Crynodeb

  • Aaron Wainwright a Ross Moriarty yn sgorio ceisiau Cymru

  • Vahaamahina, Ollivon a Vakatawa yn croesi i Ffrainc

  • Vahaamahina yn cael cerdyn coch am daro Wainwright

  • Cymru i herio Japan neu Dde Affrica yn y rownd gynderfynol

  • Cliciwch yr eicon am sylwebaeth fyw Radio Cymru

  1. Ysgol y Garnedd yn dymuno lwc!wedi ei gyhoeddi 07:44 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  2. Ergyd i Gymruwedi ei gyhoeddi 07:41 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Oita

    Ergyd sylweddol i Gymru bod Jonathan Davies wedi gorfod tynnu’n ôl o’r tîm i wynebu Ffrainc oherwydd anaf i’w ben-glin.

    Dyw hi ddim yn hollol annisgwyl wrth ystyried pa mor ddigalon oedd Davies ar ôl dioddef yr anaf yn ystod y fuddugoliaeth dros Fiji.

    Mae canol cae Cymru yn edrych yn fregus nawr, gan fod y maswr Dan Biggar a'r canolwr Hadleigh Parkes hefyd wedi dioddef anafiadau yn ddiweddar.

    Bydd hwn yn her enfawr i Owen Watkin, sy'n cymryd lle Davies yn y tîm, tra bod Leigh Halfpenny nawr ar y fainc.

  3. 'Does neb yn barod i fynd gytre eto'wedi ei gyhoeddi 07:36 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    BBC Cymru Fyw

    Prop Cymru, Wyn Jones oedd un fu'n siarad â'r wasg cyn y gêm yn erbyn Ffrainc heddiw.

    Dywedodd nad oedd y garfan yn barod i ddychwelyd adref eto, ond fe all yr ornest yn erbyn y Ffrancwyr fod y gêm olaf i Warren Gatland wrth y llyw.

    Disgrifiad,

    Wyn Jones: Does neb eisiau mynd gytre ddydd Llun'

  4. Dim Jonathan Davies oherwydd anafwedi ei gyhoeddi 07:33 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Gareth Charles
    Gohebydd Rygbi BBC Cymru

    Ergyd fawr i Gymru cyn eu gem hollbwysig yn erbyn Ffrainc yn rownd wyth olaf Cwpan y Byd.

    Mae canolwr y Scarlets, Jonathan Davies wedi gorfod tynnu allan oherwydd anaf i’w ben-glin ddioddefodd yn erbyn Fiji.

    Owen Watkin fydd yn dechrau yn ei le gyda Leigh Halfpenny ar y fainc

    Jonathan DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
  5. Croeso i'r llif byw!wedi ei gyhoeddi 07:30 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Croeso i'n llif byw arbennig ar gyfer y gêm rhwng Cymru a Ffrainc yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Japan.

    Mae'r timau wedi'u dewis, a'r paratoi ar ben, dim ond un peth sydd ar ôl - chwarae!

    Yr unig dro i'r ddwy wlad gwrdd yng Nghwpan y Byd o'r blaen oedd yn y rownd gynderfynol yn 2011, pan gafodd Cymru eu trechu o 9-8, gyda'r capten Sam Warburton yn cael ei yrru o'r maes.

    Gobeithio am ganlyniad tra gwahanol heddiw felly!