Hwyl am y trowedi ei gyhoeddi 18:24 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020
Dyna'r cyfan o'r llif byw am heddiw - diolch am ddarllen.
Fe fyddwn ni'n dychwelyd gyda llif byw arall bore fory.
Ymunwch gyda ni bryd hynny, ond hwyl fawr am y tro.
Y Cynulliad yn cydsynio i ddeddf newydd i daclo'r feirws
Un farwolaeth a 60 o achosion newydd o coronafeirws yng Nghymru
Mesurau newydd - pawb i aros adref heblaw i brynu bwyd neu weithio
Dyna'r cyfan o'r llif byw am heddiw - diolch am ddarllen.
Fe fyddwn ni'n dychwelyd gyda llif byw arall bore fory.
Ymunwch gyda ni bryd hynny, ond hwyl fawr am y tro.
Gohebydd BBC Cymru ar Twitter
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Hefyd yn ei gynhadledd i'r wasg heddiw fe wnaeth y Prif Weinidog gydnabod fod "bylchau fan hyn a fan draw" ar gyfer gwisg i ddiogelu staff y gwasanaeth iechyd.
Dywedodd Mark Drakeford fod offer priodol i amddiffyn yn erbyn coronafeirws "yn y system i bawb sydd ei angen".
Ychwanegodd bod "enghreifftiau unigol" ble nad oedd gwisg addas ar gael "dim mwy na hynny".
Cyngor Caerdydd
Mae Cyngor Caerdydd yn dweud eu bod yn ymwybodol fod rhai tafarndai yn parhau i anwybyddu'r gorchymyn i gau eu drysau.
Dywedodd y cyngor bod unrhyw un sy'n gwneud hynny yn wynebu cael dirwy a cholli eu trwydded.
"Mae'r rheolau yma nawr a nid cais yw e, ond gorchymyn llywodraeth," meddai'r aelod cabinet Michael Michael.
"Mae'n rhaid i ni oll chwarae ein rhan i achub bywydau pobl."
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Pa resymau dilys sydd yna dros adael eich cartrefi yn dilyn y gorchmynion diweddaraf gan y llywodraeth i aros adref?
Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd â'r ateb isod.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Wales News
Dylid ymestyn cyfnod trosglwyddo'r DU o'r Undeb Ewropeaidd yn sgil argyfwng coronafeirws, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Mae llythyr gan Mark Drakeford at Boris Johnson yn dweud y byddai peidio â gwneud hynny yn achosi rhagor o drafferthion economaidd.
Bwriad Llywodraeth y DU ar hyn o bryd yw sicrhau cytundeb gyda'r UE erbyn diwedd y cyfnod trosglwyddo ym mis Rhagfyr.
Dywedodd yr AC Ceidwadol, Andrew RT Davies bod ymyriad Mr Drakeford yn "rhyfedd".
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
RSPCA Cymru
Mae elusen anifeiliaid yr RSPCA wedi dweud y byddan nhw'n parhau i ddarparu gwasanaeth argyfwng yn unig er gwaethaf effeithiau coronafeirws.
Dywedodd y prif weithredwr, Chris Sherwood: "Er fod mwyafrif y wlad yn aros gartref, mae 'na anifeiliaid sydd angen ein help.
"Ry'n ni wedi cymryd camau er mwyn sicrhau ein bod yn delio ag achosion brys yn unig, fel ein bod yn gallu chwarae ein rhan yn atal lledaeniad y feirws a diogelu ein staff a'n gwirfoddolwyr."
Mae'r Prif Weinidog yn dweud bod "achos cryf" dros gau rhai safleoedd adeiladu.
Ond dywedodd Mark Drakeford fod y sefyllfa yn "gymhleth" wedi iddo fod yn siarad â phobl o fewn y sector heddiw.
Dywedodd bod "angen meddwl rhagor" am y sefyllfa, gan ychwanegu na fyddai eisiau gweld gwaith yn dod i ben ar faterion fel adfer amddiffynfeydd llifogydd neu adeiladu Ysbyty'r Grange ger Cwmbrân.
Llywodraeth Cymru
Mae modd gwylio cynhadledd i'r wasg y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn fyw ar gyfrif Twitter Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae Llywydd y Cynulliad, Elin Jones wedi cyhoeddi ei bod wedi cael prawf positif am Covid-19.
Mewn datganiad ar Twitter, dywedodd Ms Jones ei bod yn "teimlo'n iawn" a bod y symptomau wedi bod yn rhai "ysgafn iawn".
"Mae'r neges o fy mhrofiad i yn gwbwl glir - hyd yn oed gyda'r symtomau ysgafna' posib, mae'n rhaid hunan-ynysu," meddai.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'n stryd brysur iawn fel arfer, ond mae Ffordd y Ddinas yng Nghaerdydd bron yn wag y prynhawn yma.
Oes rhywun wedi dweud wrth y person yna am y mesurau newydd tybed?
Mae’r pencampwr Olympaidd o Gymru, Jade Jones, wedi rhybuddio am y baich seicolegol sy’n wynebu athletwyr elitaidd ar ôl y cadarnhad bod Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Tokyo 2020 wedi’u gohirio.
Dywedodd y seren Taekwondo 27 oed o'r Fflint ei bod yn cydnabod mai dyma’r unig ffordd bosib o weithredu yn sgil lledaeniad parhaus coronafeirws.
"Dwi'n wirioneddol gutted - rydych chi'n rhoi eich holl enaid am bedair blynedd, yna mae'n beth erchyll i beidio â bwrw ymlaen," meddai.
"Yn amlwg, iechyd sy'n dod gyntaf, a fy mlaenoriaeth fwyaf ar hyn o bryd yw amddiffyn fy nheulu a fy anwyliaid, a gwneud popeth y gallaf ei wneud i helpu i achub bywydau eraill.
"Ond fel athletwr elitaidd, mae'n anodd yn feddyliol."
Llywodraeth Cymru
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ar gaeau Llandaf, mae'r heddlu ar ddyletswydd ac yn barod i weithredu'r mesurau newydd i orfodi ymbellhau cymdeithasol mae'n debyg... sef dim mwy na dau berson gyda'i gilydd!
Oes diwedd i ddoniau maswr Cymru a'r Scarlets, Rhys Patchell??
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae cwmni awyrennau KLM wedi cyhoeddi newidiadau i'w hamserlen rhwng 29 Mawrth a 3 Mai oherwydd coronafeirws, dolen allanol.
Mae'n golygu na fydd y cwmni yn hedfan o Faes Awyr Caerdydd dros y cyfnod yna.
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Roedd teulu Karen MacIntyre Huws ymysg y cyntaf i ddechrau ynysu eu hunain wrth i coronafeirws gyrraedd Cymru.
Yma, mewn dyddiadur gonest, doniol a didwyll mae'n sôn yn agored am ei hofnau a'i gobeithion. Ac heddiw, wrth i bawb arall droi eu meddyliau at gau'r drws a chilio, mae'n rhannu ambell i ddarn o gyngor ymarferol hefyd...
Mark Drakeford yn pwysleisio'r neges - arhoswch adra/adref/gartre'/gytre/gartref/adre'!