Crynodeb

  • Aaron Wainwright a Ross Moriarty yn sgorio ceisiau Cymru

  • Vahaamahina, Ollivon a Vakatawa yn croesi i Ffrainc

  • Vahaamahina yn cael cerdyn coch am daro Wainwright

  • Cymru i herio Japan neu Dde Affrica yn y rownd gynderfynol

  • Cliciwch yr eicon am sylwebaeth fyw Radio Cymru

  1. Diolch am ddilyn!wedi ei gyhoeddi 10:31 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Diolch am ddilyn y llif byw heddiw - buddugoliaeth i Gymru ond doedd hi ddim yn hawdd!

    Fe fydd Cymru'n herio un ai Japan neu Dde Affrica ddydd Sul nesaf, a bydd llif byw arbennig ar gyfer honno hefyd.

    Ymlaen i Tokyo!

    CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. A'r dathlu yng Nghlwb Rygbi Bangor!wedi ei gyhoeddi 10:28 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. Dathlu yng Nghapel Berea Newyddwedi ei gyhoeddi 10:25 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Nia Cerys
    Gohebydd BBC Cymru

    Dyma'r dathliadau yng Nghapel Berea Newydd ym Mangor ar y chwiban olaf.

    Ymlaen â'r oedfa!

    Disgrifiad,

    Dathlu yng Nghapel Berea Newydd

  4. 'Y tîm gorau wedi colli'wedi ei gyhoeddi 10:23 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Mae Warren Gatland wedi dweud bod "y tîm gorau wedi colli heddiw".

    Digon o waith i'w wneud cyn herio un ai Japan neu Dde Affrica ddydd Sul nesaf!

    CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. 'Cymru wedi dianc'wedi ei gyhoeddi 10:16 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Gareth Charles
    BBC Wales rugby commentator

    Mae Cymru wedi dianc, maen nhw dal yng Nghwpan y Byd!

    Allai hi ddim wedi bod yn agosach. Mae’r dagrau yn llifo i chwaraewyr Ffrainc.

    Roedd y perfformiad yn un i’w anghofio ond bydd y canlyniad yn aros am sbel.

  6. 'Gemau Cymru angen rhybudd iechyd'wedi ei gyhoeddi 10:15 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Oita

    Dylse gemau Cymru ddod â rhybudd iechyd.

    Dyw calonnau eu cefnogwyr nhw ddim yn mynd i guro'n rheolaidd am amser hir ar ôl yr ornest yna.

  7. Ond nid pawb sy'n bositif...wedi ei gyhoeddi 10:13 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Huw Edwards yn Gymro balch!wedi ei gyhoeddi 10:11 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  9. Cymru'n ennill!wedi ei gyhoeddi 10:09 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    80' Cymru 20-19 Ffrainc

    Dyna hi!

    Mae'r gêm ar ben ac mae Cymru yn rownd gynderfynol Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan!

    Am gêm!

  10. Cais...?wedi ei gyhoeddi 10:09 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    'Dyw hyd yn oed rhai o gefnogwyr Cymru ddim yn siŵr a ddylai cais Moriarty fod wedi sefyll...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  11. Biggar llawn cyffrowedi ei gyhoeddi 10:07 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Cymru 20-19 Ffrainc

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Oita

    Ma' Dan Biggar newydd droi at gefnogwyr Cymru, yn eu hannog nhw i floeddio'n uwch nac erioed ar gyfer y munudau olaf 'ma.

    Mae'r tensiwn yn annioddefol!

    BiggarFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. Cais i Gymru!wedi ei gyhoeddi 10:02 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    74' Cymru 20-19

    Cais i Gymru o'r diwedd!

    Ross Moriarty sy'n croesi'r gwyngalch yn dilyn gwaith da gan Justin Tipuric.

    Mae Jaco Peyper yn mynd at y swyddog teledu er mwyn ei gwirio, ond does dim o'i le arni.

    Mae Biggar yn gywir gyda'r trosiad ac mae Cymru ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm, gyda phum munud yn weddill!

    CaisFfynhonnell y llun, Getty Images
  13. 'Allez les Bleus'wedi ei gyhoeddi 09:55 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Cymru 13-19 Ffrainc

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Oita

    Bloeddiau 'Allez les Bleus' yn swnllyd iawn yma yn Oita.

    Dyma gyfle i Ffrainc gymryd cam enfawr tuag at fuddugoliaeth ryfeddol.

  14. 'Ffrainc yn bownd o flino'wedi ei gyhoeddi 09:54 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Catrin Heledd
    Gohebydd S4C yn Japan

    "Mae’r cefnogwyr yn dechrau poeni ond mae’r gwybodusion o gwmpas y lle ychydig yn fwy ffyddiog taw pwyll ac amynedd pia hi i’r crysau cochion.

    "Mae Ffrainc yn gallu diflasu ar fod yn dda a chyda 14 dyn ar y cae ma’ nhw'n bownd o flino.

    "Mae Cymru ymysg y timau mwya’ ffit yn y byd. Mae gyda nhw llai na 15 munud nawr i ddangos hynny."

    CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. Amddiffyn Ffrainc yn gadarnwedi ei gyhoeddi 09:50 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    65' Cymru 13-19 Ffrainc

    15 munud sy'n weddill a dim ond un tîm sy'n pwyso ar y funud.

    Ond mae amddiffyn Ffrainc yn aros yn gadarn, er eu bod lawr i 14 dyn.

    All Cymru ganfod y trosgais fyddai'n eu cymryd un pwynt ar y blaen?

  16. Ffrainc yn hapus i wastraffu amserwedi ei gyhoeddi 09:46 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Cymru 13-19 Ffrainc

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Oita

    Ma' Ffrainc yn fodlon iawn yn cicio mewn i dir Cymru, yn hapus i weld amser yn rhedeg allan wrth i'r crysau cochion geisio lleihau'r bwlch rhyngddyn nhw a Les Bleus.

  17. Dyfarnu 'rhyfedd' gan Peyperwedi ei gyhoeddi 09:43 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Cymru 13-19 Ffrainc

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Oita

    Rhyfedd gan Jaco Peyper.

    Roedd y dyfarnwr yn chwarae mantais i Gymru wrth i Ffrainc beidio â rhyddhau'r bêl, ond wedyn fe adawodd e'r Ffrancwyr i chwarae ymlaen ar ôl adennill meddiant.

  18. Anaf i Aaron Wainwright?wedi ei gyhoeddi 09:42 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    59' Cymru 13-19 Ffrainc

    Mae Aaron Wainwright yn ymddangos fel pe bai'n dioddef gydag anaf i'w ffêr, ond mae'n iawn i aros ar y cae.

    Hwb i Gymry felly, sydd eisoes wedi defnyddio'r unig eilydd rheng-ôl oedd ar y fainc, Ross Moriarty.

  19. Digon i lenwi'r bol hanner amser ym Mangor!wedi ei gyhoeddi 09:40 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Gôl gosb i Gymru!wedi ei gyhoeddi 09:36 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    54' Cymru 13-19 Ffrainc

    Mae'r cerdyn coch yn bendant wedi bod yn hwb, gyda Chymru'n pwyso â mwy o hyder bellach.

    Mae'r Ffrancwyr yn ildio cic gosb, ac mae Dan Biggar yn gywir gyda'r gic.

    Mae Cymru yn ôl o fewn chwe pwynt felly.

    BiggarFfynhonnell y llun, Getty Images