Crynodeb

  • Cic hwyr Handre Pollard yn rhoi De Affrica nôl ar y blaen

  • Damian de Allende yn croesi am y cais cyntaf ar ôl 57 munud

  • Josh Adams yn croesi yn y gornel i ddod â Chymru nôl; Halfpenny'n trosi

  • Cymru'n methu â chyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf erioed

  1. Ddim yn glasurwedi ei gyhoeddi 10:17 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    49' Cymru 9-9 De Affrica

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Genedlaethol Yokohama

    Dyw hon ddim yn glasur, yw hi?

    Ond ddim mor wael â gêm chwaraes i dros Ysgol Plasmawr blynyddoedd yn ôl pan guron ni Ysgol Stanwell 3-0.

  2. Newid y mewnwyrwedi ei gyhoeddi 10:16 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    49' Cymru 9-9 De Affrica

    Gareth Davies, ar achlysur ei 50fed cap, yn dod oddi ar y maes - Tomos Williams ymlaen yn ei le.

    Ychydig o gamgymeriadau gan y Boks yn rhoi hwb i hyder y Cymry ar hyn o bryd.

  3. Cymru 'nôl ynddiwedi ei gyhoeddi 10:13 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    46' Cymru 9-9 De Affrica

    Biggar yn unioni'r sgôr gyda chic gosb yn syth lawr y canol.

    Dechrau addawol iawn i'r ail hanner.

  4. Dal i gredu yn Aberystwythwedi ei gyhoeddi 10:09 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    43' Cymru 6-9 De Affrica

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Co ni off!wedi ei gyhoeddi 10:06 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    41' Cymru 6-9 De Affrica

    Biggar yn cychwyn yr ail hanner...

    BiggarFfynhonnell y llun, Getty Images
  6. Chwilio am ysbrydoliaeth?wedi ei gyhoeddi 10:01 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    Hanner amser: Cymru 6-9 De Affrica

    BBC Radio Cymru

    Dyma anthem Radio Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2019.

    Rhywbeth i dawelu'r nerfau o bosib...

    Disgrifiad,

    Gwilym - 'Gwalia'

  7. Dim pawen lawenwedi ei gyhoeddi 09:58 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    Hanner amser: Cymru 6-9 De Affrica

    Ma' Wil - mascot clwb rygbi Aberystwyth - yn poeni...

    mascot
  8. Y Saeson yn hapus?wedi ei gyhoeddi 09:56 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    Hanner amser: Cymru 6-9 De Affrica

    Gareth Charles
    Gohebydd Rygbi BBC Cymru

    Dwi ddim yn credu y bydd Eddie Jones [prif hyfforddwr Lloegr] na John Mitchell [hyfforddwr amddiffyn Lloegr] yn crynu yn eu 'sgidia ar ôl y deugain munud yna.

  9. Mwy o anafiadauwedi ei gyhoeddi 09:52 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    Hanner amser: Cymru 6-9 De Affrica

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Genedlaethol Yokohama

    Pryd ma'r anafiadau yma'n mynd i ddod i ben?

    Liam Williams a Josh Navidi wythnos dwethaf, Cory Hill, Gareth Anscombe, Taulupe Faletau ac Ellis Jenkins cyn y Cwpan Byd.

    Nawr ma' George North a Tomas Francis wedi gorfod gadael y cae hefyd.

    Sut bydd Cymru'n ymdopi? Bydd y tîm meddygol yn brysur yn ystod hanner amser.

  10. Egwylwedi ei gyhoeddi 09:52 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    Hanner amser: Cymru 6-9 De Affrica

    Cymru, er iddyn nhw orfod amddiffyn am gyfnodau hir, yn falch o fod o fewn triphwynt i'r Springboks.

    Ond a fydd yr anafiadau'n costio'n ddrud i Gymru fach?

  11. Pwyntiau i Gymru, ond North wedi'i anafuwedi ei gyhoeddi 09:50 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    40' Cymru 6-9 De Affrica

    Biggar yn llwyddo gyda chic gosb ar ôl cyfnod o pwyso gan Gymru.

    Ond clec arall i Gymru wrth i George North orfod gadael y cae gydag anaf. Owen Watkin, canolwr wrth reddf, sy'n dod ymlaen yn ei le ar yr asgell.

    George NorthFfynhonnell y llun, Getty Images
  12. Eilyddio i Gymruwedi ei gyhoeddi 09:44 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    36' Cymru 3-9 De Affrica

    Anaf arall i Gymru. Mae Tomas Francis yn ymlwybro oddi ar y cae gydag anaf cas i'w ysgwydd. Dillon Lewis sy'n cymryd lle'r prop.

    Tomas FrancisFfynhonnell y llun, Getty Images
  13. Amser am newid?wedi ei gyhoeddi 09:43 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    36' Cymru 3-9 De Affrica

    Emyr Lewis
    Cyn-wythwr Cymru a sylwebydd BBC Radio Cymru

    Mae'n rhaid i Gymru newid eu tactegau.

    Mae’n rhaid i ni gael y bêl a chynnal y momentwm.

  14. Boks yn ymestyn eu mantaiswedi ei gyhoeddi 09:41 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    35' Cymru 3-9 De Affrica

    Pollard yn llwyddo gyda'r gic gosb. Cymru'n cael eu cosbi unwaith eto, a'r Boks yn manteisio ar hynny.

    PollardFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. Cicio, cicio, cicio...wedi ei gyhoeddi 09:39 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    34' Cymru 3-6 De Affrica

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter 2

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter 2

    Nid pawb sy'n mwynhau'r gêm gicio yma...

  16. O un mewnwr i fewnwr arallwedi ei gyhoeddi 09:33 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    28' Cymru 3-6 De Affrica

    Lloyd Williams
    Mewnwr Cymru a sylwebydd BBC Radio Cymru

    Mae’r cicio wedi bod yn dda gan de Klerk ond mae’r asgellwyr yn gwneud y cicio i edrych hyd yn oed gwell.

    Ar hyn o bryd mae De Affrica yn ennill y frwydr cicio.

  17. Peint buan...wedi ei gyhoeddi 09:32 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    27' Cymru 3-6 De Affrica

    Cefnogwyr Gwaun Cae Gurwen wedi cyrraedd Aberystwyth

    Criw Aber
    Criw Aber
  18. 'Brwydr gorfforol'wedi ei gyhoeddi 09:30 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    25' Cymru 3-6 De Affrica

    Dafydd Pritchard
    Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Genedlaethol Yokohama

    Y disgwyl cyn y gêm oedd brwydr gorfforol ymhlith y blaenwyr a digon o gicio tu ôl i'r sgrym.

    Bydd De Affrica wrth eu boddau taw dyna sydd wedi digwydd ac mai nhw sydd ar y blaen.

    pel uchelFfynhonnell y llun, Getty Images
  19. 'Methu ymdopi'wedi ei gyhoeddi 09:29 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    24' Cymru 3-6 De Affrica

    Emyr Lewis
    Cyn-wythwr Cymru a sylwebydd BBC Radio Cymru

    Mae’r cicio’n llawer mwy effeithiol oddi wrth De Affrica.

    Dyw Cymru methu ymdopi gyda’r pwysau mae nhw’n rhoi arnom ni.

  20. Sdryglo'n y sgrymwedi ei gyhoeddi 09:26 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019

    22' Cymru 3-6 De Affrica

    Garan Evans
    Cyn-gefnwr Cymru a sylwebydd BBC Radio Cymru

    Bydd e’n rhoi pryder i dîm hyfforddi Cymru i weld sgrym De Affrica’n troi 'nôl mor gyflym.

    blaenwyrFfynhonnell y llun, Getty Images