Crynodeb

  • Cic hwyr Handre Pollard yn rhoi De Affrica nôl ar y blaen

  • Damian de Allende yn croesi am y cais cyntaf ar ôl 57 munud

  • Josh Adams yn croesi yn y gornel i ddod â Chymru nôl; Halfpenny'n trosi

  • Cymru'n methu â chyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf erioed

  1. Yr ystadegau'n ffafrio Cymru?wedi ei gyhoeddi 08:28 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    Cymru v De Affrica (cic gyntaf 09:00)

    Gareth Charles
    Gohebydd Rygbi BBC Cymru

    Mae Cymru'n parchu ond nid yn ofni'r Springboks, ac mae'r ystadegau moel yn dangos pam.

    Fe enillodd Cymru un o'r 29 gêm gynta' rhwng y ddwy wlad ond maen nhw wedi ennill pump o'r chwech ddiwetha'.

    A sôn am ystadegau, dim ond un o'u 10 diwetha' mae De Affrica wedi ennill pan mae Jerome Garces yn dyfarnu.

    Darllenwch yr erthygl yn llawn yma.

  2. Mae'r chwaraewyr wedi cyrraedd hefydwedi ei gyhoeddi 08:26 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    Cymru v De Affrica (cic gyntaf 09:00)

    Leigh HalfpennyFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Leigh Halfpenny sy'n cymryd lle Liam Williams fel cefnwr...

    Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    ...a'r bytholwyrdd Alun Wyn Jones sy'n gapten unwaith eto

  3. ''Dan ni'n mynd i ennill'wedi ei gyhoeddi 08:22 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    Mae'r Cymry allan yn Japan yn ffyddiog - ond fyddan nhw mor hapus â hyn erbyn y chwiban derfynol?

    Disgrifiad,

    Cefnogwyr Cymru cyn gem De Affrica

  4. Y cefnogwyr yn cyrraeddwedi ei gyhoeddi 08:17 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    Cymru v De Affrica (cic gyntaf 09:00)

    Lowri Roberts
    Gohebydd chwaraeon yn Yokohama

    Aberaeron
    Disgrifiad o’r llun,

    Ma' bois Aberaeron wedi cyrraedd!

    Cydweli
    Disgrifiad o’r llun,

    Criw Cydweli yn canu

    Tu allan i'r stadiwm
    Disgrifiad o’r llun,

    Y daith i'r stadiwm...

  5. Halfpenny yn cychwynwedi ei gyhoeddi 08:10 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    Cymru v De Affrica (cic gyntaf 09:00)

    Mae Jonathan Davies yn dechrau ar ôl gwella o anaf i'w ben-glin, gydag Owen Watkin - wnaeth gymryd lle Davies yn y tîm yn ebryn Ffrainc - ar y fainc.

    Leigh Halfpenny sy'n safle'r cefnwr yn lle Liam Williams, yn dilyn y newyddion ddydd Iau y bydd yn colli gweddill y gystadleuaeth oherwydd anaf i'w ffêr.

    XV CYMRU

    Leigh Halfpenny; George North, Jonathan Davies, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Dan Biggar, Gareth Davies; Wyn Jones, Ken Owens, Tomas Francis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (C), Aaron Wainwright, Ross Moriarty, Justin Tipuric.

    Eilyddion: Elliot Dee, Rhys Carre, Dillon Lewis, Adam Beard, Aaron Shingler, Tomos Williams, Rhys Patchell, Owen Watkin.

    Leigh HalfpennyFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Y Cymry'n ffyddiog yn Japanwedi ei gyhoeddi 08:08 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    Cymru v De Affrica (cic gyntaf 09:00)

    Rhai o gefnogwyr Cymru sy'n rhannu eu profiadau nhw o fod yn Japan - y bobl, y bwyd a'r rygbi!

  7. Neges gan Rambowedi ei gyhoeddi 08:05 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    Cymru v De Affrica (cic gyntaf 09:00)

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Cymru'n benderfynol ac yn hyderuswedi ei gyhoeddi 08:03 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    Cymru v De Affrica (cic gyntaf 09:00)

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Genedlaethol Yokohama

    Ma' canolfan y cyfryngau yma yn Stadiwm Genedlaethol Yokohama yn llawn dop, ac mae rhai o'r Cymry yma yn teimlo'n eitha nerfus am y gêm fawr.

    Diolch byth bod Warren Gatland a'i chwaraewyr mor hyderus.

    Dwi 'di bod yn siarad 'da nhw drwy'r wythnos yma, ac mae nhw wrth eu boddau bod cymaint o bobl yn credu mai De Affrica yw'r ffefrynnau.

    Yn ôl Gatland, ma' llawer gwell 'da Chymru i fod 'dan y radar' ar adegau fel hyn, ac ma'r garfan i gyd yn benderfynol o gyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf yn hanes y wlad.

  9. Llongyfarchiadau am gofio troi'r clociau!wedi ei gyhoeddi 08:00 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    Cymru v De Affrica (cic gyntaf 09:00)

    Bore da a chroeso mawr i'r llif byw wrth i Gymru baratoi i wynebu De Affrica yn rownd gynderfynol Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan.

    Mae Cymru'n brwydro am le yn y rownd derfynol am y tro cyntaf erioed. A fydd Cymru'n llwyddo i greu hanes heddiw?