Crynodeb

  • Trydydd person yng Nghymru wedi marw oherwydd coronafeirws

  • 191 o achosion o coronafeirws yng Nghymru bellach, ond y gwir ffigwr yn debyg o fod yn llawer uwch

  • Meddygon sydd wedi ymddeol yn derbyn llythyr yn gofyn am gymorth

  • Ysgolion, bwytai, tafarndai a chanolfannau cyhoeddus eraill yn cau i ddiogelu'r cyhoedd

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 19:06 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    A dyna ni ar ddiwrnod lle cyhoeddwyd y bydd tafarndai, tai bwyta a bariau a chanolfannau cyhoeddus eraill yn cau heno er mwyn diogelu'r cyhoedd rhag haint coronafeirws.

    Ymunwch â llif byw Cymru Fyw bore fory ar gyfer y newyddion diweddaraf.

    Rhwng nawr a hynny mae mwy am effaith haint coronafeirws a straeon eraill y dydd ar ein gwefan.

    Nos da.

  2. Cyngor ariannol i fyfyrwyrwedi ei gyhoeddi 18:59 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    Twitter

    Cyngor amserol yma i fyfyrwyr yma ar sut i reoli arian yn sgil haint coronafeirws.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. 'Mae'n amser anodd'wedi ei gyhoeddi 18:56 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    Wrth ymateb i'r newyddion y bydd tafarndai yn cau heno dywedodd Adrian Emmett sy'n rhedeg tafarn yn Nhreorci nad oedd wedi dychmygu y byddai'n clywed newyddion o'r fath yn ystod ei fywyd.

    "Ond mae'n rhaid i ni weithredu," meddai, "ry'n ni i gyd yn yr un cwch.

    "Mae gen i £20,000 o stoc - bwyd a diod - a bydd yn rhaid i hwnna fynd.

    "Mae rhan fwyaf o dafarndai yn gwneud eu harian yn ystod y penwythnos ac yn mynd â'r arian i'r banc ddydd Mawrth - ond fydd dim arian yn mynd i'r banc ddydd Mawrth nesaf.

    "Mae'n amser anodd."

    tafarn TreorciFfynhonnell y llun, Google
    Disgrifiad o’r llun,

    "Mae'n amser anodd," medd un o dafarnwyr Treorci

  4. Rhybudd amserol Heddlu'r Dewedi ei gyhoeddi 18:46 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    Twitter

    Heddlu'r De yn rhybuddio pawb i fod yn wyliadwrus rhag twyllwyr.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  5. Codi canu, a chodi calonwedi ei gyhoeddi 18:40 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  6. Gweithredu Deddf Iechyd y Cyhoedd 1984wedi ei gyhoeddi 18:37 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd tafarndai, tai bwyta a bariau Cymru yn cau heno.

    Hefyd bydd canolfannau hamdden, campfeydd, sinemâu, theatrau a siopau betio yn cau.

    Mae iechyd wedi'i ddatganoli yng Nghymru ond fe fydd gweinidogion Llywodraeth Cymru yn gweithredu pwerau Deddf Iechyd y Cyhoedd 1984.

    Nid yn ysgafn y penderfynwyd hyn, medd y Llywodraeth - "ond mae e'r peth iawn i'w wneud er mwyn diogelu y mwyaf bregus yn ein cymdeithas".

  7. Ras Pen Cerrig Calch yn cael ei chynnalwedi ei gyhoeddi 18:29 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Er bod nifer o ddigwyddiadau wedi'u canslo neu wedi cael eu gohirio mae disgwyl i ras Pen Cerrig Calch gael ei chynnal ddydd Sadwrn.

    Mae'r trefnwyr wedi newid y ffordd y mae hi'n cael ei rhedeg - bydd cystadleuwyr yn dechrau ar wahân ac mae'r trefnwyr wedi diheintio'r tlysau.

  8. Yr M4 henowedi ei gyhoeddi 18:20 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    Fel arfer mae traffig trwm ar yr M4 o gwmpas Caerdydd - ond fel hyn oedd hi heno.

    M4 nos WenerFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    M4 nos Wener

  9. Galw am sefydlu labordy coronafeirws yn y gogleddwedi ei gyhoeddi 18:18 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    Plaid Cymru

    Mae Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wedi galw am sefydlu labordy profi am coronafeirws yng ngogledd Cymru ar frys, gan ddweud bod pryderon fod canlyniadau yn cymryd hir i gyrraedd o Gaerdydd.

    Yn ôl AC Arfon, Sian Gwenllian, mae gweithwyr iechyd wedi dweud wrthi ei bod yn cymryd hyd at dridiau i ganlyniadau cleifion Ysbyty Gwynedd gael eu prosesu.

    "Mae hynny'n rhy hir pan fod gennym bandemig sy'n datblygu'n gyflym, ac fe all cleifion sy'n cyrraedd fod yn gwasgaru'r feirws heb wybod," meddai.

    "Mae 'na drafod wedi bod am sefydlu labordy yn Ysbyty Glan Clwyd ond rydyn ni wedi clywed y gallai hynny gymryd mis."

    Sian Gwenllian
  10. Dim TAW am 12 mis i gwmnïauwedi ei gyhoeddi 18:06 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    Ychwanegodd y Canghellor na fydd yn rhaid i gwmnïau talu TAW tan ddiwedd Mehefin ac na fydd rhaid talu llog ar fenthyciadau cynllun busnes am 12 mis.

    Dywedodd Boris Johnson na fydd y prif rhwydweithiau trafnidiaeth yn cau am "eu bod yn rhy bwysig i sicrhau gwasanaethau cyhoeddus hanfodol".

  11. A all plant fynd i'r parc?wedi ei gyhoeddi 17:54 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    Yn yr un gynhadledd newyddion â'r Prif Weinidog Boris Johnson, mae Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Lloegr, Dr Jenny Harries, yn dweud bod cael y balans rhwng "lles corfforol a meddyliol" yn bwysig.

    "Ry'n am i blant wneud ymarfer corff," meddai, "ond nid mewn grŵp.

    "Byddai mynd ar y beic yn ymarfer da."

  12. Theatr Sherman Caerdydd yn cau ei drysauwedi ei gyhoeddi 17:45 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Cyfle i wrando ar y Gweinidog Addysg yn ateb cwestiynauwedi ei gyhoeddi 17:36 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  14. Llywodraeth i dalu 80% o gyflog rheiny sydd ddim yn gweithiowedi ei gyhoeddi 17:31 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    Bydd Llywodraeth y DU yn talu 80% o gyflog y rheiny sydd ddim yn gweithio, hyd at £2,500 y mis, yn ôl y Canghellor Rishi Sunak.

    Dywedodd bod y mesurau "digynsail" yn rhan o gynlluniau'r llywodraeth i ddiogelu swyddi.

    Mae nifer o gwmnïau wedi rhybuddio y byddan nhw'n mynd i'r wal yn sgil coronafeirws, gan beryglu miloedd o swyddi.

    Sunak
  15. Ymestyn y gohiriad ar bêl-droed domestigwedi ei gyhoeddi 17:26 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    Cymdeithas Bêl-droed Cymru

    Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi penderfynu ymestyn y gohiriad presennol ar bêl-droed domestig yng Nghymru ar bob lefel, tan o leiaf 30 Ebrill 2020 oherwydd pandemig Covid-19.

    Dywedodd y gymdeithas ei bod "yn llwyr ymroddedig i edrych ar bob opsiwn posib ar gyfer pob Cynghrair Cenedlaethol i orffen tymor 2019/20 drwy sicrhau bydd gemau’n cael eu chwarae cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny".

    "Yn fwy ‘na dim, y brif flaenoriaeth i CBDC yw iechyd a lle pawb," meddai eu datganiad.

    "Mae CBDC yn annog pawb i ddilyn cyngor Llywodraethau’r DU a Chymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    "Mae ein meddyliau gyda phawb sy’n cael eu heffeithio gan y pandemig hwn."

  16. Boris Johnson: 'Tafarndai a bwytai i gau'wedi ei gyhoeddi 17:17 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    Yn ei gynhadledd ddyddiol mae Prif Weinidog y DU yn dweud eu bod yn cryfhau'r mesurau gafodd eu cyhoeddi yn gynharach yr wythnos hon.

    Dywedodd Boris Johnson: "Rydyn ni'n dweud wrth gaffis, tafarndai a bwytai i gau heno cyn gynted ag y bo' modd, ac i beidio ailagor yfory."

    Bydd llefydd fel clybiau nos, sinemâu a champfeydd yn gwneud hynny hefyd.

    Ond dywedodd y byddai sefydliadau tecawê yn parhau ar agor.

    Boris JohnsonFfynhonnell y llun, Getty Images
  17. Canslo Pencampwriaeth Rygbi dan-20 y Bydwedi ei gyhoeddi 17:14 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    Twitter

    Ni fydd tîm dan-20 Cymru yn teithio i'r Eidal yn yr haf, wedi i gorff World Rugby ganslo'r bencampwriaeth!

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Meddyg yn rhannu ei brofiad ef o gael Covid-19wedi ei gyhoeddi 17:07 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    Mae un o feddygon gofal dwys mwyaf blaenllaw Cymru wedi disgrifio sut y cafodd ei heintio gyda coronafeirws yn nyddiau cynnar gwasgariad yr haint yng Nghymru.

    Dywedodd Dr Jack Parry-Jones y cafodd ei heintio bythefnos yn ôl gan glaf roedd meddygon yn credu oedd ddim â'r haint ar y pryd.

    Roedd hyn tua'r cyfnod ble roedd yr achosion cyntaf yn cael eu cadarnhau yng Nghymru.

    Dim ond yn ddiweddarach, pan wnaeth Dr Parry-Jones ddatblygu symptomau, y cafodd brawf am Covid-19.

    Mae'n credu bod ei brofiad ef yn dangos pa mor hawdd y gall coronafeirws gael ei drosglwyddo gan bobl sydd ddim yn credu eu bod wedi'u heintio.

    Dr Jack Parry-Jones
  19. Aelod o staff Carchar Brynguba â'r feirwswedi ei gyhoeddi 16:51 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    Mae'r BBC wedi cael gwybod bod aelod o staff yng Ngharchar Brynbuga, Sir Fynwy, yn yr ysbyty ar ôl cael coronafeirws.

    Dywedodd Gohebydd Materion Cartref y BBC, Danny Shaw bod yr aelod o staff mewn uned gofal dwys yn cael ei drin.

    Doedd y Weinyddiaeth Gyfiawnder ddim am wneud sylw i gadarnhau'r adroddiadau.

  20. Manylion y Post Prynhawn am 5wedi ei gyhoeddi 16:39 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    BBC Radio Cymru

    Bydd rhaglen y Post Prynhawn yn dod â'r newyddion diweddaraf i chi am 5 ar BBC Radio Cymru.