Crynodeb

  • Aaron Wainwright a Ross Moriarty yn sgorio ceisiau Cymru

  • Vahaamahina, Ollivon a Vakatawa yn croesi i Ffrainc

  • Vahaamahina yn cael cerdyn coch am daro Wainwright

  • Cymru i herio Japan neu Dde Affrica yn y rownd gynderfynol

  • Cliciwch yr eicon am sylwebaeth fyw Radio Cymru

  1. Gôl gosb i Gymru!wedi ei gyhoeddi 08:39 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    20' Cymru 10-12 Ffrainc

    Gwell gan Gymry, gyda Jake Ball yn cario'n dda sawl gwaith cyn i'r Ffrancwyr ildio cic gosb yn eu hanner eu hun.

    Mae Dan Biggar yn pwyntio at y pyst ac yn gywir gyda'r gic, gyda Chymru 'nôl o fewn dau bwynt.

    BiggarFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. 'Cyflymder anhygoel gan Wainwright'wedi ei gyhoeddi 08:34 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Cymru 7-12 Ffrainc

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Oita

    Wel, dyna sut ma' ymateb.

    Ma' hyfforddwyr Cymru yn aml yn cymharu Aaron Wainwright â Sam Warburton, a bydde'r cyn-gapten wedi bod yn falch o'r cais yna.

    Cyflymder anhygoel gan Wainwright.

    WainwrightFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Cais i Gymru!wedi ei gyhoeddi 08:33 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    13' Cymru 7-12 Ffrainc

    Gwych gan Aaron Wainwright!

    Mae'r bêl yn dod allan o sgarmes ac mae'r rheng-ôl yn rhedeg bron i hanner y cae ar ei ben ei hun i groesi wrth y pyst!

    Mae Biggar yn ychwanegu'r ddau bwynt ychwanegol ac mae Cymru 'nôl yn y gêm!

    Chwarter awr agoriadol anhygoel!

  4. Deja vu i Gymruwedi ei gyhoeddi 08:31 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Cymru 0-12 Ffrainc

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Oita

    Diddorol mai Sebastien Vahaamahina sgoriodd cais agoriadol Ffrainc.

    Wnaeth George North rhyngipio pas gan y clo i sicrhau buddugoliaeth Cymru dros y Ffrancwyr ym Mharis yn y Chwe Gwlad eleni.

    Roedd Cymru ar ei hol hi 16-0 hanner amser bryd hynny. A fydd y bwlch yn fwy tro yma?

  5. Ail gais i Ffrainc!wedi ei gyhoeddi 08:28 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    8' Cymru 0-12 Ffrainc

    Torriad gwych gan y Ffrancwyr yn rhoi cais dan y pyst i Charles Ollivon - lai na dau funud wedi eu cais cyntaf!

    Y tro yma mae Ntamack yn llwyddiannus gyda'i gic, ac mae hi'n barod yn fantais sylweddol i Ffrainc.

    Dydy Cymru ddim wedi cael dechrau da...

    CaisFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Cais i Ffrainc!wedi ei gyhoeddi 08:25 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    6' Cymru 0-5 Ffrainc

    Dechrau bywiog i'r gêm, gyda Ffrainc yn pwyso, ond Cymru'n amddiffyn yn gryf.

    Ond mae'r Ffrancwyr yn llwyddo i groesi, gyda Sebastien Vahaamahina yn sgorio yn dilyn pwysau da y blaenwyr.

    Dechrau gwych i Ffrainc felly, ond taro'r postyn mae Ntamack gyda'r trosiad.

    CaisFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Y gêm wedi dechrau!wedi ei gyhoeddi 08:18 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    1' Cymru 0-0 Ffrainc

    Mae Dan Biggar yn cicio tuag at y Ffrancwyr ac mae'r gêm wedi dechrau!

  8. Siom i Jonathan Davieswedi ei gyhoeddi 08:16 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Saff dweud nad oedd Jonathan Davies yn edrych yn hapus iawn wrth weld gweddill y garfan yn hyfforddi cyn y gêm.

    Cefnogi'r tîm o'r ystlys fydd ei rôl heddiw nawr.

    Jonathan DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Ry'n ni'n barod am yr anthemau!wedi ei gyhoeddi 08:13 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Mae Alun Wyn Jones wedi arwain ei dîm i'r maes ac rydyn ni'n barod am yr anthemau!

    Hen Wlad Fy Nhadau fydd gyntaf, gyda La Marseillaise i ddilyn.

    C'mon Cymru!

  10. Y tîm fydd yn ceisio cyrraedd y rownd gynderfynolwedi ei gyhoeddi 08:10 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Mae Warren Gatland wedi gorfod gwneud un newid i'r tîm drechodd Awstralia i herio'r Ffrancwyr.

    Roedd yna amheuaeth ynglŷn â ffitrwydd y ddau ganolwr - Jonathan Davies a Hadleigh Parkes - ac er i'r ddau gael eu henwi yn y tîm i ddechrau, dim ond Parkes fydd yn dechrau.

    Mae Dan Biggar yn dechrau, er i'r maswr orfod gadael y maes yn erbyn Fiji ac Awstralia oherwydd anafiadau i'w ben.

    Ar y fainc mae Gatland wedi penderfynu cynnwys Adam Beard yn lle Aaron Shingler gyda'r prop ifanc Rhys Carre wedi ei ddewis yn lle Nicky Smith.

    Dan BiggarFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Undeb Rygbi Cymru'n dweud nad yw Biggar wedi dangos unrhyw symptomau cyfergyd

    Liam Williams; George North, Owen Watkin, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Dan Biggar, Gareth Davies; Wyn Jones, Ken Owens, Tomas Francis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (C), Aaron Wainwright, Justin Tipuric, Josh Navidi.

    Eilyddion: Elliot Dee, Rhys Carre, Dillon Lewis, Adam Beard, Ross Moriarty, Tomos Williams, Rhys Patchell, Leigh Halfpenny.

  11. Cymru am gael gwared â 'bwgan 2011'wedi ei gyhoeddi 08:08 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Gareth Charles
    Gohebydd Rygbi BBC Cymru

    "Wrth edrych 'mlaen i'r gêm yn erbyn Ffrainc yn rownd wyth olaf Cwpan y Byd ddydd Sul mae'n naturiol bod y gêm gynderfynol rhwng y ddwy wlad yn 2011 yn fyw iawn yn y cof.

    "Mae'n siŵr bod un person yn enwedig wedi cael llond bol ar ateb cwestiynau am yr achlysur.

    "Cerdyn coch i gapten Cymru, Sam Warburton, ar ôl dim ond 18 munud newidiodd gwrs y gêm a thynged Cymru yn y gystadleuaeth, wrth iddyn nhw golli 9-8."

    Gohebydd Rygbi BBC Cymru, Gareth Charles sydd wedi bod yn edrych 'nôl ar y rownd gynderfynol honno yn 2011 yn ei flog diweddara' i Cymru Fyw.

    Sam WarburtonFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Cafodd Sam Warburton ei anfon o'r maes wedi'r dacl yma ar Vincent Clerc wyth mlynedd yn ôl

  12. Tîm Ffraincwedi ei gyhoeddi 08:07 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Mae Ffrainc wedi gwneud pum newid i'r tîm drechodd Tonga yn y grŵp i herio Cymru heddiw.

    Ond dim ond un newid ydy hynny o'r tîm lwyddodd i drechu Ariannin, gyda Bernard Le Roux yn cymryd lle Arthur Iturria yn yr ail reng.

    Y cefnwr Maxime Medard ydy'r unig chwaraewr sy'n rhan o'r tîm yma a'r un drechodd Cymru yn 2011.

    Maxime MedardFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Maxime Medard yn rhan or tîm drechodd Cymru yng Nghwpan y Byd 2011

    Maxime Medard; Damian Penaud, Virimi Vakatawa, Gael Fickou, Yoann Huget; Romain Ntamack, Antoine Dupont; Jefferson Poirot, Guilhem Guirado (C), Rabah Slimani, Bernard Le Roux, Sebastien Vahaamahina, Wenceslas Lauret, Gregorie Alldritt, Charles Ollivon.

    Eilyddion: Camille Chat, Cyril Baille, Emerick Setiano, Paul Gabrillagues, Louis Picamoles, Baptiste Serin, Camille Lopez, Vincent Rattez.

  13. Ai Oita fydd diwedd y daith i Gatland?wedi ei gyhoeddi 08:03 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    BBC Radio Cymru

    Mae'n bosib gwrando ar sylwebaeth Radio Cymru yn fyw o Stadiwm Oita yn ein llif byw trwy glicio ar eicon y rhaglen.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Gatland yn amsugno’r awyrgylchwedi ei gyhoeddi 08:01 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Catrin Heledd
    Gohebydd S4C yn Japan

    Mae’r prif hyfforddwr, Warren Gatland newydd fod yn crwydro o amgylch y cae fel pe bai’n amsugno’r awyrgylch.

    Does 'na'r un chwaraewr wrth ei ymyl, mae e yn ei fyd bach ei hun.

    'Sgwn i be' sy’n mynd trwy ei feddwl?

    Mae ‘na bosibilrwydd taw dyma fydd ei gêm ola' gyda Chymru.

    Mae e eisiau cofio pob un eiliad o’r pnawn.

    Warren GatlandFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. 'Dim rheswm synhwyrol i gredu bydd Cymru'n colli'wedi ei gyhoeddi 08:00 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Oita

    Does dim rheswm synhwyrol i gredu bydd Cymru yn colli i Ffrainc heddiw – ond dyw Les Bleus ddim yn dîm rhesymol.

    Ma’ pawb yn gyfarwydd â’r hen cliché am ‘ba dîm Ffrengig fydd yn troi lan’ ac ma’r tîm presennol wedi bod yn driw i’r dywediad yn Japan wrth chwarae’n anghyson ar y cae a ffraeo ymysg ei gilydd oddi ar y cae.

    Yn y cyfamser, ma’ Cymru wedi bod mewn hwyliau da ac yn chwarae’n gyson. Ond eto, dyma oedd y sefyllfa yn 2011.

    Collodd Ffrainc i Tonga yn eu grŵp ac roedd y chwaraewyr wedi troi yn erbyn yr hyfforddwr Marc Lievremont, tra roedd Cymru’n chwarae’n wych cyn cwrdd â’r Ffrancwyr yn y rownd gynderfynol.

    A does dim angen atgoffa cefnogwyr a chwaraewyr Cymru sut aeth y gêm yna yn Seland Newydd…

  16. Cymru'n teimlo'n gartrefol dan do?wedi ei gyhoeddi 07:57 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Mae Stadiwm Oita yn dechrau llenwi, a bydd y 40,000 o seddi yn llawn ar gyfer y gêm heddiw.

    Roedd hi'n llawn ddoe hefyd - yma y cafodd y gêm yn rownd yr wyth olaf rhwng Lloegr ac Awstralia ei chynnal - felly mae'n benwythnos prysur i'r trefnwyr yn Oita.

    Nid dyma'r tro cyntaf i Gymru chwarae yn y stadiwm chwaith - yma y trechon nhw Fiji yn gynharach yn y bencampwriaeth.

    Mae'n bosib y bydd Cymru'n teimlo'n gartrefol yma, a hynny gan fod to ar y stadiwm - un tebyg i Stadiwm Principality - a bydd hwnnw ar gau ar gyfer y bum gêm sy'n cael eu cynnal yma yn ystod Cwpan y Byd.

    Stadiwm OitaFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. Llwybr Ffrainc i rownd yr wyth olafwedi ei gyhoeddi 07:55 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Fe ddechreuodd Ffrainc eu hymgyrch gyda gêm dyngedfennol yn erbyn Ariannin, gyda nifer yn rhagweld mai enillwyr y gêm hon fyddai'n dod yn ail yn y grŵp.

    Llwyddon nhw i ennill honno o 23-21, cyn mynd ymlaen i drechu'r Unol Daleithiau o 33-9 a Tonga o 23-21.

    Oherwydd teiffŵn Hagibis cafodd eu gêm grŵp olaf yn erbyn Lloegr ei chanslo, gan eu hatal rhag cael cyfle i orffen ar y brig.

    Dydy'r Ffrancwyr ddim wedi chwarae ers pythefnos felly, ond cawn weld os mai mantais neu anfantais fydd hynny wrth i'r gêm ddechrau.

    FfraincFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r Ffrancwyr wedi cael dwy fuddugoliaeth agos dros Ariannin a Tonga

  18. Mae'r ardal gefnogwyr yn Oita yn bywiogi!wedi ei gyhoeddi 07:52 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Disgrifiad,

    Blas o'r awyrgylch yn yr ardal gefnogwyr

  19. Y gystadleuaeth hyd yma i Gymruwedi ei gyhoeddi 07:50 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Fe ddechreuodd Cymru eu hymgyrch yn Japan gyda pherfformiad gwych wrth drechu Georgia o 43-14.

    Ond roedd gwell i ddod, wrth iddyn nhw guro Awstralia yn yr ail gêm yn y grŵp, a hynny o 29-25.

    Daeth buddugoliaethau dros Fiji (29-17) ac Uruguay (35-13) wedi hynny, gan olygu bod Cymru'n gorffen ar frig Grŵp D.

    Cymru ydy'r ffefrynnau heddiw felly, ac maen nhw'n gobeithio bod yn y rownd gynderfynol yn erbyn Japan neu Dde Affrica ymhen wythnos.

    CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  20. Mae'r garfan wedi cyrraedd!wedi ei gyhoeddi 07:46 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter