Tawel yn Wrecsamwedi ei gyhoeddi 14:41 Amser Safonol Greenwich 24 Mawrth 2020
Pobl tref Wrecsam wedi talu sylw i'r mesurau newydd mae'n ymddangos.
Y Cynulliad yn cydsynio i ddeddf newydd i daclo'r feirws
Un farwolaeth a 60 o achosion newydd o coronafeirws yng Nghymru
Mesurau newydd - pawb i aros adref heblaw i brynu bwyd neu weithio
Pobl tref Wrecsam wedi talu sylw i'r mesurau newydd mae'n ymddangos.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn y Senedd, mae ACau wedi rhoi sêl bendith i gyfraith coronafeirws.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio gyda llywodraethau'r Deyrnas Unedig, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar y ddeddfwriaeth a ddylai gwblhau ei thaith drwy Senedd San Steffan ddydd Iau.
Mae'r ddeddfwriaeth yn cynnwys mesurau a fydd yn para am ddwy flynedd - bydd yn cael ei hadolygu bob chwe mis.
Mae'r gyfraith newydd yn rhoi'r hawl i awdurdodau i
Mae'r gyfraith yn cynnwys mesurau a fydd yn rhyddhau adnoddau mewn gwasanaethau cyhoeddus.
Gall gweinidogion ddweud wrth ysgolion am gau neu aros ar agor.
Bydd modd adleoli athrawon i ddelio â phrinder a chaniatáu pobl i ddychwelyd i'r gweithle yn gynt.
Er mai deddfwriaeth y DU yw hon, a gafodd ei thrafod yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Llun a'i hystyried gan yr Arglwyddi ddydd Mawrth a Mercher, roedd hi'n ofynnol i Aelodau Cynulliad roi caniatâd ffurfiol.
Mae Eco'r Wyddfa - sy'n cynnwys straeon o gymunedau yn nalgylch Dyffryn Peris - wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n cyhoeddi'r papur bro yn sgil y pandemig.
Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal ym mis Tachwedd y llynedd i drafod sefyllfa "argyfyngus" y papur.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyma'r sefyllfa yn Awstralia...

Mae hyd yn oed Meddygon Myddfai wedi gorfod ildio i bandemig Coronafeirws. Cafodd cynhadledd flynyddol Cymdeithas Meddygon Myddfai eleni, a oedd i fod i gael ei chynnal ar 27 Mehefin, ei chanslo.
Dywedodd ysgrifennydd y Gymdeithas, Dr Donald Williams, nad oedd modd osgoi’r penderfyniad o ystyried yr argyfwng presennol.
“Mae’n ddrwg gennym orfod siomi’r rhai a oedd wedi cytuno i gymryd rhan a’r bobl a oedd yn edrych ymlaen at ddod. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio y bydd yn bosibl aildrefnu’r digwyddiad ar gyfer y flwyddyn nesaf,” meddai.
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Mae Rhydian Gwyn Lewis a Betsan Morgan wedi bod yn teithio gwledydd Asia wrth i coronafeirws ymledu ar draws y byd.
Wrth i'r sefyllfa waethygu, a chyhoeddiad Boris Johnson nos Lun, bod yn rhaid i bawb aros yn eu tai, maen nhw wedi clywed eu bod nhw am gael gadael Malaysia, lle maen nhw wedi eu hynysu ers wythnos, i ddod yn ôl i Gymru.
Bu Rhydian yn ysgrifennu am eu profiad o fod wedi eu cau mewn stafell fach mewn hostel yn Kuala Lumpur cyn i'r cyhoeddiad ddod eu bod yn gobeithio gallu hedfan adref fore Mercher.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
BBC Radio Cymru
Roedd AS Mynwy - David Davies - ar Dros Ginio ar Radio Cymru yn egluro pam fod y llywodraeth wedi cyflwyno mesurau llym ar bobl am y cyfnod i ddod.
Roedd hefyd yn paentio darlun go dywyll am yr hyn allai wynebu'r Gwasanaeth Iechyd os na fydd pobl yn newid ymddygiad.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn y Senedd dywed y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething bod ddeddfwriaeth newydd fyddai'n rhoi pwerau newydd i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â haint coronafeirws yn "rhesymol".
Mae'n cynnwys mesurau fyddai'n caniatau i weinidogion Llywodraeth Cymru osod pobl mewn cwarantin, i gau safleoedd ac i adleoli athrawon.
Dywedodd Mr Gething bod angen y ddeddfwriaeth "i ddiogelu bywyd a iechyd cyhoeddus y wlad".
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio gyda llywodraethau'r Deyrnas Unedig, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar y ddeddfwriaeth a ddylai gwblhau ei thaith drwy Senedd San Steffan ddydd Iau.
"Dwi'n gofyn i aelodau a'r cyhoedd am eu hymddiriedaeth a'u cefnogaeth parhaus i gymryd y grymoedd yma," meddai Mr Gething.
"Dwi'n gofyn am y gefnogaeth i gymryd camau i achub cymaint o fywydau a phosib yma yng Nghymru."
Dyma'r datganiad gan y prif weinidog Mark Drakeford neithiwr am y mesurau llym newydd sydd mewn grym yng Nghymru o heddiw ymlaen i geisio taclo coronafeirws.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Chwaraeon BBC Cymru
Mae'r IOC - y corff sy'n rheoli'r Gemau Olympaidd - wedi cyhoeddi datganiad sy'n cadarnhau y bydd Gemau Olympaidd Tokyo 2020 yn cael eu gohirio, dolen allanol.
Does dim dyddiad pendant ar gyfer cynnal y gemau, ond fe fyddan nhw'n digwydd cyn haf 2021, medd y datganiad.
Mae Meinir Ffransis a'i gŵr Ffred yn dal yn sownd ym Mheriw wedi i'r wlad gau ei ffiniau oherwydd coronafeirws.
Maen nhw'n apelio am gymorth er mwyn medru dychwelyd i Gymru.
Dyma'r fideo diweddaraf gan Meinir...
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Heddlu Gogledd Cymru
Dywed Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn cael galwadau i'w llinell ddi-argyfwng gyda chwestiynau fel:
Mae swyddogion wedi bod yn cyfeirio pobl at wefannau'r llywodraeth, sydd, yn eu barn nhw, yn cynnwys yr holl atebion sydd eu hangen arnyn nhw.
Maen nhw'n apelio ar i bobl fod yn gall wrth ffonio i mewn er mwyn osgoi unrhyw straen ychwanegol ar y system.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn dweud bod unedau gofal critigol yng Nghymru yn 45% llawn.
Mae 15% o'r cleifion sydd yn yr unedau hynny naill ai wedi cael cadarnhad bod ganddynt yr haint neu mae amheuaeth ei fod arnynt.
Ychwanegodd bod cynlluniau i ddyblu nifer y gwelyau gofal critigol yng Nghymru i dros 300 a bod 600 yn rhagor o beiriannau anadlu wedi'u prynu.
Dywedodd ei fod wedi siarad â'i fam drwy ffenest y gegin ar Sul y Mamau.
Chwaraeon BBC Cymru
Mae trefnwyr Y Gemau Olympaidd yn cwrdd â chynrychiolwyr Llywodraeth Japan heddiw - gyda lle i gredu y gallai penderfyniad i ohirio'r Gemau yn Tokyo yr haf hwn gael ei wneud heddiw.
Ddoe, fe ddywedodd aelod o'r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol Dick Pound, mai'r tebygolrwydd yw y byddai'r Gemau yn cael eu cynnal flwyddyn nesaf.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi'r ffigyrau diweddaraf am coronafeirws yng Nghymru.
Mae un person arall wedi marw, gan ddod â'r cyfanswm yma i 17.
Yn ogystal mae 60 achos newydd wedi profi'n bositif am COVID-19 gan ddod â'r cyfanswm yna i 478.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn ystod y drafodaeth ar haint coronafeirws yn y cynulliad, mae Neil Hamilton o UKIP, yn nodi pwysigrwydd tyfu llysiau a hithau'n dymor y gwanwyn..
Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn ateb gan ddweud ei fod yn gobeithio bod y canllawiau newydd, sy'n gorchymyn dim ond un ymarfer corff y diwrnod, yn caniatáu iddo seiclo i'w randir.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn y Senedd mae Vaughan Gething,Y Gweinidog Iechyd, yn dweud ei bod yn mynd i fod yn gyfnod heriol a bod y sefyllfa yn mynd i waethygu cyn gwella.
"Dyma'r cyfnod mwyaf heriol o ran iechyd i Lywodraeth Cymru ers sefydlu'r Cynulliad," meddai.
Dyna pam, ychwanegodd, mae'r Llywodraeth wedi cysylltu â gweithwyr iechyd sydd wedi ymddeol yn ystod y tair blynedd diwethaf yn gofyn iddyn nhw ddychwelyd i'r gwaith.
Bydd yna gyfle hefyd i fyfyrwyr meddygol sydd yn eu blwyddyn olaf i weithio dros dro ac fe fyddant yn cael eu talu'n llawn am eu cyfraniad.