Crynodeb

  • Cic hwyr Handre Pollard yn rhoi De Affrica nôl ar y blaen

  • Damian de Allende yn croesi am y cais cyntaf ar ôl 57 munud

  • Josh Adams yn croesi yn y gornel i ddod â Chymru nôl; Halfpenny'n trosi

  • Cymru'n methu â chyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf erioed

  1. Diolch am ymunowedi ei gyhoeddi 11:24 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    Dyna ni felly am heddiw - Cymru'n dod mor agos at gyrraedd rownd derfynol Cwpan y Byd, ond yn boddi yn ymyl y lan unwaith eto er gwaethaf perfformiad arwrol.

    Ymlaen at wythnos nesaf felly - a fydd 'na un ffarwel olaf i Warren Gatland yn erbyn ei wlad enedigol?

    dan biggar a leigh halfpennyFfynhonnell y llun, Getty Images
  2. 'Digon o gymeriad yna'wedi ei gyhoeddi 11:18 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    Fe rown ni'r gair olaf i Ken Owens, sydd wedi dweud bod "un neu ddau o gamgymeriadau" wedi amddifadu Cymru o'r cyfle i "wneud bach o hanes".

    "Roedd e'n gêm dynn, ond doedd dim byd rhwng y timau oni bai am dri phwynt," meddai'r bachwr.

    "Do'n i methu cwestiynu yr awch a'r angerdd oedd gan y bois o'r munud cyntaf.

    "Roedd digon o gymeriad yna."

    Ychwanegodd y bydd y tîm dal eisiau gorffen eu hymgyrch ar nodyn uchel drwy drechu Seland Newydd yr wythnos nesaf - a hynny yng ngêm olaf Warren Gatland wrth y llyw.

    "Nhw yw'r unig dîm ni heb guro yn y ddwy flynedd diwethaf, felly mae cyfle i ni orffen yn drydydd nawr."

  3. De Affrica yn dathluwedi ei gyhoeddi 11:10 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    De Affrica sy'n dathlu felly - fe fyddan nhw'n wynebu Lloegr yn y rownd derfynol ddydd Sadwrn.

    de affricaFfynhonnell y llun, Getty Images
  4. 'Nid ein diwrnod ni'wedi ei gyhoeddi 11:07 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    Mae capten Cymru Alun Wyn Jones hefyd wedi cydnabod mai "nid ein diwrnod ni" oedd hi, gan ddweud eu bod wedi bod mewn brwydr gorfforol iawn heddiw.

    Mae'n gorffen drwy ddweud: "Dwi dal yn falch o wisgo'r crys yma, a chynrychioli pawb oedd yma yn y stadiwm heddiw."

  5. 'De Affrica yn haeddu ennill'wedi ei gyhoeddi 11:03 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    Mae Warren Gatland wedi cyfaddef bod De Affrica wedi "haeddu ennill".

    "Roedd e'n gêm gorfforol, anodd," meddai hyfforddwr Cymru. "Pob lwc iddyn nhw yn y ffeinal."

    Anghytuno â hynny mae Deiniol Jones yn ei ddadansoddiad ar S4C, gan ddweud bod angen rhoi clod i "ddewrder Cymru" wrth frwydro'u ffordd yn ôl i mewn i'r gêm.

  6. 'Siom aruthrol'wedi ei gyhoeddi 10:59 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    ST: Cymru 16-19 De Affrica

    Wrth siarad gyda Catrin Heledd ar ddiwedd y gêm, mae Rhys Patchell wedi cydnabod bod Cymru wedi bod mewn "brwydr" heddiw.

    "Mae siom aruthrol yna, ond pob clod i Dde Affrica," meddai.

    cymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. Siom a balchderwedi ei gyhoeddi 10:57 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    ST: Cymru 16-19 De Affrica

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter

    I osgoi neges twitter 2

    Diwedd neges twitter 2
  8. Dyna niwedi ei gyhoeddi 10:52 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    80' Cymru 16-19 De Affrica

    Mae Cymru allan o Gwpan Rygbi'r Byd.

    De Affrica yn rhy gryf i ddynion Warren Gatland heddiw.

    de affricaFfynhonnell y llun, Getty Images
  9. Bron ar benwedi ei gyhoeddi 10:49 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    79' Cymru 16-19 De Affrica

    Llai na dau funud yn weddill. Mae amser yn rhedeg allan i Gymru, gyda sgrym ymosodol i Dde Affrica...

  10. Y Boks ar y blaen - etowedi ei gyhoeddi 10:46 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    76' Cymru 16-19 De Affrica

    Ai honna sy'n mynd i ennill y gêm i Dde Affrica?

    Handre Pollard yn cicio rhwng y pyst o'r asgell chwith.

    pollardFfynhonnell y llun, Getty Images
  11. Liam pwy?wedi ei gyhoeddi 10:42 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  12. Creu hanes?wedi ei gyhoeddi 10:39 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    70' Cymru 16-16 De Affrica

    Catrin Heledd
    Gohebydd chwaraeon yn Yokohama

    Bois bach. Mae ‘na densiwn.

    Er bod rhai ‘di cwyno bod bod yr hanner cynta’ yn ddiflas, alle neb ddweud hynny am yr ail hanner.

    Mae’n rhaid i Gymru reoli’r gêm nawr am y deg munud ola’. Gwneud hynny, cadw eu pennau ac fe fydd y llyfrau hanes yn cael eu hail sgwennu. Mae’r stadiwm wedi deffro!

  13. Beth os yw hi'n gyfartal?wedi ei gyhoeddi 10:38 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    69' Cymru 16-16 De Affrica

    Os yw'r gêm yn gorffen yn gyfartal ar ôl 80 munud gyda llaw, fe fydd 'na 20 munud o amser ychwanegol yn cael ei chwarae.

    Os ydy'r ddau dîm dal yn gyfartal ar ôl hynny, bydd 10 munud arall yn cael ei chwarae, ble bydd y tîm cyntaf i sgorio pwyntiau yn ennill.

    Ac os nad ydy hynny hyd yn oed yn ddigon i wahanu'r ddau, fe fydd 'na gystadleuaeth gicio i benderfynu pwy sy'n mynd â hi.

  14. Dathlu yng Nghlwb Rygbi Aberystwythwedi ei gyhoeddi 10:36 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Trosiad i Gymru!wedi ei gyhoeddi 10:36 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    66' Cymru 16-16 De Affrica

    Leigh Halfpenny gyda'r trosiad!! Mae'n gwneud yn wych i roi honna rhwng y pyst.

    Mae Biggar wedi cael ei dynnu oddi ar y cae, gyda Rhys Patchell ymlaen yn ei le.

  16. CAIS I GYMRU!!wedi ei gyhoeddi 10:33 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    65' Cymru 14-16 De Affrica

    Josh adams yn tirio yn y gornel!

    Penderfyniad dewr gan Gymru - yn dilyn pwysau mawr wrth llinell gais De Affrica - yn penderfynu mynd am y sgrym, lle mae'r Boks wedi bod yn gryf.

    Rhywsut, Cymru'n dal eu gafael arni ac yn lledu i Adams sy'n croesi am gais hollbwysig. Ffiw!

    AdamsFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. Diweddariadwedi ei gyhoeddi 10:33 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    65' Cymru 9-16 De Affrica

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Genedlaethol Yokohama

    Penderfyniad dewr, neu twp, i gymryd sgrym fan hyn?

  18. CAIS I DDE AFFRICAwedi ei gyhoeddi 10:26 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    58' Cymru 9-16 De Affrica

    Y Boks sy'n croesi gyntaf. Damian de Allende yn croesi'r linell gais. Pollard yn trosi.

    Mewn gêm dynn, mae'n ergyd fawr i Gymru...

    caisFfynhonnell y llun, Getty Images
    caisFfynhonnell y llun, Getty Images
  19. Codi'r tempo?wedi ei gyhoeddi 10:21 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    53' Cymru 9-9 De Affrica

    Garan Evans
    Cyn-gefnwr Cymru a sylwebydd BBC Radio Cymru

    Tomos Wiliams ar y cae - gobeithio bydd y tempo yn codi rhyw ychydig nawr.

  20. Gwynt twyllodruswedi ei gyhoeddi 10:19 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    51' Cymru 9-9 De Affrica

    Ddim yn ddelfrydol pan 'dych chi'n ceisio chwarae gêm gicio...