Crynodeb

  • Trydydd person yng Nghymru wedi marw oherwydd coronafeirws

  • 191 o achosion o coronafeirws yng Nghymru bellach, ond y gwir ffigwr yn debyg o fod yn llawer uwch

  • Meddygon sydd wedi ymddeol yn derbyn llythyr yn gofyn am gymorth

  • Ysgolion, bwytai, tafarndai a chanolfannau cyhoeddus eraill yn cau i ddiogelu'r cyhoedd

  1. Ymateb i anghenion cynulleidfawedi ei gyhoeddi 10:05 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    BBC Cymru Wales

    1/2

    Mae BBC Cymru Wales wedi cyhoeddi sut y bydd yn ymateb i anghenion newydd cynulleidfaoedd yn ystod argyfwng y Coronafeirws.

    Dywed Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru: “Ry’n ni mewn cyfnod heriol i gymunedau ar hyd a lled Cymru a’n ymrwymiad ni yw i fod yno i bawb.

    “Y flaenoriaeth yw sicrhau fod pawb yn cael y wybodaeth ddiweddaraf a hynny ar fyrder. Byddwn hefyd yn cynnig help llaw i filoedd o wrandawyr ar draws ein gwasanaethau radio ac yn codi’r ysbryd hefyd.

    “Mae’r dyddiau diwethaf wedi bod yn her i ni gyd ond mae gwydnwch a phroffesiynoldeb ein timau wedi bod yn anhygoel, a dwi’n gwybod fod cynulleidfaoedd yn gwerthfawrogi yr ymdrechion i’w diweddaru.”

    rtd
  2. Rhybudd am gapasiti'r GIGwedi ei gyhoeddi 09:53 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae galwadau ar bobl i beidio â chymryd "risgiau diangen" gyda gwaith o amgylch y cartref dros y misoedd nesaf.

    Mae meddygon yn bryderus y bydd cynnydd yn nifer yr anafiadau wrth i'r cyhoedd dreulio cyfnodau hir yn eu cartrefi oherwydd argyfwng coronafeirws.

    Dywedodd yr ymgynghorydd orthopedig, Awen Iorwerth bod capasiti'r GIG i ymdopi gyda chleifion sydd ag anafiadau yn "llawer llai" na'r arfer.

    DIYFfynhonnell y llun, Getty Images
  3. Yn Fyw: Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaethwedi ei gyhoeddi 09:44 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    Llywodraeth Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  4. Gohirio Eisteddfod Pontrhydfendigaidwedi ei gyhoeddi 09:39 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    Ymysg yr holl ddigwyddiadau sydd wedi’u canslo neu eu gohirio eleni mae Eisteddfod James Pantyfedwen ym Mhontrhydfendigaid.

    Mae’r eisteddfod eleni wedi ei gohirio tan ddiwedd Ebrill 2021 medd y trefnwyr.

    posterFfynhonnell y llun, Eisteddfodaubont
  5. Peidiwch cael eich 'sgamio'wedi ei gyhoeddi 09:28 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus o sgamiau yn ystod cyfnod y pandemig coronafeirws.

    Dywed y llu eu bod wedi derbyn adroddiadau am ebyst sydd yn hysbysu pobl fod ysgolion eu plant yn cau, ac yna’n gofyn am fanylion banc yr unigolion er mwyn eu cefnogi yn ystod y cyfnod hwn.

  6. Codi calon...codi canu....codi arian!wedi ei gyhoeddi 09:21 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Trafodaeth ddyddiolwedi ei gyhoeddi 09:14 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    BBC Radio Cymru

    Mae'r drafodaeth ar y Post Cyntaf wedi dod i ben am heddiw.

    Ond oes ganddoch chi gwestiwn yr hoffech ei ofyn, neu bryder am sefyllfa coronafeirws?

    Yn ystod yr wythnosau nesaf mi fydd modd i chi anfon eich cwestiynnau at raglen Taro’r Post ar BBC Radio Cymru.

    Bydd hanner awr ychwanegol yn cael ei chlustnodi rhwng 08:30 a 09:00 bob bore.

    Y rhif hollbwysig i’w ffonio ydy 037035 500500 neu ebostiwch post.cyntaf@bbc.co.uk

    post cyntaf
  8. Mwy am gyn-staff GIGwedi ei gyhoeddi 09:09 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae llythyrau wedi cael eu hanfon at feddygon a nyrsys sydd wedi ymddeol yng Nghymru a Lloegr yn gofyn iddyn nhw ddychwelyd i weithio i’r GIG mewn ymdrech i gymorthwyo gyda haint coronafeirws.

    Mae’r llywodraeth yn credu fod angen y cyn-weithwyr hyn roi hwb i wasanaethau rheng flaen y GIG yn wyneb y pandemig.

    Yn y cyfamser mae’r llywodraeth hefyd wedi addo y bydd y cyfarpar diogelwch perthnasol ar gael mewn ysbytai i ddiogelu staff dros y misoedd nesaf.

  9. Problem gyffredin?wedi ei gyhoeddi 09:02 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Anest Gwyn o Landwrog sydd gyda’r cwestiwn nesaf: Mae ganddi blant sydd yn 5 a 2. Mae’r ysgol yn cau heddiw a’r Cylch Meithrin wedi cau yn barod. Mae ei mam yn hunan ynysu felly sut mae hi a’i gŵr i fod i weithio adref a gwarchod plant bach?

    Yn ôl Huw Roberts mae hon yn sefyllfa anodd i lawer o bobl. "Mae plant yn gallu ymdopi…mae’n syndod pa mor glou y bydde nhw’n dod mewn i’ch patrwm gwaith chi…"

  10. Hawliau'r hunan-gyflogedig?wedi ei gyhoeddi 08:57 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Mae Angharad Lee o Donyrefail yn hunan-gyflogedig – ac am wybod am hawliau cyflogaeth yn y sector. Mae hi wedi gweithio i goleg dros bedair blynedd – beth yw ei hawliau?

    Yn ôl Huw mae’n dibynnu pa fath o gytundeb sydd ganddyn nhw. Os yn derbyn cyflog dan y system PAYE, mae’n debyg fod cytundeb yna a hawliau gan y gweithiwr.

    Ond os yn gweithio o dro i dro, heb gytundeb, mae’n anodd iawn. Dyw’r hunan gyflogedig heb gael llawer o sylw eto, hyd yn oed o ran hawlio statutory sick pay.

  11. Cyngor ariannolwedi ei gyhoeddi 08:52 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Y cyfrifydd ac arbenigwr ariannol Huw Roberts sydd wrth law ar Taro’r Post nesaf i gynnig cyngor am broblemau ariannol yn ystod yr argyfwng presennol.

  12. Cyngor anoddwedi ei gyhoeddi 08:45 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Ebost gan Prys Dafydd sydd nesaf. Mae ei fam yn 89 ac mae wedi cadw draw ers cyfnod bellach, ond mae ei chwaer sydd yn byw i ffwrdd yn gofyn iddo fynd i’w gweld.

    Mae Prys syn ei 50au ac yn iach, ac mae ei fam wedi cael sawl ymwelydd. Ydi o’n iawn i gadw draw?

    Ydach, meddai Dr Dai Lloyd. Y cyfarwyddyd ydi fod pobl sydd dros eu 70 i fyw arwahan am y 12 wythnos nesaf.

  13. Hunan ynysu'n hanfodolwedi ei gyhoeddi 08:40 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Cwestiwn gan berson di-enw nesaf: faint o amser mae’n ei gymryd i basio coronafeirws ymlaen?

    Meddai Dr Dai Lloyd: “Mae’n rhaid i bawb hynan ynysu am bythefnos achos dydan ni ddim yn gwybod yr ateb i gwestiynnau fel yna. Unrhyw ddowt, da chi yn hunan ynysu am 14 diwrnod.”

    dai lloyd
    Disgrifiad o’r llun,

    Dr Dai Lloyd yw un o'r rhai sy'n ateb cwestiynaau ar y Post Cyntaf heddiw

  14. Pryder diabeteswedi ei gyhoeddi 08:36 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Mae Nia Elias o Ben-y-bont yn fam i blentyn gyda diabetes math 1 ac yn pryderu am ei phlentyn. Yn ol Dr Dai Lloyd, mae angen i deulu yn y sefyllfa yma ymbellhau er mwyn diogelu iechyd y teulu.

    Mae na risg ychwanegol i rai sy’n byw gyda diabetes ac felly mae hunan ynysu yn briodol iawn i bobl sydd yn y sefyllfa yma.

  15. Trafodaeth arbennigwedi ei gyhoeddi 08:32 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    BBC Radio Cymru

    Ar hanner awr ychwanegol o’r Post Cyntaf y bore ma, mae na ddau arbennigwr ar gael i ateb eich cwestiynnau y meddyg teulu a’r aelod Cynulliad, Dr Dai Lloyd, a’r arbenigwr ariannol Huw Roberts.

  16. Gofyn i feddygon ddychwelydwedi ei gyhoeddi 08:25 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Bydd meddygon sydd wedi ymddeol yng Nghymru a Lloegr yn derbyn llythyr yn gofyn iddyn nhw ddychwelyd i'r Gwasanaeth Iechyd i gynorthwyo gyda'r argyfwng coronafeirws.

  17. Sarhau gweithwyr siopauwedi ei gyhoeddi 08:18 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae gweithwyr mewn archfarchnadoedd yn dweud eu bod wedi wynebu sarhad a hiliaeth wrth i siopwyr heidio yno yn sgil argyfwng coronafeirws.

    Dywedodd un gweithiwr yng Nghaerdydd bod siopau wedi bod yn "wallgof" a'i fod wedi cael effaith negyddol ar ei hiechyd meddwl.

    Yn ôl Usdaw, yr undeb sy'n cynrychioli gweithwyr mewn siopau, mae'r staff yn "chwarae rôl allweddol yn helpu'r wlad trwy'r argyfwng" ac mae angen eu cefnogi.

    siopFfynhonnell y llun, Getty Images
  18. Ffoniwch!wedi ei gyhoeddi 08:16 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    BBC Radio Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  19. Bore da!wedi ei gyhoeddi 08:15 Amser Safonol Greenwich 20 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Mae gan Cymru Fyw lif byw i ddod â'r diweddara' i chi am y coronafeirws heddiw.

    Cofiwch bod cyfle i chi ffonio rhaglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru i drafod unrhyw gwestiynau/pryderon sydd gennych.

    Gallwch wrando ar y rhaglen drwy glicio ar y linc ar frig y dudalen hon.