Crynodeb

  • Y Cynulliad yn cydsynio i ddeddf newydd i daclo'r feirws

  • Un farwolaeth a 60 o achosion newydd o coronafeirws yng Nghymru

  • Mesurau newydd - pawb i aros adref heblaw i brynu bwyd neu weithio

  1. Map rhyngweithiolwedi ei gyhoeddi 11:36 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020

    Swyddfa Ystadegau Gwladol

    Mae pobl 70 oed a hŷn ymhlith y rhai sydd fwyaf mewn perygl o salwch difrifol o'r coronafeirws (Covid-19).

    Defnyddiwch map rhyngweithiol y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) i nodi pa ardaloedd sydd â'r ganran uchaf o bobl 70 neu 85 oed a hŷn.

    I ddewis ardal, cliciwch y ddolen yma, dolen allanol, nodwch god post neu hofran dros y map.

  2. Dim ymweliadau carcharwedi ei gyhoeddi 11:25 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020

    Twitter

    Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n caniatau unrhyw ymlweliadau â charchardai yng Nghymru a Lloegr heddiw.

    Mesur dros dro yw hwn tra eu bod yn gwneud trefniadau ar gyfer ymweliadau diogel yn y dyfodol.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  3. 'Angen i bawb fod yn ymwybodol o ddifrifoldeb yr haint'wedi ei gyhoeddi 11:22 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Yng nghyfarfod llawn y Senedd mae Caroline Jones o Blaid Brexit yn dweud wrth ACau "bod yn rhaid i bobl ddeall bod Covid-19 yn wahanol i'r ffliw".

    Mae'n dweud na ddylai pobl fynd i banic ond bod yn rhaid i bawb fod yn ymwybodol o ddifrifoldeb yr haint.

    Mae hi hefyd yn mynegi pryderon am lawer o bobl ar drafnidiaeth gyhoeddus.

    Dywed Mr Drakeford ei fod yn cynnal trafodaethau gyda Trafnidiaeth Cymru.

    Mae'n dweud bod y nifer sy'n teithio wedi gostwng ond mae'n cydnabod "bod angen gwasnaethau digonol er mwyn sicrhau nad yw pobl yn gorfod teithio'n rhy agos i'w gilydd".

    Caroline Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Caroline Jones o Blaid Brexit yn dweud "bod yn rhaid i bobl ddeall bod Covid-19 yn wahanol i'r ffliw".

  4. Mesurau'n dechrau brathuwedi ei gyhoeddi 11:18 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020

    Ar y diwrnod cyntaf o'r mesurau newydd sy'n galw ar bobl i aros adre, mae'n amlwg fod hynny wedi cael peth effaith yng nghanol Caerdydd.

    caerdyddFfynhonnell y llun, Wales News Service
  5. Tâl i bobl hunangyflogedig?wedi ei gyhoeddi 11:02 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Mae'r prif weinidog yn ategu galwad Sian Gwenllian o Blaid Cymru am arian ychwanegol i helpu gweithwyr hunangyflogedig.

    Dywed ei fod yn disgwyl clywed heddiw neu yn hwyrach yn yr wythnos am gyllid gan Lywodraeth y DU.

    Does gan Lywodraeth Cymru, meddai, ddim digon o gyllid i weithredu heb arian o San Steffan.

    Dywedodd Sian Gwenllian hefyd y dylid rhoi gliniaduron i blant ysgol sydd heb fynediad i gyfrifiadur fel eu bod yn gallu gwneud eu gwaith cartref.

    Dywedodd Mr Drakeford bod y gweinidog addysg yn ceisio canfod ffyrdd lle gall pobl ifanc gael cymorth gyda gwaith ysgol pan nad yw dysgu ar-lein yn bosib.

    Sian GwenllianFfynhonnell y llun, bbc
    Disgrifiad o’r llun,

    Sian Gwenllian yn holi am dâl i weithwyr hunangyflogedig yn y Senedd

  6. 999 i argyfwng yn unigwedi ei gyhoeddi 10:58 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae Heddlu'r Gogledd wedi bod yn derbyn galwadau brys diangen ac wedi cyhoeddi'r apêl yma.....

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  7. Clywch clywchwedi ei gyhoeddi 10:50 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  8. Cyflwyno cyllideb atodol i ddelio â'r haintwedi ei gyhoeddi 10:43 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Wrth ateb awgrym arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies, bod yn rhaid cyhoeddi cyllideb frys, mae'r prif weinidog yn dweud bod y Llywodraeth yn edrych ar holl wariant Llywodraeth Cymru er mwyn cael cyllid i gefnogi'r ymateb i haint coronafeirws.

    Mae Mark Drakeford yn dweud ei fod yn bwriadu cyflwyno "cyllideb atodol" a fydd yn "aildrefnu" gwariant "ar gyfer blaenoriaethau newydd a brys".

    Paul Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr, yn gofyn am gyllideb frys

  9. Cau canolfannau ailgylchuwedi ei gyhoeddi 10:38 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020

    Cyngor Sir Ddinbych

    Mae pob un o dair canolfan ailgylchu gwastraff cartref Sir Ddinbych wedi cau nes bydd rhybudd pellach.

    Mae'r cyngor sir yn pwysleisio nad ydy teithio i'r safleoedd hyn i gael gwared ar wastraff bellach yn rheswm dilys i adael eich cartrefi.

    "Bydd gweithwyr ar y safleoedd hyn yn cael eu hail-hyfforddi yn barod i'w hadleoli i gefnogi ein gwasanaethau casglu gwastraff allweddol wrth ymyl y ffordd ar gyfer gwastraff bwyd a gwastraff gweddilliol (bin du)," meddai llefarydd.

  10. 'Argyfwng meddygol gwaethaf ers canrif'wedi ei gyhoeddi 10:16 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Mae'r prif weinidog yn dweud wrth ACau bod yn rhaid i "bawb newid eu ffordd o fyw" yn sgil haint coronafeirws.

    Mewn datganiad yn y Senedd mae Mark Drakeford yn dweud bod Cymru yn wynebu "yr argyfwng meddygol gwaethaf ers canrif".

    Wrth egluro pam bod angen cyflwyno mesurau newydd i gyfyngu symudiadau pobl, mae Mr Drakeford yn dweud bod y gofynion ar wasanaethau'r GIG yng Nghymru yn arwyddocaol ac mi allai'r sefyllfa waethygu.

    Mark Drakeford
    Disgrifiad o’r llun,

    Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn annerch y Senedd

  11. Dim llawer o ACau yn bresennolwedi ei gyhoeddi 10:09 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Mae'r pleidiau gwleidyddol wedi penderfynu cyfyngu ar nifer yr aelodau sy'n bresennol yng nghyfarfod llawn y Senedd.

    Mae gan Llywodraeth lafur chwech aelod, y Ceidwadwyr tri, Plaid Cymru dau a Phlaid Brexit un.

    seneddFfynhonnell y llun, bbc
  12. Mark Drakeford yn fyw rwan...wedi ei gyhoeddi 10:04 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  13. Holi Mark Drakeford yn y Seneddwedi ei gyhoeddi 09:48 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020

    Cynulliad Cenedlaethol Cymru

    Bydd cyfarfod llawn y Senedd yn cychwyn am 10 - yn gyntaf cwestiynau i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford.

    Fydd yna ddim llif Senedd Fyw ar wahân heddiw ond bydd y diweddaraf am y trafodaethau i'w gweld yma.

    Y prynhawn 'ma, bydd yr aelodau yn trafod deddfwriaeth frys i daclo argyfwng coronafeirws.

    Yng nghadair y llywydd mae Ann Jones AC.

  14. Pa siopau fydd ar agor?wedi ei gyhoeddi 09:35 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020

    Wales Online

    Mae WalesOnline wedi cyhoeddi rhestr o'r siopau sydd yn dal i fod ar agor o heddiw ymlaen....

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  15. Pwy fydd yn sedd y Llywydd?wedi ei gyhoeddi 09:27 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020

    Oherwydd cyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol, dim ond 12 o'r 60 Aelod Cynulliad fydd yn bresennol yn y ddadl yn y Senedd heddiw.

    Gan na fydd Elin Jones yn medru cadeirio, y gred yw mai ei dirprwy - Ann Jones AC - fydd yn y gadair.

    Os na fydd hi'n medru bod yno, mae rheolau'r Cynulliad yn caniatau i David Melding gael ei ethol yn Llywydd dros dro.

  16. Mesurau ddim digon llym?wedi ei gyhoeddi 09:18 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020

    Post Cyntaf
    BBC Radio Cymru

    Wrth ateb cwestiynnau gwrandawyr ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru dywedodd yr aelod cynulliad, a'r meddyg teulu, Dr Dai Lloyd:

    "Da ni mewn sefyllfa o argfwng difrifol. Mae'r milwyr a'r fyddin yn y cefndir nawr yn gweithio, ond mi alla i weld y dydd pan fyddan nhw allan ar y strydoedd yn gwneud pethau, achos mae 'na dal gormod o ryddid.

    "Ac mae gormod ohonan ni allan o hyd. Mae mynd allan am un cyfnod o ymarfer corff yn un rhyddid yn ormod, yn fy marn i.

    "Mae eisiau bod yn gall ac yn gaeth nawr"

  17. Llywydd yn hunan-ynysuwedi ei gyhoeddi 09:13 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  18. Deddfwriaeth fryswedi ei gyhoeddi 09:09 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020

    BBC Cymru Fyw

    Bydd deddfwriaeth frys i daclo'r argyfwng coronafeirws yn cael ei drafod yn y Senedd yn ddiweddarach heddiw, ond gan nifer cyfyngedig o Aelodau Cynulliad.

    Fe fydd y mesur coronafeirws yn caniatáu Llywodraeth Cymru i gadw ac ynysu unigolion, atal cyfarfodydd torfol ac yn rhoi hawl i gau safleoedd.

    seneddFfynhonnell y llun, Getty Images
  19. Rhai ddim yn derbyn y neges?wedi ei gyhoeddi 09:01 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020

    Twitter

    Mae'n ymddangos nad yw'r neges wedi cyrraedd rhai!

    Dywed y trydarwr yma fod pobl yn dal i mynd i bysgota y bore 'ma ger Wrecsam.

    Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges twitter

    Caniatáu cynnwys Twitter?

    Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges twitter
  20. Dyfais arallwedi ei gyhoeddi 08:49 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020

    Twitter

    Fe sonion ni am y ddyfais yma ar ein llif byw ddydd Gwener....