkin.
Tîm Awstralia
Dane Haylett-Petty; Adam Ashley-Cooper, James O'Connor, Samu Kerevi, Marika Koroibete; Bernard Foley, Will Genia; Scott Sio, Tolu Latu, Allan Alaalatoa, Izack Rodda, Rory Arnold, David Pocock, Michael Hooper (C), Isi Naisarani.
Eilyddion: Jordan Uelese, James Slipper, Sekope Kepu, Adam Coleman, Lukhan Salakaia-Loto, Nic White, Matt To'omua, Kurtley Beale.
Lowri Roberts
Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo
Rhian (ar y dde), sy'n wreiddiol o Sir Fôn, ond bellach yn byw dwy awr o Tokyo gyda’i theulu.
Dafydd Pritchard
Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Tokyo
Mae’n ddiwrnod arbennig i gapten Cymru, Alun Wyn Jones, a fydd yn torri’r record am nifer o gapiau dros ei wlad heddiw.
Dyma fydd ymddangosiad rhif 130 i’r clo, arweinydd ysbrydoliedig a dylanwad aruthrol ar rygbi Cymru.
Er iddo droi’n 34 oed yn gynharach y mis yma, mae’n ymddangos bod Jones yn dal i wella, a does dim os ei fod ymhlith y chwaraewyr gorau yn y byd yn ei safle.