Boks ar y blaenwedi ei gyhoeddi 09:24 Amser Safonol Greenwich 27 Hydref 2019
20' Cymru 3-6 De Affrica
Pollard yn cicio'r pwyntiau unwaith eto. Cymru yn cael eu cosbi yn dilyn sgrym nerthol gan y Springboks.
Mae blaenwyr y Boks yn gryf iawn...
Cic hwyr Handre Pollard yn rhoi De Affrica nôl ar y blaen
Damian de Allende yn croesi am y cais cyntaf ar ôl 57 munud
Josh Adams yn croesi yn y gornel i ddod â Chymru nôl; Halfpenny'n trosi
Cymru'n methu â chyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf erioed
20' Cymru 3-6 De Affrica
Pollard yn cicio'r pwyntiau unwaith eto. Cymru yn cael eu cosbi yn dilyn sgrym nerthol gan y Springboks.
Mae blaenwyr y Boks yn gryf iawn...
19' Cymru 3-3 De Affrica
Criw’r Clwb Hwylio Pwllheli yn dathlu pwyntiau cyntaf Cymru ym Mhlas Heli.
18' Cymru 3-3 De Affrica
Biggar yn dod â'r sgôr yn gyfartal gyda chic gosb wych o'r asgell chwith.
15' Cymru 0-3 De Affrica
Handre Pollard yn rhoi'r Springboks ar y blaen gyda chic gosb hawdd o flaen y pyst
12' Cymru 0-0 De Affrica
Dafydd Pritchard
Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Genedlaethol Yokohama
Dywedodd Warren Gatland echddoe i ni ddisgwyl ornest llawn cicio a, hyd yn hyn, dyna'r oll ma'r gêm yma wedi bod.
11' Cymru 0-0 De Affrica
Garan Evans
Cyn-gefnwr Cymru a sylwebydd BBC Radio Cymru
Hanner cyfle i Gymru… mae’r gobeithion yn codi rhywfaint.
10' Cymru 0-0 De Affrica
Dafydd Pritchard
Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Genedlaethol Yokohama
Roedd Aaron Wainwright yn atgoffa rhywun o chwaraewr arall i wisgo'r crys rhif chwech dros Gymru - Dan Lydiate - efo'r dacl isel ardderchog yna i roi'r cyfle i Alun Wyn Jones rhyngipio'r bêl.
10' Cymru 0-0 De Affrica
Dechrau cyflym i'r gêm. De Affrica yn ceisio targedu Halfpenny gyda'r bêl uchel, ond Cymru'n dal eu tir.
Sgrym arall i Gymru yn agos i'r hanner, Cymru'n bygwth a Josh Adams yn bylchu ond pas Jonathan Davies ymlaen, medd y dyfarnwr. Addawol!
Cymru v De Affrica
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cymru v De Affrica (cic gyntaf 09:00)
Mae'r anthemau ar ben. Ken Owens yn bloeddio canu Hen Wlad Fy Nhadau fel arfer!
Dyma ni, 80 munud anferth i rygbi Cymru...
Cymru v De Affrica (cic gyntaf 09:00)
Dafydd Pritchard
Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Genedlaethol Yokohama
Gyda llaw, oes unrhywun erioed wedi gweld prif hyfforddwr De Affrica, Rassie Erasmus, a'r canwr Donnie Osmond yn yr un ystafell?
Tebygrwydd anhygoel.
Cymru v De Affrica (cic gyntaf 09:00)
Mae'r timau allan yn cerdded allan ac yn barod ar gyfer yr anthemau.
Sut mae'r nerfau?
Cymru v De Affrica (cic gyntaf 09:00)
Dafydd Pritchard
Gohebydd chwaraeon yn Stadiwm Genedlaethol Yokohama
Treuliodd Rassie Erasmus, cyfarwyddwr rygbi De Affrica, amser hir yn gwylio Cymru'n ymarfer eu sgrymiau a'u sgarmesi symudol cyn i'r timau ddychwelyd i'r ystafelloedd newid.
Tybed faint - os unrhywbeth - sy'n bosib dysgu am wrthwynebwyr mor agos at y gic gyntaf?
Cymru v De Affrica (cic gyntaf 09:00)
Catrin Heledd
Gohebydd chwaraeon yn Yokohama
'Chydig funudau cyn y gic gyntaf a ma' 'na ddigon o hwyl yn y stadiwm!
Ma' 'na gystadleuaeth ar y sgrin fawr i chwarae’r bongos! Mae’r dorf wrth eu boddau, pawb yn chwerthin ac yn cymeradwyo ond ma’ pethau ar fin newid yn llwyr.
Pan fydd y ddau dîm yn camu allan fydd 'na densiwn... ma’r llen ar fin codi ar ddrama a hanner.
Cymru v De Affrica (cic gyntaf 09:00)
Yn ei golofn wythnosol i Cymru Fyw, mae bachwr Cymru Ken Owens yn edrych ymlaen at y gêm fawr.
"Mae 'na densiwn a nerfau o gwmpas y lle ond dyma'r math o wythnos lle ni angen cadw ein ffocws ni.
"Mae hi'n gêm enfawr yn erbyn De Affrica."
Cymru v De Affrica (cic gyntaf 09:00)
Gêm olaf ond un i brif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland heddiw.
Ai'r ffeinal yn erbyn yr hen elyn Lloegr fydd ei gêm olaf, neu gêm i benderfynu pwy sy'n gorffen yn drydydd yn erbyn ei wlad enedigol, Seland Newydd?
Mae newydd fod yn siarad â'r darlledwyr ar y cae cyn y gic gyntaf, gan ategu eto bod y garfan hon wedi "anghofio sut i golli".
"Wnawn nhw fyth rhoi'r gorau iddi, fyddan nhw wastad yn brwydro," meddai.
Cymru v De Affrica (cic gyntaf 09:00)
Lowri Roberts
Gohebydd chwaraeon yn Yokohama
Wal y cyn-enillwyr tu allan i'r stadiwm yn Yokohama. Tybed pwy fydd nesaf?
Cymru v De Affrica (cic gyntaf 09:00)
Fe fydd y gêm ddydd Sul yn garreg filltir bwysig i'r mewnwr Gareth Davies, fydd yn ennill ei 50fed cap dros ei wlad yn Yokohama.
Dywedodd mai'r gêm yn erbyn De Affrica fydd gêm fwyaf ei yrfa hyd yn hyn.
Cymru v De Affrica (cic gyntaf 09:00)
Y newyddion mawr o ran tîm De Affrica yw nad yw'r asgellwr Cheslin Kolbe yn holliach.
Sbu Nkosi sy'n cymryd ei le, a dyna'r unig newid i'r tîm drechodd Japan yn rownd yr wyth olaf.
Mae De Affrica hefyd wedi parhau gyda'u tacteg o enwi chwe blaenwr a dau olwr ar y fainc.
XV DE AFFRICA
Willie Le Roux; S'Busiso Nkosi, Lukhanyo Am, Damian de Allende, Makazole Mapimpi; Handre Pollard, Faf de Klerk; Tendai Mtawarira, Mbongeni Mbonambi, Frans Malherbe, Eben Etzebeth, Lood de Jager, Siya Kolisi (C), Pieter-Steph Du Toit, Duane Vermeulen.
Eilyddion: Malcolm Marx, Steven Kitshoff, Vincent Koch, RG Snyman, Franco Mostert, Francois Louw, Herschel Jantjies, Frans Steyn.
Cymru v De Affrica (cic gyntaf 09:00)
Mae Delme Thomas a disgyblion Ysgol Bancyfelin wedi bod yn dyfalu sgôr y gêm heddiw - ac nid pob un sy'n hyderus.
Mae ganddyn nhw hefyd gân i Gymru yn clodfori dau o sêr Cymru sy'n gyn-ddisgyblion yr ysgol - Jonathan a James Davies.