Crynodeb

  • Aaron Wainwright a Ross Moriarty yn sgorio ceisiau Cymru

  • Vahaamahina, Ollivon a Vakatawa yn croesi i Ffrainc

  • Vahaamahina yn cael cerdyn coch am daro Wainwright

  • Cymru i herio Japan neu Dde Affrica yn y rownd gynderfynol

  • Cliciwch yr eicon am sylwebaeth fyw Radio Cymru

  1. Cerdyn coch haeddiannolwedi ei gyhoeddi 09:36 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Cymru 10-19 Ffrainc

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Oita

    Cerdyn coch haeddiannol i Sebastien Vahaamahina, gollodd ei ben yn llwyr fan 'na.

    Roedd y clo'n arwr i'w dîm efo'i gais agoriadol ond roedd y benelin yna'n warthus.

    Camgymeriad enfawr arall ar ôl iddo daflu pas wyllt gafodd ei ddal gan George North wrth i Gymru guro Ffrainc yng ngêm gynta'r Chwe Gwlad eleni.

    CochFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. 'Gadael ei dîm i lawr'wedi ei gyhoeddi 09:32 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Andrew Coombs
    Cyn-glo Cymru a sylwebydd Radio Cymru

    "Dylai Vahaamahina ddim cael dod yn ôl ar gae rygbi am sbel hir ar ôl hwnna… mae wedi gadael ei dîm i lawr."

    cerdyn coch
  3. Cerdyn coch i Ffrainc!wedi ei gyhoeddi 09:30 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    49' Cymru 10-19 Ffrainc

    Cerdyn coch i glo Ffrainc, Sebastien Vahaamahina!

    Mae'n amlwg wedi taro Aaron Wainwright yn ei ben gyda'i benelin mewn sgarmes symudol - does gan Jaco Peyper ddim opsiwn ond dangos cerdyn coch.

    Sgoriwr cais cyntaf Ffrainc wedi'i yrru o'r maes felly - all hynny ysbrydoli Cymru?

    CochFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. Rygbi yn y capel!wedi ei gyhoeddi 09:27 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Nia Cerys
    Gohebydd BBC Cymru

    Criw Capel Berea Newydd, Bangor, wedi dod yn gynnar cyn yr oedfa Ddiolchgarwch - profiad newydd gwylio'r rygbi yn y festri!

    Cefnogwyr
  5. Bygythiad Lopezwedi ei gyhoeddi 09:25 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Cymru 10-19 Ffrainc

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Oita

    Camille Lopez yn agos â chic adlam fan 'na. Sgoriodd maswr Ffrainc â chic debyg yn erbyn Cymru yn ystod y Chwe Gwlad.

    Bydd rhaid i Gymru fod yn wyliadwrus yn erbyn bygythiad cicio'r maswr.

  6. Cais Lopez am gôl adlam yn methuwedi ei gyhoeddi 09:24 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    45' Cymru -10-19 Ffrainc

    Mae Lopez yn amlwg yn hyderus, gan geisio am gôl adlam o bron i hanner ffordd!

    Ond mae'n methu i'r dde o'r pyst, gan roi'r cyfle i Gymru ei chicio i ffwrdd.

  7. Yr ail hanner yn dechrau!wedi ei gyhoeddi 09:20 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    41' Cymru 10-19 Ffrainc

    Mae maswr Ffrainc, Romain Ntamack wedi cael ei eilyddio yn ystod hanner amser, gyda Camille Lopez yn dod ymlaen yn ei le.

    Ef sy'n cicio tuag at chwaraewyr Cymru i ddechrau'r 40 munud olaf.

  8. Colofn Ken: 'Un gêm ar y tro'wedi ei gyhoeddi 09:18 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Gyda Chymru ond tair buddugoliaeth i ffwrdd o fod yn bencampwyr byd, mae bachwr Cymru a'r Scarlets Ken Owens wedi bod yn asesu'r sefyllfa yn ei golofn ddiweddara'.

    Y tro yma mae'n trafod beth sydd wedi newid nawr bod y grwpiau ar ben, y golled yn erbyn y Ffrancwyr yn y rownd gynderfynol yn 2011 a thynnu coes y prop, Rhys Carré.

    Ken Owens
  9. 'Cymru'n lwcus o fod dal ynddi'wedi ei gyhoeddi 09:13 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Andrew Coombs
    Cyn-glo Cymru a sylwebydd Radio Cymru

    Ar Radio Cymru mae cyn-glo Cymru yn feirniadol o dactegau Cymru hyd yn hyn.

    "Dwi ddim yn gwybod pam ein bod yn chwarae y ffordd yma," meddai.

    "Fe allai fod yn llawer gwaeth. Ar hyn o bryd rydym yn lwcus o fod dal ynddi."

  10. Clwb Rygbi Bangor dan ei sangwedi ei gyhoeddi 09:11 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Er fod y gêm yn gynnar ar fore Sul yma yng Nghymru, mae clybiau rygbi ar draws y wlad yn siŵr o fod yn orlawn!

    Dyma'r olygfa yng Nghlwb Rygbi Bangor y bore 'ma.

    CRB
  11. Rhywbeth i chi ymarfer hanner amser!wedi ei gyhoeddi 09:08 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Facebook

    Dyma i chi fersiwn arbennig o'r Anthem Genedlaethol!

    Rhywbeth i chi ymarfer yn ystod hanner amser!

    Mae’n ddrwg gennym, rydym yn cael trafferth dangos y cynnwys hwn.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Facebook
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys Facebook.
  12. Yr hanner cyntaf yn dod i benwedi ei gyhoeddi 09:06 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    40' Cymru 10-19 Ffrainc

    Hanner cyntaf egnïol yn Stadiwm Oita!

    Ffrainc yn bendant yn cael y gorau ohoni, ac mae mwyafrif helaeth y chwarae yn hanner Cymru.

    Dim syndod felly bod Dan Biggar yn ddigon hapus cicio'r bêl dros yr ystlys i ddod â'r hanner cyntaf i ben.

    Hanner amser
  13. Trafferth Moriartywedi ei gyhoeddi 09:03 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Cymru 10-19 Ffrainc

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Oita

    Pan enwodd Warren Gatland dîm Cymru i wynebu Ffrainc, cafodd y cwestiwn ei ofyn os oedd hi'n benderfyniad anodd gadael Ross Moriarty ar y fainc.

    Ateb syml Gatland oedd: "Na." Dyna ni.

    Byse chi'n disgwyl bod y hyfforddwr yn anhapus iawn â Moriarty ar ôl ei gerdyn melyn - sydd 'di costio saith pwynt i Gymru hyd yn hyn.

    MoriartyFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. Ffrainc yn methu cic gosbwedi ei gyhoeddi 09:01 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    38' Cymru 10-19 Ffrainc

    Mae Ffrainc wedi bod yn wych yn yr hanner cyntaf, gan ddenu trosedd arall gan Gymru yn eu hanner eu hun.

    Ond dydy Ntamack ddim yn ddigon cywir, gan daro'r postyn am yr ail waith yn y gêm hyd yma.

  15. Trydydd cais i Ffrainc!wedi ei gyhoeddi 08:54 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    31' Cymru 10-19 Ffrainc

    Dwylo da gan olwyr Ffrainc yn rhoi cyfle i'r canolwr Virimi Vakatawa gyrraedd y llinell gais, gan osgoi Liam Williams ac Wyn Jones gyda rhediad pwerus.

    Ffrainc yn cymryd mantais o'r ffaith mai dim ond 14 chwaraewr sydd gan Gymru oherwydd y cerdyn melyn.

    Mae Ntamack yn ychwanegu'r trosiad hefyd.

    VakatawaFfynhonnell y llun, Getty Images
  16. Rhagor o anafiadauwedi ei gyhoeddi 08:51 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Cymru 10-12 Ffrainc

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Oita

    Ma' problemau anafiadau Cymru yn ddi-baid.

    Josh Navidi yw'r diweddaraf i orfod gadael y cae. Colled fawr arall i Gymru.

    Ross Moriarty sydd ymlaen yn ei le - ond ma fe oddi ar y cae nawr ar ôl derbyn cerdyn melyn am dacl uchel ar Gael Fickou.

    anaf navidi
  17. Cerdyn melyn i Ross Moriartywedi ei gyhoeddi 08:50 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    29' Cymru 10-12 Ffrainc

    Dydy Ross Moriarty heb gael y dechrau gorau'n bendant!

    Mae'n cael ei gosbi am dacl uchel o amgylch gwddf Gael Fickou, ac yn gweld cerdyn melyn.

    Cerdyn Melyn
  18. Anaf i Josh Navidiwedi ei gyhoeddi 08:48 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    28' Cymru 10-12 Ffrainc

    Ergyd arall i Gymru o ran anafiadau, gyda Josh Navidi yn gorfod gadael y maes.

    Mae'n debyg mai anaf i'w ben-glin yw'r broblem, ond bydd yr eilydd Ross Moriarty yn awyddus i brofi ei fod yn haeddu lle yn y 15 sy'n dechrau.

  19. 'Ffrainc yn ennill y frwydr gicio'wedi ei gyhoeddi 08:45 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Andrew Coombs
    Cyn-glo Cymru a sylwebydd Radio Cymru

    "Mae Ffrainc yn ennill y frwydr gicio ar hyn o bryd, ond maen nhw'n rhoi pwysau ar ei hun.

    "Dy’n nhw methu cadw’r bêl yn y dacl weithiau."

  20. Y Ffrainc *yma*...wedi ei gyhoeddi 08:40 Amser Safonol Greenwich+1 20 Hydref 2019

    Twitter

    Mae Aled Hughes, cyflwynydd BBC Radio Cymru yn bryderus...

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter